Jump to content

29 Awst 2018

Seibiant o wleidyddiaeth

Seibiant o wleidyddiaeth
Gydag Aelodau Cynulliad ac Aelodau Seneddol ar wyliau, maddeuwch i mi am grwydro'n fyr i ffwrdd o fyd gwleidyddiaeth a thai i siarad am rywbeth a fu yn y newyddion, y sgwrsiwyd amdano ac a fu ym mhobman yn y cyfryngau cymdeithasol dros y ddwy wythnos ddiwethaf yma - canlyniadau arholiadau. Rwy'n gwybod nad oes cysylltiad uniongyrchol rhwng hyn â'n gwaith yn y sector tai, ond mae'n bendant yn rhywbeth sydd o ddiddordeb i nifer fawr o bobl, bydded yn fyfyrwyr, rhieni neu ddim ond ddinasyddion â diddordeb. Mae bron bawb wedi gwneud arholiadau o ryw fath ar ryw cam yn eu bywydau a bydd llawer yn cofio treulio mis Awst yn aros am ganlyniadau TGAU neu Lefelau A (neu Lefel O neu Lefel Uwch, neu unrhyw beth arall!). Mae'n fis rhyfedd; mae ysgolion a phrifysgolion ar wyliau, mae swyddfeydd yn hanner gwag, mae'n costio ddwywaith gymaint i hedfan ac aros mewn gwestai ac mae gwleidyddion yn tynnu lluniau o'u hunain ar wyliau i geisio dangos fod ganddynt hobïau a diddordebau y tu allan i wleidyddiaeth. Yna, wrth i wythnosau canol Awst gyrraedd, felly hefyd y llu o ffotograffau o bobl ifanc yn neidio yn yr awyr yn dal darnau o bapur.


Mae canlyniadau arholiadau yn bwysig, ond yn bendant nid nhw yw popeth. Maent yn mesur rhan fach iawn o berson ac nid ydynt yn diffinio yr hyn y gall y person ei wneud neu pa mor garedig ydynt na miliwn o bethau arall sy'n debyg o bod yn bwysicach yn y pen draw na damcaniaeth Pythagoras. Mae'r bobl hynny sy'n cymryd arnynt nad ydynt o unrhyw bwys yn bychanu ymdrech myfyrwyr ym mhob man. Os ydych yn cael graddau A ac wedi gwneud eich gorau glas rydych yn haeddu bod yn falch, os cawsoch raddau C ac wedi gwneud eich gorau glas rydych yn haeddu bod yn falch. Gall y graddau a gaiff pobl olygu eu bod yn naturiol yn eithaf da am gadw gwybodaeth a phasio arholiadau, gall olygu eu bod wedi gwneud llawer iawn o waith ac wedi gweithio'n wirioneddol galed. Mae'r ddau beth yna'n werthfawr ac yn dangos sgiliau sy'n ddefnyddiol mewn gyrfaoedd, ond nid yw systemau graddio yn cydnabod ymdrech ac mae'n amlwg na fydd gan y rhai sy'n marcio syniad fod Jane wedi treulio bob nos am y tri mis diwethaf yn adolygu dim ond i grafu pas mewn mathemateg. Yn fy ysgol uwchradd roeddem yn cael graddau am ymdrech yn ogystal â'r graddau A-U safonol, 1 am yr ymdrech fwyaf, 5 am rai nad oedd yn gwneud unrhyw ymdrech. Arferai pobl chwerthin mai A5 oedd y radd orau i'w chael; roeddech wedi cael popeth yn iawn ond heb fod angen gwneud llawer o ymdrech. Dim ond nawr a finnau wedi tyfu lan ac yn gweithio yr wyf yn sylweddoli faint pwysicach yw ymdrech na bod yn naturiol dda am rywbeth.


Dywedir yn aml nad yw pobl yn dewis gweithio yn y sector tai, ond yn hytrach yn syrthio mewn iddo. Mewn arolwg diweddar gan CHC o rai newydd ymuno â'r sector, gwelsom nad oedd 37% o bobl erioed wedi meddwl am yrfa yn y sector tai ond unwaith yr oedd y person yno, gall y sector tai eu helpu i ffynnu. Mae gan gymdeithasau tai gynifer o brosiectau sy'n galluogi tenantiaid i ddatblygu sgiliau ymarferol ar gyfer cyflogaeth, p'un yw hynny'n wasanaeth cwsmeriaid, adeiladu neu dechnoleg, yn ogystal â helpu tenantiaid astudio i gymryd TGAU neu ennill cymwysterau eraill cydnabyddedig. Gall tai fod yn sector sy'n gwobrwyo ymdrech ac yn cydnabod y gallai person sy'n ceisio'n wirioneddol galed i fynd i rywle, i ennill cymwysterau, i gasglu profiad, fod yn aelod gwirioneddol wych o staff. Dywedodd 65% o'r ymatebwyr i'r arolwg mai'r peth gorau am weithio mewn tai cymdeithasol yw'r gallu i wneud gwahaniaeth! Mae CHC yn gweithio gyda staff Adnoddau Dynol a Chyfathrebu o fewn y sector ar ymgyrch recriwtio ar hyn o bryd i helpu codi ymwybyddiaeth o'r ystod eang o rolau a'r manteision gwych y gall gyrfa yn y sector tai yng Nghymru eu darparu yn 2019. Fel rhan o hyn, byddwn hefyd yn cysylltu gydag ysgolion, prifysgolion a sefydliadau cyflogaeth fel Gyrfa Cymru i gael y neges allan yna.