Jump to content

25 Ebrill 2017

Woodbuild Cymru 2017

Picture of a forest


Dim ond 6 wythnos sydd i fynd at ein cynhadledd flynyddol erbyn hyn - Woodbuild Cymru. Hon fydd ein cynhadledd gyntaf fel sefydliad annibynnol a ariannir gan ei aelodau.


Felly, mae'n amser cyffrous ac o gofio ein bod yn dal i fod yn dîm bach iawn - rydym wrthi fel lladd nadroedd. Rydym wrth ein bodd i gael cefnogaeth CHC i helpu gwneud y gynhadledd ar arddangosfa yn llwyddiant.


Mae gwreiddiau Woodknowledge Cymru fel corff sector dan arweiniad busnes a dderbyniai gyllid gan y llywodraeth i gefnogi datblygu diwydiant pren Cymru. Arweiniodd colli'r cyllid cyhoeddus at i ni droi yn sefydliad aelodau er-lles-y-cyhoedd - ac i fod yn onest, bu'n fendith gudd.


Fe wnaeth annibyniaeth o'r llywodraeth ein rhyddhau i ganolbwyntio ar y canlyniadau gorau posibl heb gael ein llesteirio gan fympwyon polisi cyhoeddus ac ansicrwydd cyllid llywodraeth. I Woodknowledge Wales, mae'r canlyniadau gorau posibl yn golygu mwy a gwell coedwigoedd, mwy o brosesu pren lleol a mwy a mwy o adeiladau'n cael eu gwneud allan o bren. Mae datblygiadau o'r fath yn dod â swyddi, yn arbennig mewn ardaloedd gwledig, a buddion amgylcheddol sylweddol - megis lliniaru newid yn yr hinsawdd a gwella bioamrywiaeth. Yn ychwanegol, caiff 85% o'r pren a ddefnyddir yn niwydiant y Deyrnas Unedig ei fewnforio felly nid oes prinder galw am bren sy'n rhoi llawer o gyfleoedd masnach. Does dim i beidio'i hoffi am ehangu sector diwydiannau coedwig Cymru.


Wrth gwrs, mae cael ein hariannu gan ein haelodau yn golygu fod angen i Woodknowledge Cymru roi gwerth diriaethol i'n haelodaeth fach ond sy'n tyfu'n gyflym. Mae'r model aelodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ni ganfod y cydbwysedd cywir rhwng gweledigaeth hirdymor a gwerth tymor byr - fel arall ni fyddwn yn llwyddo. Ar hyn o bryd mae gennym 20 aelod yn cynrychioli cwmnïau ar draws y gadwyn cyflenwi o reoli coedwigoedd, prosesu pren a gwneud cynnyrch hyd at gleientiaid adeiladu - llawer ohonynt o'r sector tai cymdeithasol.


Mae tair prif nodwedd i'n cefnogaeth ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Yn gyntaf, ar agwedd greiddiol darparu tai ansawdd uchel, deellir yn eang y bydd angen symud i ddulliau mwy systematig i ddarparu'r nifer ac ansawdd y cartrefi rydym eu hangen yng Nghymru. Mae pren yn ddeunydd gwych ar gyfer symudiad o'r math - p'un ai'n fodwlar hollol oddi ar y safle, panel caeedig rhannol oddi ar y safle neu banel agored mwy ar y safle. Mae ystod eang o opsiynau ac mae'n bwysig dod o hyd i'r datrysiad cywir i weddu anghenion cleientiaid a chyfyngiadau penodol prosiectau.


Yn ail, os ydym o ddifrif am liniaru newid hinsawdd yna mae angen i ni wella perfformiad ynni wrth ostwng effaith amgylcheddol adeiladu. Pren yw'r unig ddeunydd adeiladu y mae mwy o ddefnydd ohono mewn gwirionedd yn gostwng ôl-troed carbon adeiladu - yn rhannol oherwydd creu storfa garbon.


Er enghraifft, gall gosod pren mewn ffenestri yn lle uPVC ymddangos yn radical iawn i'r sector landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, ond mae datblygiadau diweddar yn galluogi ffenestri pren ansawdd uchel i fod yn llawer mwy gwydn a pherfformio'n well na uPVC- a gyda stori amgylcheddol llawer mwy cadarnhaol yn gysylltiedig. Yn fy marn i, mae'r symud ymaith o uPVC wedi bod yn llawer rhy hir yn cyrraedd.


Yn olaf, mae Woodknowledge Cymru yn cefnogi cleientiaid adeiladu i gaffael yn lleol ac mewn ffyrdd sy'n helpu diwydiannau lleol ac yn cefnogi hyfforddiant a datblygu sgiliau. Mae hynny'n rhwydd ei ddweud, ond yn wirioneddol eithaf anodd ei wneud mewn ffordd ystyrlon sy'n wirioneddol drawsnewidiol. Ar ôl dweud hynny, rydym yn falch iawn o'r Polisi Annog Coed newydd (Link to relevant page on WKW website) a fabwysiadwyd gan Gyngor Sir Powys. Mae'r polisi blaengar hwn y cyntaf yn y Deyrnas Unedig a chaiff ei lansio yn Woodbuild. Mae gan y polisi y potensial i drawsnewid y diwydiant coed lleol tra'n cyflawni cartrefi gwell, a gobeithiwn y bydd awdurdodau lleol yn dilyn.


Yn fy mlog nesaf ar gyfer CHC byddaf yn rhoi rhesymau cryf eraill pam y dylech ymuno â ni yn Woodbuild Wales 2017 yn Llandrindod ar 15 Mehefin.
Gary Newman
- Prif Swyddog Gweithredol Woodknowledge Cymru
(Twitter.com/WKWales)