Jump to content

04 Ebrill 2025

Datganiad y Gwanwyn 2025: cyhoeddiadau allweddol ar gyfer tai cymdeithasol Cymru

Datganiad y Gwanwyn 2025: cyhoeddiadau allweddol ar gyfer tai cymdeithasol Cymru

Yn ei datganiad gwanwyn cyntaf, mae Llywodraeth y DU wedi addo mynd “ymhellach a chyflymach” i dyfu economi’r wlad.

Yn y lansiad ar 26 Mawrth, dywedodd Rachel Reeves, y Canghellor y byddai pobl ar gyfartaledd dros £500 y flwyddyn yn well eu byd dan y llywodraeth bresennol; a bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol (OBR) wedi dod i’r casgliad y byddai newidiadau i’r Fframwaith Cenedlaethol ar Bolisi Cynllunio yn cynyddu lefel GDP real yn barhaol gan 0.2% erbyn 2029-30.

Fodd bynnag, mae rhagolygon economaidd diweddaraf yr OBR yn dangos amgylchedd cyllidol heriol ar gyfer y misoedd i ddod, gyda’r gofod o £9.9bn yng Nghyllideb yr Hydref yn awr wedi ei ddileu. Mae Llywodraeth y DU yn parhau ei hymrwymiad i gael chwyddiant i 2% erbyn 2027, fodd bynnag, a chynyddu safonau byw ar gyfer ‘pobl gyffredin sy’n gweithio’.

Gwnaed nifer o gyhoeddiadau allweddol o bwys i Gymru a’r sector tai cymdeithasol, yn cynnwys:

  • Swm canlyniadol Barnett i gyllideb Llywodraeth Cymru o £16 miliwn.

  • Newidiadau sylweddol i bolisïau llesiant, yn benodol y Taliadau Annibyniaeth Personol (PIP) ac elfen iechyd y Credyd Cynhwysol.

  • Gall diwygio polisi cynllunio yn Lloegr fod yn sail i gydgysylltu’r gyfraith cynllunio a ddisgwyliwn yng ngweddill tymor hwn y Senedd.

  • £2.2 biliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer amddiffyn.

  • Creu Cronfa Trawsnewid £3.25 biliwn i yrru arbedion mewn gwasanaethau cyhoeddus a gwella’r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial a thechnoleg ddigidol.

Yn ein papur gwybodaeth diweddaraf i aelodau, mae ein rheolwr polisi a materion allanol Bethany Howells a’n pennaeth polisi a materion allanol Bethan Proctor yn dadansoddi’r manylion perthnasol, ac yn rhannu camau nesaf CHC.

Cliciwch y ddolen isod i lawrlwytho’r papur gwybodaeth llawn.