Tenantiaid tai cymdeithasol Cymru sy'n derbyn Credyd Cynhwysol mewn dros £1 miliwn o ôl-ddyledion rhent
Dengys arolwg o gymdeithasau tai yng Nghymru fod gan denantiaid cymdeithasau tai sy'n derbyn Credyd Cynhwysol eisoes dros £1 miliwn o ôl-ddyledion rhent.
Dengys arolwg a gynhaliwyd gyda 3,475 o bobl sy'n byw mewn cartrefi cymdeithasau tai yng Nghymru fod gan bob person werth £420 o ôl-ddyledion ar gyfartaledd.
Heddiw mae Cartrefi Cymunedol Cymru, corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru, yn rhybuddio fod cynllun arweiniol budd-daliadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gwthio teuluoedd i ddyled, gan achosi dioddefaint a chaledi i denantiaid ac yn bygwth sefydlogrwydd ariannol cymdeithasau tai.
Yng Nghymru, dim ond i 40,000 o hawlwyr mewn cartrefi cymdeithasol a phreifat, 10% o'r ffigur ymestyn disgwyliedig, y cafodd y cynllun Credyd Cynhwysol ei ymestyn.
Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ynghyd â'i ffederasiynau partner y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban a Ffederasiwn Gogledd Iwerddon, yn galw ar frys ar y Llywodraeth i newid y "gwallau sylfaenol" gyda Credyd Cynhwysol ei ymestyn yn llawn. Mae hyn yn cynnwys diddymu'r "polisi dau blentyn" lle mai dim ond ar gyfer cost eu dau blentyn y mae teuluoedd yn awr yn derbyn budd-daliadau.
Mae'r polisi yn effeithio ar denantiaid cymdeithasau tai ar draws y Deyrnas Unedig, gyda thenantiaid cymdeithasau tai yn Lloegr ag ôl-ddyledion yn gyfanswm o £21.6 miliwn, tra bod gan denantiaid yr Alban ymhell dros werth £1.2 miliwn o ôl-ddyledion.
Mae'r pedair ffederasiwn tai, sy'n cynrychioli mwy na 1,000 o gymdeithasau tai ar draws y Deyrnas Unedig, yn dweud fod problemau difrifol gyda'r system yn cynnwys tenantiaid yn colli miloedd o bunnau pan gânt eu hailasesu. Dywedwyd fod y 'polisi dau blentyn i'r 'terfyn cap budd-daliadau' hefyd yn gwthio teuluoedd i dlodi gan na fyddant mwyach yn derbyn budd-daliadau i dalu am gost bwyd a dillad ar gyfer mwy na dau o blant.
Aeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i'r afael â rhai o wallau'r Credyd Cynhwysol yn y gyllideb ddiwethaf ym mis Hydref 2017 ac mae eisoes wedi ymrwymo i wneud rhai newidiadau cyn ei ymestyn yn yr haf. Fodd bynnag, dywed y pedair ffederasiwn tai nad yw'r newidiadau hyn yn ddigon ac maent yn awr yn annog y Llywodraeth i wneud pum newid hollbwysig cyn yr ymestyn nesaf sydd i ddigwydd eleni, pan gaiff cannoedd o filoedd yn fwy o bobl eu symud i'r Credyd Cynhwysol.
Pump newid hanfodol sydd eu hangen i'r Credyd Cynhwysol
1. Galluogi staff ac asiantaethau cefnogaeth tai, megis Cyngor Ar Bopeth, i negodi hawliadau Credyd Cynhwysol ar gyfer unigolion bregus. Bydd hyn yn sicrhau fod pobl yn derbyn y taliadau hollbwysig mae ganddynt hawl iddynt ac yn helpu i ostwng ôl-ddyledion rhent.
2. Diddymu'r 'polisi dau blentyn' a'r 'terfyn cap budd-daliadau' sy'n gwthio teuluoedd i dlodi.
3. Sicrhau y caiff Credyd Cynhwysol ei dalu i bobl a'u landlordiaid ar amser, ar yr un amser. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi sefydlu system o drefniadau talu amgen fel y gellir talu costau tai pobl yn uniongyrchol i'w landlord. Ar hyn o bryd mae'r landlordiaid yn derbyn yr arian hwn fel ôl-daliad ar ddyddiadau amrywiol ac anwadal sy'n achosi dryswch. Gofynnir am sicrwydd bod landlordiaid yn derbyn taliadau rhent ar yr un pryd ag y cânt eu tynnu o fudd-dal tenantiaid.
4. Cytunodd yr Adran Gwaith a Phensiynau i roi Cymorth Cynhwysol yn ei le i roi cyngor, cymorth a chefnogaeth i denantiaid. Mae'n rhaid iddynt ei addasu i ymdopi gyda mwy o niferoedd ac achosion mwy cymhleth ac i roi'r cyllid i gefnogi mwy o denantiaid. Mae pobl fregus yn ei chael yn anodd canfod eu ffordd drwy system newydd Credyd Cynhwysol.
5. Mae angen i'r Llywodraeth adfer lwfansau mewn-gwaith a diwygio'r rheolau fel nad yw'r hunan-gyflogedig, y rhai sy'n gweithio yn yr economi gig gyda thâl amrywiol neu'r rhai na chânt eu talu'n fisol ar eu colled. Mae'r polisïau presennol yn golygu bod pobl yn colli arian fel canlyniad o symud i'r Credyd Cynhwysol.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Cartrefi Cymunedol Cymru: "Rydym yn croesawu'r newidiadau diweddar i'r Credyd Cynhwysol ond fel y saif, mae'r system yn dal heb fod yn llwyr addas i'r diben. Byddai gweithredu'r pum newid a geisiwn yn gwella dull gweithredu'r polisi ac yn grymuso tenantiaid i gymryd cyfrifoldeb am eu cyllid. Fodd bynnag, er mwyn gwneud hyn, mae'n hollbwysig y cynigir cefnogaeth am drefnu arian er mwyn gwella llythrennedd ariannol a digidol ymysg aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas."