Jump to content

07 Ebrill 2017

Tai Arloesol #1 – Tai ar gyfer Cenhedlaeth Zed

Picture of a ZEDPodPhoto credit: ZEDPods


I alluogi aelodau i fanteisio i’r eithaf ar raglen Tai Arloesol Llywodraeth Cymru, bydd CHC yn cyhoeddi cyfres o flogiau’n edrych ar rai o’r gwahanol fodelau o dai arloesol sydd ar gael i’r sector, yn ogystal â rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am fanylion y rhaglen ei hun.


Ysgrifennwyd y blogiad cyntaf gan Hugh Russell, Swyddog Polisi CHC ac mae’n edrych ar ZedPods.





ZEDPods_Parking New Homes from ZEDfactory on Vimeo.


“Y cyfan dwi ei angen yw sied a maes parcio”, meddai Bill Dunster, sefydlydd y Zed Factory a grym arloesol a enillodd wobrau am ei bensaernïaeth fodern.


Mae Bill yn fy nhywys i, ynghyd â chynrychiolwyr o Crisis, y Wallich a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, o amgylch prototeip o ZedPod - nid dim ond cartref ond cyllell byddin y Swistir! Teclyn hyblyg a all agor llu o broblemau sy’n wynebu landlordiaid cymdeithasol ac, yn neilltuol, y tenantiaid a’r darpar denantiaid hynny sydd rhwng 18 a 35 oed ac yn dibynnu ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gostau tai.


Wedi’i godi ar bileri cul uwchben 4 gofod parcio (2 ohonynt yn dal i fod yn hygyrch i geir yn y prototeip a welsom, er y gellid o bosibl roi 3 cerbyd rhwng y podiau), mae’r ZedPod yn gartref bychan, niwtral o ran ynni ar gyfer un (neu ddau yn rhannu). Mae’n drawiadol ei wedd, er ei bod yn anodd cael llawer o syniad o'r prototeip gan y gellir diwygio'r cladin i weddu gwahanol fanylebau a syniad Bill yw'r ffordd fwyaf defnyddiol fyddai gosod y podiau mewn terasau’n wynebu ei gilydd, gyda llenni gwydr y ddau ben i rannau canol y teras.


Yn gynnes, golau a thaclus, cafodd y tu mewn ei gynllunio i wneud defnydd da o’r holl ofod sydd ar gael. Mae bwrdd yn plygu i mewn i’r wal, gyda dwy gadair plygu fyny yn mynd yn daclus tu ôl iddo pan na chaiff ei ddefnyddio. Mae’r gofod cegin/bwyta lawr grisiau yn fychan ond cysurus, gyda digon o le ar gyfer soffa, unedau cegin, hob/popty ac yn y blaen. Cynlluniwyd pob cartref gyda theras lle mae bwrdd a dwy gadair, gan gynyddu faint o ofod byw sydd ar gael i denantiaid. Lan grisiau mae gwely dwbl symudol a gofod desg, gan roi lle i astudio.


Ar hyn o bryd mae’n costio £65,000 i brynu’r adeilad, ond mae Bill yn gobeithio y gellir gostwng hyn gan £10,000 os datblygir ar raddfa fawr. Mae’n gwrthod hyd yn oed drafod gostwng costau cydrannau, gan ddweud mai manylion fel y ffenestr gwydr trebl a’r haen sylfaen gyda phatent sy’n gwneud yr adeilad yn llwyddiannus. Mae’n sôn am y cyfle i ostwng costau ar y llinell adeiladu ac yn frwd o blaid cael y bobl hynny sy’n ffurfio’r grŵp tenant targed i adeiladu eu cartrefi eu hunain, lle’n briodol.


Yn gyfle ansawdd uchel a chost isel ac yn cynnig gwaith i denantiaid, mae’r ZedPod eisoes yn gynnig diddorol, hyd yn oed cyn dechrau ystyried yr ystod o fanteision ychwanegol a gynigir:
  • Dim biliau ynni i denantiaid - Daw pŵer o baneli ffotofoltaig ar y to, yn bwydo batri lithiwm ion a gedwir o dan y tŷ, a ategir gan drydan o’r un ffynhonnell pŵer a ddefnyddir gan oleuadau stryd. Edrychodd Bill ar 30 maes parcio gwahanol fel cartrefi posibl ar gyfer ZedPods a gallent i gyd gyflenwi digon o ynni.

