Jump to content

01 Ebrill 2019

Tymor y cynadleddau yn dechrau ymysg ansicrwydd am Brexit

Tymor y cynadleddau yn dechrau ymysg ansicrwydd am Brexit
Dylai'r wythnos hon fod yr wythnos gyntaf i ni (er gwell neu er gwaeth) beidio bod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd. Mae gennyf atgofion clir iawn am y dyddiau yn dilyn y refferendwm a ph'un ai oedd pobl yn hapus gyda'r canlyniad neu beidio, roedd yn awyrgylch rhyfedd. Roedd pobl ar bigau'r drain ac roedd yn glir fod rhywbeth enfawr ac eithriadol wedi digwydd. P'un ai oeddech yn gweld yr eithriadol hwnnw fel cyfle gwych neu drychineb arswydus, ni chredaf y byddai unrhyw un wedi disgwyl iddo fod yn ansicr dair blynedd wedyn.


Adeg ysgrifennu hyn, gwyddom fod y dyddiad ar gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi ei ohirio, ond fod y gohiriad hwnnw naill ai tan 12 Ebrill os na fydd cytundeb neu 22 Mai os oes cytundeb neu o leiaf ryw fath o gynllun. Gan mai Brexit yw'r prif ffocws yn San Steffan (fel y bu cyhyd) a'r cyfryngau, efallai na welsoch i Blaid Cymru gynnal eu cynhadledd wanwyn ym Mangor y penwythnos diwethaf. Nid yw'n syndod fod trafodaethau am Brexit ar ganol y llwyfan yno hefyd; mae'n bwnc na fedrir ei osgoi.


Roedd yr areithiau yn y gynhadledd yn canolbwyntio'n bennaf ar edrych ymlaen yn obeithiol, trafod cynlluniau Plaid Cymru yn dilyn Brexit ac etholiadau'r Cynulliad yn 2012 pan anelant fod mewn llywodraeth yn y Cynulliad. Bu hefyd nifer o deyrngedau a chyfeiriadau at yrfa a bywyd Steffan Lewis AC, a fu farw'n gynharach eleni.


Hon oedd cynhadledd wanwyn gyntaf Adam Price fel arweinydd ac roedd ei araith yn un optimistig a gwladgarol, yn canolbwyntio ar lle dylai Cymru fod yn y dyfodol yn hytrach na ble mae'n awr. Yn ystod ei ymgyrch etholiadol roedd wedi trafod ailfrandio Plaid Cymru fel Plaid Cymru Newydd ac roedd ei araith yn adlewyrchu hyn, gan siarad am ffyrdd arloesol o lywodraethu, newid systemau ac anelu i wella'r genedl drwyddi draw. Yn dilyn thema'r dyfodol, mae hefyd wedi penodi Delyth Jewell, AC newydd De Ddwyrain Cymru, yn Weinidog Cysgodol y Dyfodol, gan adleisio nod Plaid Cymru i fod yn "blaid y dyfodol". Efallai fod y swydd newydd hon yn gynnil yn gwatwar Llafur am greu swydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, a ddisgrifiodd Plaid fel y blaid sy'n llywodraethu yn "is-gontractio ei chydwybod i Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol heb unrhyw rym".


Roedd yr areithiau eraill dros y penwythnos yn cynnwys un gan Leanne Wood, y Llefarydd Tai, gyda'i haraith yn canolbwyntio ar annibyniaeth a sicrhau pe gall Plaid Cymru gynnal ymgyrch annibyniaeth, y byddai'n gwbl groes i ymgyrch Brexit ac y dylai annog undod a chysylltu yn hytrach na rhannu. Soniodd hefyd am yr angen i roi mwy o sylw i'r amgylchedd, gan gadw ei chyhoeddiadau mawr ar dai tan yr wythnos ddilynol, pan gyhoeddodd uchelgais ei phlaid i ddarparu 20,000 o dai cymdeithasol yn y Cynulliad nesaf.


Ar ei dychweliad i'r gynhadledd fel Aelod Cynulliad am y tro cyntaf ers 2011, datganodd Helen Mary Jones - AC Canolbarth Gorllewin Cymru a Llefarydd Iechyd Plaid Cymru, ei chefnogaeth i weithredu system gofal cymdeithasol debyg i'r Alban. Byddai hyn yn golygu y byddai gofal cymdeithasol yn cael ei gyllido drwy drethiant ac ar ddim ar y pwynt angen. Roedd yn cydnabod y gallai hyn olygu y byddai angen cynnydd mewn trethi, ond dywedodd y credai y byddai pobl yn hapusach i dalu trethi uwch i osgoi yr henoed yn colli eu cartrefi a'u cynilon er mwyn talu am eu gofal.


Agorodd cynhadledd Plaid Cymru dymor cynadleddau gwleidyddol Cymru ac efallai na chafodd lawer o sylw ar y cyfryngau Prydeinig oherwydd Brexit, ond mae'n edrych yn annhebyg y bydd hyn yn wahanol ar gyfer unrhyw un o'r cynadleddau eraill. Cynhadledd Llafur sydd nesaf, yn cychwyn ar 12 Ebrill, a allai fod yn ddiwrnod Brexit os na fydd cytundeb ac mae'n sicr mai hynny aiff â'r penawdau.