Jump to content

29 Hydref 2018

Tenant o Gaerdydd yn cyflawni ei huchelgais gyda help Tai Taf

Tenant o Gaerdydd yn cyflawni ei huchelgais gyda help Tai Taf
Fel rhan o'i hymrwymiad i godi uchelgais, mae Cymdeithas Tai Taf yn rhoi cyllid craidd i raglen gyrfa 'Adeiladu'r Dyfodol'. Mae’r raglen yn cynnig mynediad i leoliadau gwirfoddol ansawdd uchel, hyfforddiant gydag achrediad am ddim, prentisiaethau a phartneriaethau gydag ysgolion lleol, addysg bellach ac addysg uwch.


Roedd Pauline yn ddigartref pan glywodd am Tai Taf.


Esboniodd Pauline:


"Y tro cyntaf i mi glywed am Gymdeithas Tai Taf oedd pan soniodd fy Ngweithwyr Cymorth yn Llamau ac YMCA wrthyf am yr hyfforddiant am ddim oedd ar gael. Bryd hynny roeddwn yn gwneud llawer o gwaith gwirfoddol ac yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith.


"Rhoddodd gwirfoddoli hwb mawr i fy hyder ac roedd yn edrych yn dda ar fy CV, ond roeddwn yn ei chael yn anodd dod o hyd i swydd oherwydd nad oedd y cymwysterau angenrheidiol gen i. Drwy Gymdeithas Tai Taf, fe wnes yr hyfforddiant Cymorth Cyntaf Argyfwng yn y Gwaith a wedyn yr hyfforddiant Diogelwch Bwyd. Dyna beth wnaeth fy helpu i gael swydd lawn-amser fel Cymhorthydd Gofal!


"Yn 2017 symudais i fflat hyfryd yn un o gynlluniau Cymdeithas Tai Taf. Rwyf mor hapus i gael fy nghartref fy hun o'r diwedd.


"Rwyf bob amser yn dweud wrth bobl y gallwch ddysgu ar unrhyw oedran a chynyddu eich sgiliau, profiad a hyder i gyflawni eich uchelgais mewn bywyd, fel y gwnes i. Fyddwn i byth wedi cyflawni hynny heb gefnogaeth Tai Taf."


Trwy gynnig cyfleoedd i denantiaid ddysgu sgiliau newydd, mae Tai Taf hefyd yn magu hyder a mynd i'r afael ag ynysu.


Dyna pam ei bod mor bwysig ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth sector i ddod yn bwynt mynediad i denantiaid i gael gafael ar wasanaethau lleol, gan datgloi potensial. Darllenwch fwy am ein gweledigaeth yma.