Jump to content

18 Ionawr 2023

Tai Tarian yn greadigol wrth rannu cyngor arian gyda thenantiaid

Tai Tarian yn greadigol wrth rannu cyngor arian gyda thenantiaid

Mae Tai Tarian yn defnyddio’r wasg draddodiadol a’r dulliau cyfryngau cymdeithasol diweddaraf i rannu cymorth, cyngor a siarad yn uniongyrchol gyda thenantiaid am y help sydd ar gael iddynt gyda chostau byw.

Daeth papur newydd chwarterol Tai Tarian yn adnodd costau byw allweddol ar gyfer ei 9,000 o denantiaid eleni. Yn ogystal â rhannu’r newyddan lleol diweddaraf mae Stephanie Davies, o dîm cynhwysiant ariannol y gymdeithas tai, wedi cael rôl newydd fel colofnydd i siarad yn uniongyrchol gyda thenantiaid am y gwahanol fathau o gymorth sydd ar gael iddynt.

C: Sut oeddech chi’n teimlo pan ofynnwyd i chi ddod yn golofnydd?

Stephanie: Roedd yn gyffrous iawn cael llwyfan i rannu ein cyngor gyda phob tenant. Ar ôl gwneud y gwaith hwn am flynyddoedd lawer, gwyddom pa mor anodd y gall pethau fod i denantiaid a gyda chostau’n codi’n gyflym, roedd yn teimlo fel amser gwirioneddol bwysig i roi sylw i waith ein tîm.

C: Nid yw pob cymdeithas tai yn cyhoeddi ac yn postio papurau newydd at denantiaid – pam fod Tai Tarian yn dal i deimlo ei fod yn dal yn ddull pwysig o gyfathrebu?

S: Yn dilyn Covid-19, fe wnaeth ein tîm cyfathrebu adolygu sut mae tenantiaid yn clywed am bopeth yn ymwneud â Tai Tarian. Bu cyswllt wyneb-i-wyneb yn gyfyngedig oherwydd y pandemig a bu llawer o ddibyniaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Penderfynodd y tîm lansio Cartref, papur newydd chwarterol newydd sbon fel ffordd o ailgyflwyno ein hunain i denantiaid, gan eu galluogi i glywed yn uniongyrchol gennym yn rheolaidd ar y pethau sy’n bwysig iddynt.

C: Beth yw eich cynllun ar gyfer y golofn nesaf?

S: Rydym wrthi’n gorffen rhifyn yr Hydref – mae hynny’n bwrw golwg ar yr holl gymorth sydd ar gael ar hyn o bryd i aelwydydd a’r meini prawf ar gyfer pob taliad. Y neges allweddol i denantiaid yw cysylltu gyda’n tîm os ydynt mewn trafferthion gyda chostau byw a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol dros y misoedd i ddod.

C: Pa adborth gawsoch chi gan denantiaid a’ch cydweithwyr am ddarllen eich cyngor da ac awgrymiadau?

S: Bu’n gadarnhaol iawn. Roedd llawer yn synnu ein bod yn mynd yr ail filltir i gefnogi ein tenantiaid drwy helpu tenantiaid i wneud cais am fudd-daliadau, apeliadau am fudd-dal, cael arian grant a hefyd dalebau banc bwyd a baban yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth. Rydym hefyd wedi bod yn defnyddio sianeli cyfathrebu manwl i rannu gwybodaeth gyda chydweithwyr y maent wedyn yn ei roi i deulu a ffrindiau.

Mwy o wybodaeth

E-bost financialinclusion@taitarian.co.uk

Mae staff Tai Tarian hefyd wedi troi’n ddylanwadwyr cyfryngau cymdeithasol i rannu fideos cyflym ar gymorth costau byw. Mewn ymgais i gynnwys tenantiaid ar y platfformau maent eisoes yn eu mwynhau, mae tîm cynhwysiant ariannol y gymdeithas tai yn rhoi gwybodaeth ar y cymorth diweddaraf sydd ar gael i denantiaid ac eraill. Mae Rachel Gardiner-James, swyddog cyfathrebu, yn dweud mwy wrthym am sut a pham y gwnaethant greu’r fideos hyn gyda staff fel wynebau yr ymgyrch.

C: Sut wnaethoch chi benderfynu pa bynciau i roi sylw iddynt yn eich fideos?

Rachel: Gyda’r argyfwng costau byw yn achosi poen meddwl mawr i lawer, roedd ein tîm cynhwysiant ariannol yn awyddus nid yn unig i hyrwyddo sut y gallant helpu ond hefyd i dynnu sylw at y cymorth ariannol sydd ar gael, gan nodi meini prawf allweddol a dyddiadau talu disgwyliedig. Er fod peth ffocws yn y fideos ar waith y tîm i gefnogi ein tenantiaid, mae llawer o’r cynnwys yn berthnasol i gynulleidfa llawer ehangach, yn defnyddio fideo byr fel y bachyn.

C: Pam ei bod hi’n bwysig cael staff yn cyflwyno’r fideos hyn?

R: Mae ein tîm mewnol mor angerddol a gwybodus am eu gwaith fel ei bod yn wirioneddol bwysig mai nhw oedd wynebau’r ymgyrch. Rydym hefyd wedi medru rhannu’r cynnwys gyda chydweithwyr, gan ddangos ein bod yn llawer mwy na ‘dim ond landlord’ a rhoi gwybodaeth cymorth pwysig iddynt hefyd.

C: Pa gyngor sydd gennych chi i gymdeithasau tai eraill sydd eisiau creu fideos cyfryngau cymdeithasol?

R: Eich pobl yw eich ased fwyaf, rhowch ran iddynt, defnyddio eu gwybodaeth a chael tipyn o hwyl.

C: Beth yw ymateb tenantiaid?

R: Mae’n gadarnhaol. Mae pobl wedi cael y fideos a wnaethom hyd yma yn rhwydd eu deall ac yn braf ac anffurfiol. Mae rhai pobl wedi holi i wneud yn siŵr fod budd-daliadau’n ffitio mewn gyda rhai meini prawf felly bu’n wych cael y cwestiynau cyffredin hynny a allai hefyd fod wedi achosi penbleth i bobl eraill. Mae defnyddio platfformau fel TikTok yn golygu y bu’r cyswllt mwyaf gyda rhai nad ydynt yn denantiaid yn rhoi eu profiadau eu hunain am gael y gwahanol botiau o arian, newidiadau i fudd-daliadau yn effeithio ar hawliadau a rhwystredigaeth na fydd yr arian yn mynd yn ddigon pell.

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau neu hoffech chi gael mwy o wybodaeth ar sut y cafodd y cynllun ei drefnu? Anfonwch neges E-bost at

Ewch i dudalennau Facebook, Instagram, TikTok a Twitter Tai Tarian i weld rhai o’u fideos hyd yma.