Treial Gwirio Costau Tai
"Fel rhan o'n hymagwedd Profi a Dysgu tuag at weithredu’r Credyd Cynhwysol (UC) rydym yn edrych yn barhaus ar ffyrdd y gallwn wella'r broses Credyd Cynhwysol i hawlwyr a’n rhyngweithio gyda Landlordiaid Cymdeithasol a’n holl bartneriaid cyflenwi. Rwy’n ysgrifennu atoch heddiw i amlinellu newid yn y ffordd y byddwn yn ceisio gwirio costau tai hawlwyr yn dilyn arbrawf llwyddiannus a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngogledd Orllewin Lloegr.
Fel rhan o'r broses hawlio newydd, o 18 Awst gofynnir i hawlwyr i ddod â datganiad rhent diweddar yn ogystal â chopi o’u cytundeb tenantiaeth i’w cyfweliad cais cyntaf newydd yn swyddfa'r Ganolfan Byd Gwaith.
Hysbysir hawlwyr y ffordd hawsaf o wneud hyn yw cael y wybodaeth hon gan eu landlord, a/neu roi caniatâd i’r Adran Gwaith a Phensiynau gysylltu â’u landlord yn uniongyrchol am y wybodaeth hon.
Bydd y broses hon yn gwella ac yn symleiddio'r broses gwirio costau tai. Yn ogystal, bydd yn ein galluogi i roi gwybod i chi ar y cyfle cyntaf bod eich tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.
Bydd y broses hon hefyd yn ein galluogi i dynnu sylw at unrhyw ôl-ddyledion rhent a all fod yn weddill fel y gallwn ystyried a oes angen Trefniant Talu Amgen. Os ystyrir bod Trefniant Talu Amgen yn briodol, byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am wybodaeth bellach i drefnu taliad rheoledig o’r elfen gost tai Credyd Cynhwysol o ddechrau’r cais. Gallwn hefyd, ar gais, drefnu didyniadau ar gyfer ôl-ddyledion rhent os maent yn ymwneud â'r eiddo y mae'r tenant yn byw ynddo ar hyn o bryd.
Gan adeiladu ar y trefniadau newydd hyn, bydd yr Adran yn parhau i edrych yn weithredol i'r dulliau eraill sydd ar gael i hwyluso rhannu data yn fwy hawdd gyda landlordiaid cymdeithasol.
Mae cydweithio rhwng yr Adran Gwaith a Phensiynau a landlordiaid cymdeithasol yn bwysig i ni ac yn cefnogi darpariaeth lwyddiannus Credyd Cynhwysol, ac rydym yn awyddus i barhau â'n cysylltiad a chydweithredi agos wrth symud ymlaen.
Mae'r Credyd Cynhwysol a Rhentu Tai Cwestiynau a Ofynnir yn Aml yn cynnig mwy o wybodaeth am Gredyd Cynhwysol ar gyfer landlordiaid, a gobeithiwn y byddwch yn cael defnydd ohono."