Cyllideb Llywodraeth Cymru yn cadw cefnogaeth ar gyfer pobl agored i niwed
Cyllideb gymysg ar gyfer tai - y manylon sy'n bwysig
Cafodd cynllun sy'n achub bywydau ac yn diogelu pobl yng Nghymru sydd dan fygythiad digartrefedd ei hachub rhag toriadau yng nghyllideb ddrafft Cymru. Bu Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) ac elusen digartrefedd Cymorth Cymru yn ymgyrchu'n llwyddiannus dros i raglen Cefnogi Pobl gadw ei chyllid presennol am flwyddyn arall. Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd CHC Cymru: "Rydym yn hynod falch fod Llywodraeth Cymru wedi gwrando arnom ni a Cymorth Cymru. Bydd degau o filoedd o bobl agored i niwed ledled Cymru yn parhau i gael eu diogelu gan raglen hanfodol bwysig Cefnogi Pobl. Caiff llawer o'r cynlluniau hollbwysig hyn eu rhedeg gan gymdeithasau tai Cymru neu mewn partneriaeth gyda nhw ac mae'n dangos fod Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi gwaith ein sector."
Sefydlwyd rhaglen Cefnogi Pobl yn 2004 ac mae wedi helpu tua thri chwarter miliwn o bobl yng Nghymru. Mae'r bobl hyn yn cynnwys rhai sydd wedi dioddef cam-drin domestig, pobl gyda phroblemau iechyd meddwl neu gorfforol, anableddau dysgu, cyn aelodau'r lluoedd arfog a phobl hŷn. Cafodd ymgyrch Gadewch i ni Barhau i Gefnogi Pobl ei lansio gan CHC a Cymorth Cymru ar ôl i'r cyllid gael ei dorri gan £10m ddwy flynedd yn ôl.
Roedd mwy o newyddion da i'r sector tai cymdeithasol. Cafodd cyflenwi targed Llywodraeth Cymru o 20,000 o dai fforddiadwy hwb gyda £1.36bn o ddyraniad cyfalaf dros y pedair blynedd nesaf. Fodd bynnag mynegwyd pryderon go iawn am y gyllideb Adfywio yr ymddengys iddi gael ei thorri gan gyfanswm o 79%.
Wrth ymateb i'r cyhoeddiad am gyllid cyfalaf ac adfywio dywedodd Clarissa Corbisiero-Peters, Dirprwy Brif Weithredydd CHC: "Fe wnaeth gweinidogion ymateb i'n hymbil i fynd i'r afael â'r argyfwng tai sy'n gwaethygu'n barhaus drwy osod targed uchelgeisiol ar gyfer tai fforddiadwy o 20,000 cartref ar gyfer tymor hwn y llywodraeth.
"Rydym yn barod i gefnogi Llywodraeth Cymru i adeiladu'r cartrefi rydym eu hangen yng Nghymru. Mae'r cyllid hwn yn gam cyntaf pwysig i'n cefnogi i adeiladu'r cartrefi rydym eu hangen dros y flwyddyn nesaf. Mae gan gymdeithasau tai hanes cryf o lwyddiant ac maent yn barod i fuddsoddi eu harbenigedd a'u hadnoddau eu hunain wrth ochr y cyllid hwn i gyrraedd y targed uchelgeisiol.
"Rydym yn awr angen ymrwymiad cadarn gan Lywodraeth Cymru ar fanylion cyllideb ddrafft heddiw i sicrhau y bydd digon o gyllid cyfalaf i gyflawni'r targed ar gael dros gyfnod y Cynulliad."
Fodd bynnag mae amheuon am y cyllid ar gyfer adfywio. Ychwanegodd Clarissa Corbisiero-Peters: "Rydym yn bryderus iawn am y toriad mawr i'r gyllideb Adfywio ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru am eglurhad ar hyn fel mater o frys."