Jump to content

02 Mawrth 2017

Sut y gall byrddau heddiw gwrdd ag anghenion yfory?

Picture of Albert Einstein


Y diffiniad o wallgofrwydd yw dal i wneud yr un peth drosodd a throsodd gan ddisgwyl canlyniadau gwahanol, yn ôl Albert Einstein!


Tra bod yr amgylchedd gweithredol yr ydyn ni’n gweithio ynddo yn newid yn ddi-baid, mae’r gwasanaethu yr ydym yn eu cyflenwi a’r dull o’u cyflenwi hefyd yn newid. Fel busnesau gyda diben cymdeithasol dwfn ei wreiddiau, mae gennym gyfrifoldeb i gyflenwi a chyfrifoldeb i weithredu, nid yn unig ar gyfer cymdeithas heddiw ond ar gyfer yfory a chenedlaethau’r dyfodol. Ein byrddau yw cydwybod cymdeithasol a gwneuthurwyr penderfyniadau’n busnesau. Nhw yn y pen draw sydd â’r ddyletswydd o sicrhau ein bod yn cwrdd â’n cyfrifoldebau trwy’n dal i gyfrif am ein penderfyniadau a gweithredoedd busnes.


[Insert pic: Einstein? Future-proof?...]


Felly, i fynd yn ôl at Einstein a’i ddiffiniad o wallgofrwydd - fy mhwynt i yw na allwn ni ddisgwyl dal ati i wneud yr hyn ydyn ni wedi arfer ei wneud a disgwyl i hynny gyflawni pethau nad oedden ni’n eu cyflawni o’r blaen. Tra bo’n busnesau’n newid, mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod yn dod â’n byrddau gyda ni! Mae angen i ni weithredu heddiw i ddiogelu’n byrddau ar gyfer y dyfodol, i wneud yn siŵr y bydd y bobl iawn o amgylch y bwrdd i yrru’r busnes yn ei flaen, ac i gyflenwi gwasanaethau a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.


Tra byddai ‘llywodraethiant’ ar un adeg yn cael ei ddiffinio fel y systemau a’r prosesau yn eu lle i gadw’r busnes o dan reolaeth ddoeth, gwyddom i gyd fod llywodraethiant da yn golygu mwy na thicio bocsys - wedi’r cyfan mae gwahaniaeth rhwng cydymffurfio a pherfformio. Peidiwch â fy nghamddeall, tra bo systemau a phrosesau yn sicr yn sylfaen ar gyfer cyflawni llywodraethiant da, mae ansawdd y llywodraethu ei hun yn cael ei benderfynu gan y bobl o amgylch y bwrdd, y berthynas rhyngddyn nhw a’r diwylliant o fewn ystafell y bwrdd. Yn y bôn, mae llywodraethiant da yn fater o arweinyddiaeth gyfrifol yn cael ei nodweddu gan werthoedd moesegol cyfrifoldeb, atebolrwydd, tegwch a thryloywder.


Bydd Cynhadledd Llywodraethiant yr wythnos hon yn gyfle cyffrous i ni gymryd stoc, i ddysgu am y meddwl diweddaraf o ran arfer gorau llywodraethiant, i’n hysbrydoli i feddwl yn wahanol ac i’n harwain ar y ffordd tuag at archwilio sut y gallwn ddechrau sicrhau fod ein byrddau ni heddiw yn cwrdd ag anghenion y byd yfory! Edrychaf ymlaen at eich gweld i gyd yn y digwyddiad.
Claire McDougall
- Swyddog Gweithredol, CHC