Trefniadau llywodraethiant newydd CHC - safbwynt y Cadeirydd
Bydd pawb ohonom a fu o gwmpas ers peth amser yn cydnabod y daeth llywodraethiant CHC ymhell.
Pan ymunais â'r Cyngor Cenedlaethol yn 2014, roedd CHC yn adolygu ei lywodraethiant ac yn ceisio symud ymaith o fodel cynrychioladol. Fe wnaethom lwyddo i ostwng y nifer aelodau'r Cyngor a nifer y cyfarfodydd, ond nid oeddem mewn gwirionedd wedi newid y sylfeini.
Y tro yma, rydym wedi llwyddo i gyflwyno Bwrdd seiliedig ar sgiliau yn lle'r Cyngor Cenedlaethol a'r Pwyllgor Gwaith. Mae 2017 yn flwyddyn bontio felly fe wnaethom ddechrau gyda'r chwe aelod a arhosodd o'r Pwyllgor Gwaith. Mae llywodraethiant corff aelodaeth yn her ddiddorol ac rydym yn dal i ganfod ein ffordd, ynghyd â swyddogion, wrth ganfod rôl y Bwrdd yng nghyswllt polisi. Enghraifft yma yw bod angen i'r Bwrdd sicrhau fod gan CHC adnoddau digonol i gefnogi aelodau gyda heriau fel y Credyd Cynhwysol, heb fynd o reidrwydd i fanylion polisi.
Cynhaliwyd ein cyfarfod cyntaf o'r Bwrdd agored ym mis Chwefror ac roeddwn yn falch gweld saith o bobl yn teithio'n wirfoddol i'r Canolbarth i fanteisio ar y cyfle o holi’r Bwrdd newydd. Y rhai oedd yn bresennol a osododd yr agenda gan ofyn cwestiynau am amrywiaeth o feysydd - tai gwledig, PAC, gwrthdroi ailddosbarthiad, rheoleiddio, Safonau'r Gymraeg, a chwestiwn am sut mae'r Bwrdd yn gwneud yn sicr fod CHC yn darparu gwerth am arian ymhlith materion eraill!
Bydd angen i ni recriwtio rhai aelodau newydd i'r Bwrdd erbyn diwedd y flwyddyn. Buom yn ffodus iawn i ddarbwyllo Ruth Marks, Prif Weithredydd presennol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, i fod yn Gadeirydd annibynnol ein Pwyllgor Enwebiadau newydd, gyda Walis George, Judith James a Michelle Reid yr aelodau eraill. Unwaith y cymeradwywyd ein matrics sgiliau byddwn yn recriwtio ac, am y tro cyntaf, yn edrych tu allan yn ogystal â thu mewn i'r sector. Gallwn recriwtio hyd at ddau aelod annibynnol.
Bydd yn flwyddyn brysur ac erbyn ei therfyn rwy'n edrych ymlaen at gael Bwrdd egnïol, amrywiol a heriol (i raddau!) yn ei le. Yn y cyfamser, os hoffai unrhyw un gael sgwrs gyda fi am unrhyw beth yn ymwneud â Bwrdd CHC, anfonwch air ataf neu ddod i'r cyfarfod agored nesaf os gwelwch yn dda.