Jump to content

Effaith economaidd-gymdeithasol cymdeithasau tai Cymraeg

Comisiynwyd Savills gan CHC i asesu effaith cymdeithasau tai yng Nghymru ar draws tair thema: pobl, economi a gwasanaethau cyhoeddus.

Y senario benodol a gaiff ei modelu yn yr adroddiad hwn yw effaith damcaniaethol sylweddol cymdeithasau tai yn cyflenwi 20,000 o gartrefi newydd dros dymor pedair blynedd nesaf y Senedd.

Caiff yr adroddiadau pobl a gwasanaethau cymdeithasol eu seilio ar adolygiad llenyddiaeth a theori newid gyda’r effaith yn cael ei fodelu dros ddau gyfnod – y cyfnod adeiladu pedair blynedd a chyfnod gweithredol 30 mlynedd y cartrefi.

Mae’r model economaidd yn defnyddio dulliau sefydledig a ddatblygwyd gan Uned Ymchwil Economaidd Cymru (WERU) ac a ddefnyddiwyd mewn adroddiadau effaith blaenorol (2015, 2018). Defnyddiwyd data sylfaenol o arolwg o 20 o gymdeithasau tai Cymru (yn cynrychioli 67% o’r sector) yn ogystal â data o Gyfrifon Cynhwysfawr CHC i roi gwybodaeth bellach ar gyfer y dadansoddiad o batrymau gwariant. Cafodd effeithiau economaidd, yn cynnwys swyddi cyfwerth ag amser llawn a Gwerth Ychwanegol Gros, eu hamcangyfrif yn defnyddio cymarebau safonol o setiau data allweddol y llywodraeth.

Fe fydd cyfieithiad Cymraeg ar gael mor fuan ag sy'n bosib.