Sut y gall mesuryddion deallus helpu gyda thlodi tanwydd yng Nghymru
Mae tlodi tanwydd yn broblem fawr yng Nghymru, gan effeithio ar fywydau dros 350,000 o bobl. Mae pobl sy'n cael trafferthion i gadw eu cartrefi'n gynnes yn aml ar incwm isel, mewn ardaloedd gwledig, heb fod wedi cysylltu gyda'r brif bibell nwy neu heb fod yn fyw mewn cartrefi effeithiol o ran ynni, ac maent yn aml y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Gall llawer o denantiaid tai cymdeithasol fod mewn tlodi tanwydd a chredwn y gall mesuryddion deallus helpu.
Mae cadw eich cartref yn gynnes yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei gymryd yn ganiataol, ond mae miloedd o bobl ar draws y wlad yn ei chael yn anodd gwneud yn union hynny. Bu nifer fawr o straeon yn y wasg am bobl yn dewis rhwng gwresogi eu cartref neu fwyta a dangosodd ffigurau gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a gyhoeddwyd fis Rhagfyr diwethaf, fod 2,600 yn fwy o farwolaethau yn ystod y gaeaf yng Nghymru o gymharu â gweddill y flwyddyn yn 2014/15. Ledled Cymru a Lloegr, roedd y nifer o farwolaethau ychwanegol yn ystod y gaeaf yn 43,900, y nifer uchaf a gofnodwyd ers 1999/00.
Ystyrir bod deiliaid tai yng Nghymru mewn tlodi tanwydd os oes angen iddynt wario 10% neu fwy o'u hincwm ar gostau ynni, ac maent mewn tlodi tanwydd difrifol os oes angen iddynt wario 20% neu fwy o'u hincwm ar y costau hyn Amcangyfrifir fod 31% o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru yn byw mewn tlodi tanwydd, sef tua 70,000 o bobl.
Y ddwy brif ffactor sy'n penderfynu ar statws tlodi tanwydd aelwyd yw incwm yr aelwyd a pha gyfran o'r incwm a werir ar danwydd. Mae nifer o ffactorau yn penderfynu gwariant tanwydd, yn cynnwys prisiau tanwydd, lefel effeithiolrwydd ynni y cartref, a ph'un ai yw'r cartref yn rhy fawr i'r nifer sy'n byw ynddo.
Mae ein haelodau, sy'n darparu cartrefi a gwasanaethau cysylltiedig â thai i ddeg y cant o boblogaeth Cymru, yn ymroddedig i ddarparu cartrefi cynnes, fforddiadwy. Ond gwyddom nad yw hynny'n ddigon. Mae angen i ni hefyd weithio gyda'n tenantiaid i'w haddysgu am eu defnydd ynni a newid ymddygiad.
Dyna pam ein bod ni yn Cartrefi Cymunedol Cymru yn falch iawn i gydweithio gyda Smart Energy GB - llais ymestyn mesuryddion deallus Prydain Fawr.
Bydd mesuryddion deallus yn disodli'r mesuryddion traddodiadol sydd gennym yn ein cartrefi. Byddant yn rhoi biliau cywir i ddefnyddwyr, ynghyd â gwybodaeth bron yn amser real ar ddefnydd ynni mewn punnoedd a cheiniogau a mwy o reolaeth dros eu nwy a'u trydan.
Mae mesuryddion deallus yn ddiweddariad hollbwysig i system ynni Prydain. Nid yw'r ffordd yr ydym yn mesur a thalu am nwy a thrydan wedi cadw'n gydwastad â gwelliannau ar draws bron bob maes arall o'n bywydau. Bydd mesuryddion deallus yn galluogi system ynni mwy effeithiol, gwyrddach a mwy deallus ac yn gosod sylfeini ar gyfer gridiau deallus, sy'n ffordd hollol newydd o redeg ein rhwydweithiau ynni.
Drwy'r bartneriaeth gyda Smart Energy GB, rydym yn helpu ein haelodau i gyfathrebu neges glir a chyson i'w tenantiaid am y cynllun ymestyn mesuryddion deallus. Mae hyn yn ei dro yn helpu tenantiaid i ddeall mesuryddion deallus, y cynllun ymestyn cenedlaethol a sut i ddefnyddio eu mesuryddion newydd i gael nwy a thrydan dan reolaeth.
Fel rhan o'r bartneriaeth gyda Smart Energy GB, rydym wedi cynnal dau gwrs hyfforddiant ar gyfer ein haelodau. Mae'r sesiynau hyn, oedd yn llawn i'r ymylon, wedi rhoi'r dulliau a'r wybodaeth i staff cymdeithasau tai i rannu'r wybodaeth y maent wedi'i dysgu gyda staff rheng flaen eraill a thenantiaid.
Rydym hefyd wedi sefydlu canolfan adnoddau ar wefan CHC sy'n cynnwys posteri, taflenni a dolenni fideo am y cynllun ymestyn mesuryddion deallus. Gellir ei chyrraedd yma: http://chcymru.org.uk/en/policy/energy-and-sustainability/smart-energy-gb/
Mae gan fesuryddion deallus nifer o fanteision i denantiaid a hefyd gymdeithasau tai. Bu'r adborth gan ein haelodau am ein partneriaeth gyda Smart Energy GB yn gadarnhaol iawn ac edrychwn ymlaen at chwarae ein rhan i sicrhau fod tenantiaid tai cymdeithasol Cymru yn cael y budd mwyaf o'r cynllun ymestyn mesuryddion deallus a'u bod yn gweld arbedion yn eu pocedi fel canlyniad.
I gael mwy o wybodaeth ar y bartneriaeth rhwng CHC a Smart Energy GB, cysylltwch ag Adele Harries-Nicholas, Rheolydd Gwasanaethau Aelodau a Datblygu Busnes CHC ar 02920674803 neu e-bost Adele-Harries-Nicholas@chcymru.org.uk