Datganiad: Setliad rhent 2023/24 Llywodraeth Cymru
Heddiw cyhoeddodd Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd, y setliad rhent cymdeithasol ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24 ynghyd â phecyn o gymorth i denantiaid tai cymdeithasol sy’n ei chael yn anodd yn ariannol.
Gosodwyd y setliad ar uchafswm o 6.5% a bydd cymdeithasau tai yn ei weithredu yn lleol yn defnyddio ystod o ddulliau i sicrhau fod y rhent yn fforddiadwy, ac yn dilyn trafodaeth gyda thenantiaid.
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru: “Fel landlordiaid dim er elw, caiff incwm rhent ei ailfuddsoddi mewn cartrefi newydd a chartrefi presennol a darparu gwasanaethau cymorth hanfodol i denantiaid a ddaeth hyd yn oed yn fwy hanfodol byth wrth gefnogi tenantiaid drwy’r argyfwng costau byw.
“Mae gosod rhent yn un o benderfyniadau pwysicaf cymdeithasau tai ac nid ydym yn gweld y cynnydd a ganiateir mewn rhent fel targed i’w gyrraedd. Bydd cymdeithasau tai yn awr yn gosod rhenti yn lleol drwy gysylltu gyda thenantiaid a defnyddio dulliau fforddiadwyedd. Maent eisiau i denantiaid deimlo’n ddiogel a saff yn eu cartrefi ac nid oes angen i unrhyw un sy’n profi caledi ariannol bryderu am golli eu cartref, lle maent yn gweithio gyda’r gymdeithas tai.
“Rydym yn annog tenantiaid i siarad gyda’u landlord os ydynt yn bryderus am dalu eu rhent”.