Jump to content

11 Mai 2023

Blog Costau Byw

Blog Costau Byw

Costau byw i waethygu ar gyfer tenantiaid cymdeithasol os nad yw Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithredu’n gyflym – rhybudd arbenigwr CHC

Mae Hayley MacNamara, rheolwr polisi a materion allanol Cartrefi Cymunedol Cymru ac sy’n arwain ar gostau byw ar ein rhan, yn manylu sut y mae’r argyfwng costau byw parhaus wedi cael effaith drom ar fywydau tenantiaid tai cymdeithasol – a sut y mae’n edrych y bydd pethau yn gwaethygu.

Wrth i’r dyddiau ymestyn a’r tywydd ddechrauu cynhesu, rwy’n edrych ymlaen yn fawr at droi’r gwres i ffwrdd a pheidio clywed sŵn darnau arian yn fy mhen bob tro mae’r boeler yn clicio. Dywedaf hyn o safle breintiedig iawn y gallaf hyd yn oed gael y gwres ymlaen.

Y realaeth i lawer o bobl yw eu bod yn edrych ymlaen at i’r haul dwymo eu cartrefi yn y misoedd i ddod, oherwydd fod costau ynni wedi golygu na fu’r boeler ymlaen lawer y gaeaf hwn – mae’n rhy ddrud.

Ers iddo ddechrau ddiwedd 2021, mae’r argyfwng costau byw wedi taro tenantiaid tai cymdeithasol yn arbennig o galed. Mae llawer o bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol ar incwm isel neu’n hollol ddibynnol ar fudd-daliadau, felly mae llawer o’u harian eisoes yn mynd tuag at gost rhedeg eu cartrefi.

Ond wrth i brisiau bwyd, tanwydd ac ynni barhau i gynyddu, daeth dod â deupen llinyn ynghyd yn her ddyddiol – ac mae’r sefyllfa yn annhebyg o wella yn y dyfodol agos.

Dangosodd arolwg Resident Voice Index yn ddiweddar fod bron wyth ym mhob deg o denantiaid tai cymdeithasol (78%) yn bryderus drwy’r amser neu’r rhan fwyaf o’r amser am dalu treuliau byw misol – cynnydd o 10% ar Wanwyn 2022.

Roedd canfyddiadau Cyngor ar Bopeth a rannwyd ar ei ddangosfwrdd costau byw yn drawiadol iawn, gan roi manylion eu gwasanaethau, yn Ionawr 2023. Mae’r graff dilynol yn ddarlun digalon o’r hyn y gallwn ei ddisgwyl yn nhermau costau a chymorth yn y misoedd i ddod ar gyfer aelwydydd incwm isel yng Nghymru a Lloegr.

Disgwylir y bydd costau byw yn parhau i godi drwy’r gwanwyn, aros yn eu hunfan drwy’r haf a chodi eto yn yr hydref. Ar yr un pryd byddwn yn gweld cymorth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru – ar ffurf y cynllun cymorth tanwydd a thaliadau costau byw – yn gostwng.


Graph showing the rise in living costs compared to Cost of Living Payments, Benefits and the Welsh Fuel Support Scheme.

Yng Nghymru. strategaeth hirdymor Llywodraeth Cymru yw cyfarch costau ynni y dyfodol ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol drwy wella effeithiolrwydd ynni eu cartrefi drwy gynlluniau tebyg i’r rhaglen Cartrefi Cynnes. Er bod cymdeithasau tai yn cefnogi ac yn gweithio i gyflawni’r nod, nid yw’n trin y cynnydd tymor byr parhaus mewn costau ynni sy’n wynebu tenantiaid tai cymdeithasol sy’n dibynnu ar gynllun cymorth tanwydd y llywodraeth a’r cynllun gostwng biliau ynni.

Caiff y sefyllfa anodd iawn hon ei gwaethygu ymhellach gan denantiaid tai cymdeithasol oherwydd eu bod yn talu’n anghymesur fwy am ynni. Fel arfer mae pobl ar fesuryddion ynni blaendalu yn talu mwy oherwydd costau sefydlog drud a weithredir gan rai cyflenwyr ynni, ac mae bron holl denantiaid tai cymdeithasol Cymru yn defnyddio mesuryddion blaendalu.