  • Ni chafodd yr adeiladau eu cynllunio i sefyll ar wahân, fel y gwnaiff yr un yma yn y Parc Menter. Yn lle hynny maent yn tyrru ynghyd i greu cymunedau cyfan mewn terasau, gyda’r potensial am ofodau agored cymunol, neu hyd yn oed rannu ceginau, rhwng y terasau.

  • Mae system sylfeini gyda phatent yn golygu nad yw’r maes parcio yn derbyn mwy o bwysau o bob cartref nag a fyddai o un car ac, mae’n debyg, byddai angen tanc i wneud argraff sylweddol ar y trawstiau dur sy’n dal y tŷ i fyny. Gallai hyn gynnig defnydd ar gyfer gormod o ofodau parcio a orfodwyd ar ddatblygiadau cymdeithasau tai yn ystod y broses cynllunio (er bod Bill yn rhagweld y caiff meysydd parcio archfarchnadoedd a pharcio a theithio eu defnyddio, y gallai’r ddau ohonynt roi mynediad i ganolfannau trefol a swyddi i denantiaid).

  • Rhagwelir cylch oes o hanner can mlynedd (er bod Bill yn credu y bydd ei dai yn parhau am lawer mwy). Mae Bill yn awgrymu y byddai ‘pecyn adnewyddu’ £8,000-£10,000 ar ôl 25 mlynedd yn cadw’r adeilad yn edrych fel newydd.

  • Mae ansawdd y cartrefi yn uchel, yn neilltuol o gofio am y gost. Dywedir na fedrir tolcio’r waliau ac mae Bill yn disgrifio’r cyfan fel ‘aerglos iawn, gwydn iawn, ymwrthodol iawn i dân’.

  • Gellir rhoi cladin o unrhyw fath, gan amrywio golwg yr adeiladau. Gellir addasu’r maint hefyd.

  • Defnyddir insiwleiddiad Rockwool ym mhob rhan ar gyfer dibenion acwstig ac insiwleiddio gwres anllosgadwy (yn wir mae risg tân ym mhobman wedi ei ostwng - gwneir y decin o bren gydag ardystiad FSC wedi ei drin i fod yn anllosgadwy ac mae’r cladin yn debyg; dywed Bill fod profion trwyadl wedi dangos amser llosgi o un awr unrhyw le yn yr adeilad).

  • Mae fersiwn swyddfa ar gael, a all fod o ddiddordeb arbennig i’r rhai sy’n darparu tai a chymorth.

  • Waliau sy’n anadlu - nid yw’r ZedPods yn defnyddio seliau rheoli anwedd, gan olygu nad yw lleithder yn aros yn y tŷ ac ni ddefnyddir unrhyw elfennau iwrethan. Yn lle hynny, mae pilyn aerglos hydraidd i anweddau yn golygu ei fod yn gallu anadlu.

  • Mae pwyntiau siarsio cerbydau trydan wedi’u gosod ar y wal, gyda llygad i’r dyfodol (rhagwelir y gallai pŵer trydan fod y prif ddull o yrru pob car newydd a werthir ym Mhrydain erbyn 2027)

  • Bydd cymdeithasau tai sydd wedi ymrwymo i gadw eu gwariant yng Nghymru yn falch i glywed fod Bill yn awyddus i weithio yma – caiff llawer o’i gydrannau, megis y fframiau dur wedi galfaneiddio eu hadeiladu yma eisoes ac os gall sefydlu ffatri mewn warws, mae’n gwybod fod gweithlu ar gael yn ne Cymru a all adeiladu ei gynnyrch. Mae’n cymryd barn holistig am y broses ac yn awyddus bod ZedPods yn darparu cyfleoedd cyflogaeth cynaliadwy.





Mae adeiladu’r Zedpods yn broses hynod syml. Cafodd yr un a welsom ei adeiladu ar y safle mewn diwrnod, yn defnyddio dim ond cerbyd fforch godi. Yn yr un modd, mae adeiladu ffatri yn broses syml, eto angen dim ond cerbyd fforchgodi a llafur heb sgiliau. Caiff y cydrannau eu gwneud mewn man arall a’u rhoi at ei gilydd mewn warws. Mae Bill yn awyddus i sefydlu warws yng Nghymru, gyda ‘pharth dangos’ gyda gweithwyr yn cael eu lletya ar yr un safle, yn ddelfrydol mewn ZedPods a adeiladwyd ganddyn nhw eu hunain. Mae’n amcangyfrif y bydd angen 240 metr sgwâr o ofod ffatri yr wythnos i bob ZedPod.


