Jump to content

25 Mehefin 2020

Y cyfrifoldebau sy’n cael eu rhannu gan gymdeithasau tai a phreswylwyr

Y cyfrifoldebau sy’n cael eu rhannu gan gymdeithasau tai a phreswylwyr
Yr wythnos hon fe wnaethom lansio Pwyll Piau Hi mewn Tai, fframwaith a ddatblygwyd mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru fydd yn cefnogi cymdeithasau tai i gyflawni a chynnal dull gweithredu tryloyw at faterion iechyd a diogelwch gyda’u preswylwyr. Dyma’r fframwaith cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig.


Mae diogelwch tenantiaid yn hollbwysig ar gyfer cymdeithasau tai a byddant yn gweithio’n ddiflino er mwyn cynnal y safonau uchaf posibl. Bydd Pwyll Piau Hi mewn Tai yn cefnogi datblygiad strategaeth ymgysylltu ar ddiogelwch yn seiliedig ar dair egwyddor greiddiol: bod yn dyloyw, bod yn agored a bod yn atebol.


Mae’r rhain yn egwyddorion pwysig i’n holl aelodau a byddwn yn anelu eu cyflawni yn eu ffordd unigryw eu hunain. Mae’r fframwaith yn rhoi’r hyblygrwydd i gymdeithasau tai i gefnogi eu tenantiaid a sicrhau amgylchedd diogel ac iach mewn cartrefi yn y ffordd sydd fwyaf addas ar gyfer diwylliant ac arferion eu sefydliad.


Dair blynedd yn ddiweddarach, dylai digwyddiadau trychinebus Grenfell ddal fod yn fyw yn ein meddyliau wrth ystyried pam fod ymgysylltu dwyffordd gwirioneddol gyda thenantiaid mor bwysig, a’r hyn y gall y canlyniadau fod os esgeulusir hyn. Mae’r digwyddiadau hyn wedi gwneud i gymdeithasau tai ystyried, ac iawn felly, beth mae ymgysylltu effeithlon gyda’u preswylwyr yn ei feddwl a daethant yn agwedd allweddol o Pwyll Piau Hi mewn Tai. Mae’r ddogfen yn rhoi fframwaith cyson i ddatblygu’r berthynas rhwng landlordiaid a phreswylwyr ar iechyd a diogelwch ac yn amlinellu sut y dylid sefydlu llwybrau cyfathrebu os nad ydynt eisoes yn eu lle.


Wrth gwrs, ni chafodd y ddogfen hon ei datblygu heb fewnbwn y rhai sy’n gwybod orau – cymdeithasau tai a’u tenantiaid. Fe wnaethom ddod â’r rhai gyda phrofiadau a dealltwriaeth ddofn o iechyd a diogelwch ynghyd, a fedrodd roi gwybodaeth a dirnadaeth am yr hyn y dylai’r fframwaith ei gynnwys a’r ymrwymiadau y dylid eu gwneud. Fe wnaethom hefyd gysylltu gyda thenantiaid yng Nghynhadledd Flynyddol TPAS i brofi cynnwys y fframwaith, i ddeall profiadau tenantiaid sy’n derbyn gwybodaeth am ddiogelwch ac i ofyn pa wybodaeth am ddiogelwch y credant ddylai gael ei rhannu, sut y dylai gael ei rhannu a sut maent yn codi pryderon gyda’u landlordiaid.


Roedd ailadeiladu ymddiriedaeth tenantiaid a chryfhau’r berthynas gyda landlordiaid yn thema allweddol gyda phreswylwyr, ac roedd yn glir fod y tân yn Grenfell wedi datgelu a chreu ymdeimladau mawr o ddiffyg ymddiriedaeth, diymadferthedd a datgysylltiad. Caiff yr hyn y gwnaethom ei ddysgu ei adlewyrchu yn Pwyll Piau Hi mewn Tai , ond mae’n rhaid i’r gwaith hwn barhau i’r dyfodol.


Felly beth yw safon ofynnol y fframwaith?


Drwy ymrwymo i Pwyll Piau Hi mewn Tai, mae cymdeithasau tai yn cytuno i sicrhau tryloywder gyda phreswylwyr a rhanddeiliaid ar faterion iechyd a diogelwch. Mae’n sicrhau fod proses yn ei lle i roi gwybodaeth berthnasol a dealladwy i denantiaid ar iechyd a diogelwch.


Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ar larymau mwg, cyngor allweddol ar ddiogelwch tân, y strategaeth gwagu adeilad os oes tân, tystysgrifau diogelwch nwy, gwybodaeth am asbestos a gwybodaeth ar ddiogelwch trydanol. Mae’r fframwaith hefyd yn ymrwymo cymdeithasau tai i roi manylion ar sut i gael mwy o wybodaeth ar annedd, sicrhau bod gwybodaeth a chyngor yn rhoi ystyriaeth i anghenion gwahanol breswylwyr, a rhoi proses glir ar gyfer codi pryderon a chwynion.


Gobeithir y bydd y fframwaith yn sail ar gyfer rheoleiddio yng Nghymru yn y dyfodol. Cynlluniwyd egwyddorion yr ymrwymiadau i gael eu haddasu i ddarparu ar gyfer pob daliadaeth, yn cynnwys tai arbenigol neu gyfleusterau dros dro. Dylid gweithredu hyn yn gyffredinol fel safon ofynnol, fel y gall preswylwyr pob math o ddaliadaeth deimlo’n ddiogel a saff yn eu cartrefi.


Rhaid cofio fod mai isafswm yw’r ymrwymiadau a wnaed i gydymffurfio â Pwyll Piau Hi mewn Tai. Mae llawer o gymdeithasau tai yn mynd ymhellach a thu hwnt i’r rhain i gadw eu preswylwyr yn ddiogel, ac fel sector mae gennym uchelgais i fynd â’r safonau hyn ymhellach. Gwyddom fod dialog parhaus gyda phreswylwyr yn hanfodol i lwyddiant fframwaith o’r fath, ac felly hefyd ei adolygiad rheolaidd i sicrhau y caiff tenantiaid eu cefnogi yn y ffordd fwyaf effeithlon ar faterion iechyd a diogelwch.


Darganfyddwch mwy yma.