Jump to content

11 Ionawr 2023

Sut mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn helpu tenantiaid sydd ag anghenion ychwanegol

Sut mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn helpu tenantiaid sydd ag anghenion ychwanegol

Mae Cymdeithas Tai Dewis Cyntaf yn cefnogi tenantiaid gydag anableddau, cyn aelodau o’r lluoedd arfog a phobl gydag anghenion cymhleth ychwanegol,. Mae’r argyfwng costau byw yn gymhleth gyda llawer o wybodaeth yn dod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Yma mae Donna Jones, cyfarwyddwr gwasanaethau corfforaethol Dewis Cyntaf, yn sôn am eu dull o gefnogi a chyfathrebu gyda’u cwsmeriaid sydd ag anghenion ychwanegol ac a all fod angen help ychwanegol i ddeall yr wybodaeth.

C: Faint o denantiaid sydd gennych chi ac ym mha fathau o lety?

Donna: Mae gennym 822 tenant ar hyn o bryd yn byw mewn 379 annedd, gyda chymysgedd o Byw â Chymorth, Hygyrch ac Anghenion Cyffredinol.

C: Pa anghenion ychwanegol sydd gan eich tenantiaid?

Donna: Mae gan ein tenantiaid ystod eang o anghenion. Rydym yn bennaf yn darparu llety i bobl gydag anableddau dysgu mewn lleoliad byw â chymorth o fewn y gymuned a hefyd anheddau hygyrch ar gyfer pobl sy’n byw gydag anabledd corfforol. Yn ogystal â hyn, rydym yn darparu anheddau hygyrch a chartrefi anghenion cyffredinol ar gyfer pobl sydd â chysylltiad â’r lluoedd arfog. Gweithredwn mewn 19 awdurdod lleol yng Nghymru yn ogystal ag yn Swydd Amwythig a Telford yn Lloegr.

C: Sut wnaethoch chi addasu eich gwasanaethau i wneud yn siŵr fod tenantiaid yn gwybod eich bod yno i’w cefnogi?

Donna: Gyda’r cynnydd diweddar mewn costau byw a’r pandemig, rydym wedi darparu nifer o wasanaethau cymorth i helpu tenantiaid a allai fod angen cymorth.

● Mae gennym gronfa arian cyfatebol i helpu tenantiaid ostwng eu hôl-ddyled rhent. Byddwn yn cyfateb eu taliadau.

● Rydym wedi cyflwyno cronfa caledi ar gyfer pobl na all fforddio talu eu biliau.

● Dosbarthwyd taflen costau byw yn cyfeirio at y gwasanaethau sydd ar gael yn yr ardal. Roedd hyn yn cynnwys yr hyn y gallai tenantiaid ei wneud, yr hyn y gall Dewis Cyntaf ei wneud a’r hyn y gall awdurdodau lleol ei wneud i helpu.

● Anfonwyd mwy o ohebiaeth benodol ar gostau byw yn rhoi gwybodaeth debyg i’r daflen a nodir uchod ond gyda mwy o fanylion – biliau cyfleustod ac yn y blaen.

● Fe wnaethom gynnal sgyrsiau wyneb yn wyneb a rhithiol ar yr argyfwng costau byw yn ein digwyddiadau trafod tenantiaid a gyflwynwyd i 60 tenant ar draws y wlad, gyda chyfres arall o ddigwyddiadau ym mis Tachwedd yng Nghaerdydd a’r Drenewydd.

C: Mae llawer o landlordiaid yn defnyddio cyfryngau digidol. Beth mae eich cwsmeriaid yn ddweud wrthych am y ffordd sydd orau ganddynt glywed gennych?

Donna: Rydym yn cynnal arolygon tenantiaid yn rheolaidd i sicrhau ein bod yn cadw ansawdd ein gwaith ac i wirio fod gennym y dull cywir o gyfathrebu ar gyfer ein tenantiaid. Pan ofynnwyd iddynt beth yw eu hoff ddull cyfathrebu, dywedodd 12% o denantiaid y byddent yn hoffi cyfathrebu ar-lein yn ogystal â dros y ffôn neu drwy lythyr. Rydym wedi cynyddu ein cyfathrebu ar-lein yn ddiweddar, yn ogystal â rhoi newyddion drwy lythyrau neu’r cylchlythyr rheolaidd. Mae’r holl wybodaeth hefyd ar gael ar ein gwefan a sianeli cyfryngau cymdeithasol. I annog cynhwysiant digidol gyda thenantiaid, buom yn gweithio gyda Cymunedau Digidol Cymru i ddarparu 207 darn o dechnoleg ar gyfer tenantiaid. Gobeithio y bydd y prosiect cynhwysiant digidol yn cynyddu nifer o denantiaid a hoffai gyfathrebu gyda Dewis Cyntaf mewn dull digidol.

C: Fedrwch chi rannu unrhyw wersi o’ch gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf drwy’r pandemig a’r argyfwng costau byw am gefnogi pobl gydag anghenion ychwanegol. Sut mae rhoi sicrwydd iddynt mewn cyfnod mor heriol?

Donna: Fe wnaethom gynnal y Prosiect Cynhwysiant Digidol yn ystod y pandemig i helpu rhoi dulliau cyfathrebu i denantiaid a fyddai fel arall yn methu siarad gyda pherthnasau a ffrindiau. Fe wnaeth Dewis Cyntaf helpu tenantiaid i ailgysylltu gyda’u cymunedau lleol drwy eu galluogi i fynychu dosbarthiadau a digwyddiadau cymunedol tebyg i yoga, apwyntiadau meddyg a grwpiau Pobl yn Gyntaf. Daeth un tenant hyd yn oed yn DJ ar-lein yn defnyddio eu iPad ar gyfer disgo cymunedol rhithiol.

Cynhaliodd Dewis Cyntaf nifer o ddigwyddiadau ar-lein i gysylltu gyda thenantiaid a deall eu hanghenion yn ystod y cyfnod hwn. Roedd y rhain yn cynnwys: .

● Trafod Tenantiaid a Phaneli – trafod costau byw, troseddau casineb a gosod rhent. Cafodd y rhain eu cynnal yn rhithiol i sicrhau parhad yn ystod y pandemig.

● Discos Tenantiaid – dan ofal Nigel, ein Rheolwr Tai, fe wnaeth ein discos rheolaidd Pasg, Calan Gaeaf a Nadolig barhau o gysur cartrefi tenantiaid yn defnyddio’r dyfeisiau a ddarparwyd iddynt.

Fe wnaethom hefyd gynnig cefnogaeth ac arweiniad parhaol ar dechnoleg gwybodaeth gan yr elusen ddigidol, Cymunedau Digidol Cymru.