Codwyd rhai pryderon yn ystod ein sgwrs, ac atebodd Bill nhw’n syth. Cafodd pryder am fygdarthau o’r ceir wedi’u parcio islaw eu haen yn hyderus y byddai llygredd aer ar y safle yn is nag mewn unrhyw stryd breswyl ym Mhrydain, ar y sail nad yw ceir wedi parcio yn cynhyrchu unrhyw fygdarth. Byddai planhigion mewn tybiau ar ddwy ochr o’r tŷ yn gwella ansawdd aer. Gellid gosod system chwistrellu, serch hynny, fel gyda chynlluniau eraill, mae’n golygu cost ychwanegol. Gellir trafod pryderon am gydlyniaeth cymunedol gyda theras cymysg o bodiau sengl a dwbl, gan olygu y gallai landlordiaid letya cymysgedd o ddemograffeg tenantiaid, a byddai ychwanegu lifft (a’r potensial ar gyfer fersiynau un-llawr o’r podiau i eistedd o dan y fersiynau deulawr). Caiff dillad eu sychu yn yr ystafell ymolchi neu drwy beiriant golchi/sychu.


Cyflwynir dau gynnig ariannol:
  1. Mae'r podiau ar les tymor hir - mae gan Bill fuddsoddiadau yn ei gefnogi a byddai'n dymuno adennill costau ar gyfer ei fuddsoddwyr ond byddai hyn yn dal i fod yn opsiwn rhad.

  2. Prynu'r podiau yn llwyr.





Mewn ymateb i'n cwestiynau am y llinell waelod, mae Bill yn ffonio'i Gyfarwyddydd Cyllid sy'n gwneud gwaith cyfrif prysur ar faint y gellid ei godi ar gyfraddau llog presennol ar forgais personol yn seiliedig ar rent o £250 y mis calendr (amcangyfrif bras o'r hyn a fedrai fod ar gael i berson 21-35 oed ar fudd-dal tai), mae'r ateb a ddaw'n ôl tua £60,000 ar logau'n unig neu ad-daliad o £30,000 ynghyd â llog (dros gyfnod 20 mlynedd).


Ni chafodd ychydig o gwestiynau mawr eu hateb gan ein hymweliad, a byddwn yn codi hyn gyda'r cyrff perthnasol.
  1. A all Llywodraeth Cymru gadarnhau os byddant yn cefnogi datblygu'r adeiladau hyn, er bod Gofynion Ansawdd Datblygu wedi eu torri wrth eu cynllunio? (D.S. Mae trafodaethau diweddar yn awgrymu y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych am gynigion am gyllid o'r rhaglen hon fod yn 'briodol a chysurus', yn hytrach na chyflawni manylyn olaf y gofynion presennol).

  2. A fydd benthycwyr yn eu cefnogi? Bydd eu cyfnod oes, cost isel ac ansawdd bywyd o'u plaid, ond mae angen i ni ymchwilio hyn ymhellach.

  3. A fyddant yn dderbyniol i'r adrannau cynllunio? Er eu bod yn gwneud cymaint i ateb y cwestiynau a ofynnir gan ddarparwyr tai (nid o leiaf yn eu defnydd blaengar o dir), maent yn ddi-os yn edrych yn wahanol i dai traddodiadol a gall hyn fod yn broblem ar y cam cynllunio.





Efallai y bydd Curo Housing yng Nghaerfaddon yn rhoi atebion i rai o'r cwestiynau hyn, gan eu bod wrthi'n gweithio gyda Bill i drosi cannoedd o garejys cloi-a-mynd segur yn ZedPods (ymddengys eu bod hanner ffordd drwy ail gam ymgynghori gyda phreswylwyr).


Gyda £5m o fuddsoddiad preifat tu ôl iddo, mae Bill yn frwdfrydig iawn i symud ymlaen gyda datblygu ZedPods ac mae'n gwahodd sector tai Cymru i ymuno ag ef. Gyda diddordeb gan gydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r sector cefnogi, mae'r cyfleoedd yno i gydweithio ar ddatblygu ZedPods.


Edrychwch am y blogiad nesaf yn y gyfres mewn ychydig wythnosau!
Hugh Russell
- Swyddog Polisi, CHC