Jump to content

30 Tachwedd 2020

Tai ac Etholiadau 2021 i Senedd Cymru

Tai ac Etholiadau 2021 i Senedd Cymru
Cyn trydydd diwrnod – a diwrnod olaf - Cynhadledd Flynyddol CHC clywsom gan arweinwyr gwleidyddol Cymru ar ymrwymiadau maniffesto cyn etholiadau 2021 i Senedd Cymru, gan fwrw golwg ar yr heriau a’r cyfleoedd a gyflwynodd y pandemig, ac ystyr cartref.


Roedd llawer iawn o gonsensws yn ystod y drafodaeth panel, a gadeiriwyd yn fedrus iawn gan y ddarlledwraig a chyflwynydd Sian Lloyd o’r BBC, gyda phob un o’r tri arweinydd plaid yn cydnabod yr hyn a gyflawnwyd yn ogystal â’r heriau a wynebwyd hyd yma yn 2020. Fe wnaethant hefyd drafod sut y daeth ‘cartref’ yn gymaint mwy na lle i fyw a’r gwahaniaeth y gall cartref diogel, saff a fforddiadwy ei wneud.


Fodd bynnag, roedd gwahaniaethau amlwg yn naws ac agweddau ymatebion yr arweinwyr. Cyfeiriodd Julie James AS, Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn gyson at weledigaeth a nodau a gaiff eu rhannu, ac mewn dod ynghyd i wneud y peth cywir. Tanlinellodd Paul Davies AC, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr angen i gadw momentwm cydweithio ac i bolisïau adlewyrchu’r dysgu hwn. Siaradodd Adam Price, Arweinydd Plaid Cymru am weithredu cadarnhaol ar ran Llywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad, gan gyfyngu dibyniaeth ar y sector preifat i ateb angen tai.


Digartrefedd


Mynegodd Julie James ei balchder ym mhopeth a gyflawnodd y sector tai yn ystod y flwyddyn, gan sôn pa mor gyflym y cafodd pobl ddigartref eu hailgartrefu. Y weledigaeth a rannwyd, meddai wrth gynrychiolwyr, oedd ‘gwneud y peth cywir ar gyfer y person o’ch blaen’. Roedd y Gweinidog yn glir nad yw’n bwriadu anghofio popeth a ddysgwyd; ‘does dim troi’n ôl’.


Cyfeiriodd Paul Davies AS at gynllun 10 pwynt y Ceidwadwyr Cymreig i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru, lle mae’r blaid yn ymrwymo i ddileu cysgu ar y stryd erbyn 2016, adeiladu 40,000 o gartrefi cymdeithasol newydd dros 10 mlynedd, cyflwyno dosbarthiadau ymwybyddiaeth digartrefedd i ysgolion a phenodi Tsar digartrefedd.


Galwodd Adam Price am gyflymder a brys, gan rannu addewid Plaid Cymru i ddileu cysgu ar y stryd o fewn dwy flynedd a’r uchelgais i gyflawni 50,000 o gartrefi fforddiadwy dros bum mlynedd. Siaradodd o blaid asiantaeth genedlaethol ar gyfer tai a thir i ddarparu nifer fawr o dai fforddiadwy.


Gwasanaethau cyhoeddus a phartneriaeth


Pwysleisiodd Paul Davies AC fod y pandemig wedi dangos yr hyn y gellir ei gyflawni mewn gwirionedd. Os gall cydweithio effeithiol ddigwydd yng nghanol argyfwng, gofynnodd pam na fyddai’n medru parhau wrth i ni symud at adferiad? Galwodd am sgyrsiau realistig ac onest gyda gwasanaethau cyhoeddus a’r angen am sicrwydd a hyder.


Anogodd Julie James wrando ar brofiad byw i sefydlu achosion gwraidd problemau, a defnydd secondiadau i ddeall pam efallai nad yw polisi yn effeithiol wrth gael ei roi ar waith.


Dywedodd Adam Price fod Cymru wedi cyrraedd moment ail-osod, cyfle i roi geiriau ar waith. Tanlinellodd yr angen i feithrin gallu mewn llywodraeth genedlaethol er mwyn galluogi cysylltiadau ac alinio rhwng meysydd polisi.


Tai, iechyd a gofal cymdeithasol


Er bod consensws ymysg y panel am y berthynas gynyddol amlwg rhwng tai, iechyd a gofal cymdeithasol, aeth Adam Price gam ymhellach wrth annog buddsoddiad mewn tai fel rhan o strategaethau iechyd. Gan nad yw’r sector preifat hyd yma wedi darparu tai priodol, meddai, mae angen i’r sector hybu hynny eu hunain.


Ar y llaw arall, galwodd Paul Davies am arweinyddiaeth gref ar lefel genedlaethol a lleol i hybu cydweithio a gwthio tai i fyny’r agenda gwleidyddol, tra disgrifiodd Julie James integreiddio wedi ei seilio ar nodau a gaiff eu rhannu.


Cartref


Fel yr ysgrifennodd Stuart Ropke yn ddiweddar, credwn fod y llwybr i genedl well i bawb ohonom yn dechrau gartref. Dyma yw craidd Maniffesto CHC ar gyfer Etholiadau 2021 i Senedd Cymru - Cartref – Creu Cymru Well ar gyfer Pawb.


Tarodd y digwyddiad nodyn optimistig fod pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn cydnabod ac yn cytuno fod pleidiau gwleidyddol yng Nghymru yn adnabod ac yn cytuno y gallwn drwy roi blaenoriaeth i gartrefi yn y Rhaglen Lywodraethu nesaf gyda’n gilydd wneud cynnydd ar yr heriau sylweddol sy’n wynebu Cymru.