Mae’n achos pryder y gorfodwyd rhai tenantiaid i gael mesuryddion blaendalu wedi eu gosod yn ystod yr argyfwng cyfredol, ac rydym yn falch i weld fod Ofgem a Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn edrych o ddifri ar yr ymarfer hwn, ar ôl i bryderon gael eu codi sawl gwaith gan Jack Sargeant AS, ymysg eraill.

Wrth i gymdeithasau tai weithio i gefnogi tenantiaid ar lawr gwlad, gan sicrhau eu bod yn cael mynediad i’r holl gymorth y mae ganddynt hawl iddo, buom yn gweithio gyda’r sector i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru i ostwng pwysau costau ynni ar gyfer holl denantiaid tai cymdeithasol Cymru.

Fel y manylir yn ein hadroddiad Amser Gweithredu, rydym yn parhau i alw am:

  1. Ddileu taliadau sefydlog drud ar fesuryddion blaendalu ar unwaith

  2. Creu tariff cymdeithasol is newydd ar gyfer y rhai mewn tlodi tanwydd, a

  3. Mandad fod cyflenwyr ynni yn rhoi blaenoriaeth i osod mesuryddion deallus yn lle mesuryddion blaendalu pan fydd tenant yn symud allan.


Ers i ni gyhoeddi’r adroddiad hwn ym mis Hydref 2022, gwelsom beth cynnydd, yn cynnwys cyhoeddiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd yn parhau i ddarparu cymorth costau ynni i fusnesau drwy’r Cynllun Gostyngiad Biliau Ynni (fydd yn weithredol i gymdeithasau tai, yn cynnwys cartrefi gofal). Fodd bynnag, gyda phrisiau yn dal yn uchel, erys i weld os y bydd y cam nesaf hwn o gymorth (o gymharu gyda’r Cynllun Cymorth Biliau Ynni blaenorol) yn wirioneddol gymharol gyda’r gostyngiad a ragwelir mewn prisiau ynni cyfanwerthu.

Roedd Cyllideb Gwanwyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyfle i drin yr heriau hyn. Roeddem yn falch i weld y Canghellor yn cyhoeddi y bydd costau mesurydidon blaendalu yn debyg i rhai cwsmeriaid debyd uniongyrchol o 1 Gorffennaf – fodd bynnag bydd y newidiadau hyn yn rhy hwyr ar gyfer tenantiaid tai cymdeithasol sy’n wynebu trafferthion.

Fe wnaethom gwrdd gyda Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, ym mis Tachwedd i gynnig syniadau a fyddai’n helpu i roi cymorth i denantiaid ar yr amser anodd hwn. Ers hynny mae’r Gweinidog wedi cwrdd a symud ymlaen gyda thrafodaethau gyda Ofgem ar greu tariff cymdeithasol biliau ynni, ond roeddem yn siomedig i weld na chafodd hyn ei gynnwys yn y Gyllideb Gwanwyn.

Llesiant fel rhwyd ddiogelwch hanfodol

Mae’r cynnydd mewn biliau ynni, ac yn wir yr holl argyfwng costau byw, wedi dileu y dewis ar gyfer y bobl fwyaf amddifadus yn ein cymdeithas yn fwy amlwg nag erioed. Mae cynifer wedi gorfod dewis rhwng bwyta a gwresogi, ac mae hyn yn yn ein hatgoffa pa mor hanfodol yw rhwyd ddiogelwch tai da a chymorth llesiant priodol. Mae angen i ni sicrhau fod y system llesiant yn rhoi cefnogaeth ddigonol fel nad yw’n rhaid iddynt byth orfod ystyried dewis rhwng hanfodion.

Rydym yn argymell fod polisïau llesiant presennol yn cael eu gwella a bod y rhwyd ddiogelwch yn cael ei chryfhau, yn cynnwys drwy gynyddu’r Lwfans Safonol Credyd Cynhwysol.

Mae eraill yn dweud pethau tebyg i ni: mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Trussell a Sefydliad Joseph Rowntree yn argymell diwygio’r Credyd Cynhwysol i sicrhau y caiff isafswm lefel cymorth yn gwarantu y gall pobl dalu am hanfodion. Mae eu dadansoddiad yn dangos fod 90% o aelwydydd incwm isel ar Gredyd Cynhwysol yn mynd heb hanfodion ar hyn o bryd. Yn lle hynny, cynigiant ‘warant hanfodol’ y byddai angen iddo fod o leiaf £120 yr wythnos ar gyfer oedolyn sengl a £200 ar gyfer cwpl.

Bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynyddu budd-daliadau o fis Ebrill 2023 yn unol â chwyddiant, ond fel y dangoswyd yn narogan Cyngor Ar Bopeth, mae’n debyg o fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Yn 2021 fe wnaethom gyhoeddi tystiolaeth yn ein hadroddiad Llawer i’w Golli a ddangosodd – hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw - bod cymorth llinell sylfaen y Credyd Cynhwysol ar gyfer costau byw bob dydd yn rhy fach i helpu pobl i ddod â deupen llinyn ynghyd.

Nid yw’r ffaith fod y tywydd twymach yn dychwelyd i Brydain yn golygu y bydd pethau’n mynd yn rhwyddach yn awtomatig. Nid dim ond problem gaeaf yw’r argyfwng costau byw. Yn wir, rhagwelir y bydd y caledi economaidd yn gwaethygu i aelwydydd ar incwm isel. Mae diwedd cynllun cymorth tanwydd gaeaf, a chostau uchel parhaus bwyd, tanwydd a hanfodion, yn golygu y bydd pobl yn dal i wynebu anawsterau ac y byddant angen cymorth ychwanegol er mwyn medru ymdopi.

Daeth y dewis i dorri’n ôl yn fraint. I lawer o denantiaid tai cymdeithasol, cafodd y brethyn ei dorri eisoes mewn mwy ffordd nag un ac mae cymdeithasau tai yn gweld mwy a mwy o’r bobl sy’n byw yn eu cymunedau yn cyrraedd pwynt argyfwng.

Beth mae cymdeithasau tai Cymru yn ei wneud?

Mae cymdeithasau tai yng Nghymru yn cymryd eu rôl yn cefnogi tenantiaid drwy gyfnodau ariannol heriol o ddifri calon, a gwnânt bopeth a fedrant i sicrhau fod pobl yn byw mewn cartrefi diogel, addas, cysurus a fforddiadwy, yn cynnwys darparu gwasanaethau cadernid ariannol fel rhan o’u busnes craidd.

Gall pob tenant gael mynediad i’r gwasanaethau hyn unrhyw amser yn ystod eu tenantiaeth ond mae’n achos pryder fod galw uchel iawn amdanynt ar hyn o bryd wrth i bobl geisio mwy o gyngor nag arfer.

Dangosydd arall o’r anawsterau cynyddol sy’n wynebu pobl gyda chostau bwyd ac ynni yw’r cynnydd mewn galw am gronfeydd caledi cymdeithasau tai. Mae hyn er fod cymdeithasau tai wedi sicrhau cyllid ychwanegol dros gyfnod penodol i hybu eu gwasanaethau cyngor ynni a chymorth llesiant cymunedol.

Os ydych yn denant cymdeithas tai sy’n bryderus am neu’n cael trafferthion gyda rhent a chostau rhedeg cartref, cysylltwch â’ch cymdeithas tai yn uniongyrchol cyn gynted ag y medrwch. Mae tîm lleol arbenigol ar gael i’ch cefnogi.

Pa gymorth mae tenantiaid tai cymdeithasol ei angen yn awr?

Bydd diwedd cynllun cymorth tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru a’r cynnydd parhaus a ragwelir mewn costau byw sylfaenol yn anochel yn arwain at i fwy o bobl fod angen cymorth ariannol. Galwn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau fod y llwybrau presennol i gymorth ariannol – yn cynnwys Taliadau Tai Dewisol a’r Grant Atal Digartrefedd – yn ddigonol, gyda llwybr clir i gael mynediad iddynt, ac y cânt eu darparu mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai er mwyn ymestyn y cyrraedd i’r eithaf.

Mae cymdeithasau tai mewn sefyllfa unigryw i ddynodi a chefnogi aelodau mwyaf bregus cymdeithas drwy’r argyfwng costau byw. Drwy weithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai, gall Llywodraeth Cymru dargedu cymorth i’r rhai sydd fwyaf ei angen.

For more information on our cost of living work visit our in-depth cost of living hub.

For media queries contact media@chcymru.org.uk