Jump to content

04 Mai 2022

Tai cymdeithasol yn cael sylw mewn tystiolaeth ar ddatgarboneiddio

Tai cymdeithasol yn cael sylw mewn tystiolaeth ar ddatgarboneiddio

Mewn cyfarfod pwyllgor yn y Senedd yn ddiweddar, galwodd Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC) a chymdeithasau tai Cymru am gynllun cyflenwi clir ac wedi’i ariannu’n ddigonol er mwyn gwireddu’r uchelgais o ddatgarboneiddio cartrefi presennol.

Rhannodd Clarissa Corbisiero, Dirprwy Brif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru, lwyfan gyda Gavin Dick, Swyddog Polisi Cymdeithas Genedlaethol Landlordiaid Preswyl (NRLA) a Matthew Dicks, Cyfarwyddwr CIH Cymru, i roi tystiolaeth i’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith.

Wrth annerch y pwyllgor, cefnogodd Corbisiero yr uchelgais i fuddsoddi mewn cartrefi presennol a nododd fod hyn yn neilltuol o bwysig ar adeg pan mae gwasgu ar incwm wrth i gostau byw barhau i gynyddu. Fodd bynnag, dywedodd pawb a roddodd dystiolaeth nad oes cynllun cyflenwi clir yn ei le i ddatgarboneiddio cartrefi presennol.

Dywedodd Corbisiero fod Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn rhan defnyddiol o’r pos, ond na fyddai’n ddigon ar ei ben ei hun i alluogi’r sector cymdeithasau tai i gynyddu’n gyflym. Galwodd am rannu dysgu a data o’r rhaglen yn fwy effeithlon a rhoi cynllun clir, ymarferol a gyda chyllid ar waith.

Yn gynharach yn y dydd, rhoddodd cynrychiolwyr o Linc Cymru, Grŵp Pobl a ClwydAlyn dystiolaeth ar y cyd ar bwysigrwydd cael cefnogaeth lawn i gyrraedd targedau sero-net. Nododd cynrychiolwyr y cymdeithasau tai y gall diffyg eglurdeb am natur y gwaith a’r amserlen ar gyfer ymestyn olygu fod ymgysylltu a chyfathrebu yn anodd.

Rhoddodd David Lewis (Cyfarwyddwr Gweithredol Eiddo a Buddsoddiad, ClwydAlyn), Wayne Harris (Cyfarwyddwr Rheolaeth Asedau Strategol, Grŵp Pobl) a Louise Attwood (Cyfarwyddwr Gweithredol, Linc Cymru) enghreifftiau o denantiaid oedd yn amharod i dderbyn cynigion ôl-osod oherwydd nad ydynt eisiau tarfu ar eu cartrefi, hyd yn oed os byddai hynny’n arbed arian iddynt yn yr hirdymor.

Nododd Scott Sanders (Prif Weithredwr, Linc Cymru) bwysigrwydd rhaglen ariannu barhaus gan y byddai’n rhoi sicrwydd i’r gadwyn gyflenwi ac yn caniatáu cynllunio hirdymor heb darfu.

Yn ychwanegol, nododd Attwood y byddai angen i agwedd gystadleuol sicrhau cyllid ddod i ben gan nad oes unrhyw enillwyr na chollwyr, yn neilltuol oherwydd fod gan gymdeithasau tai ddyletswydd i osod y mesurau datgarboneiddio.

Gallwch ddarllen y papurau cefnogi a gyflwynwyd gan y rhai a nodwyd uchod yma.

Gallwch weld cofnodion o’r cyfarfod yma.

Cafwyd peth o destun yr erthygl hon gan CAMLAS.