Jump to content

13 Mehefin 2018

Sefydliadau tai a chymorth yn galw ar y cyd i Aelodau Cynulliad gefnogi datrysiad cyllid newydd

Mae Cartrefi Cymunedol Cymru, ynghyd â naw sefydliad cenedlaethol arall ym maes tai a chymorth, wedi ymuno i gynnig datrysiad cyllid sy'n anelu i ddiogelu gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai ar gyfer dros 60,000 o'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae adroddiad Materion Tai (#materiontaicymru) yn amlinellu'r achos dros Grant Digartrefedd a Chymorth Tai newydd a gefnogir gan Cartrefi Cymunedol Cymru, Cymorth Cymru, Cymorth i Fenywod Cymru, Rough Sleepers Cymru, Shelter Cymru, Tai Pawb, EROSH De Cymru, CIH Cymru, Cyfiawnder Tai Cymru ac aelod sefydlu Diwedd ar Ddigartrefedd Ieuenctid Cymru.


Cyhoeddir yr adroddiad heddiw cyn y ddadl yn y Cynulliad Cenedlaethol ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau am gysgu ar y stryd yng Nghymru. Yn ystod ymchwiliad y Pwyllgor, cododd nifer o randdeiliaid bryderon am gynnig Llywodraeth Cymru i greu Grant Ymyrraeth Gynnar: Atal a Chymorth newydd yn 2019/20 a fyddai'n uno dau grant digartrefedd (Cefnogi Pobl a Grant Atal Digartrefedd) gyda chyllid ar gyfer gwasanaethau heblaw tai megis gofal plant ac ymwelwyr iechyd.


Mynegodd rhanddeiliaid bryderon y byddai grant wedi'i uno yn lleihau'r ffocws ar ddigartrefedd - ar adeg pan mae cysgu ar y stryd a digartrefedd yn codi - ac y gallai gynyddu risg toriadau i wasanaethau gan y byddid yn tynnu clustnodi cyllid o'r rhaglen Cefnogi Pobl.
Cafodd y pryderon hyn eu hadlewyrchu yn adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ac mewn adroddiad dilynol gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a anogodd swyddogion Llywodraeth Cymru i ystyried y datrysiad amgen.


Byddai'r datrysiad amgen hwn yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni ei nod o ostwng y nifer o grantiau y mae'n eu rheoli drwy uno pedwar grant tai mewn un - Cefnogi Pobl; cyllid a ddatganolir ar gyfer costau tai mewn llety â chymorth tymor byr; y Grant Atal Digartrefedd a gorfodi Rhentu Doeth Cymru. Fodd bynnag, mae'r datrysiad hwn hefyd yn cadw ffocws clir ar dai ac atal digartrefedd ac yn helpu i ddiogelu dyfodol y gwasanaethau hollbwysig hyn.


Yn yr adroddiad, dywedodd y deg sefydliad:
"Dros yr ychydig fisoedd nesaf bydd Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniad am gyllid gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yn y dyfodol yng Nghymru.


"Rydym yn gynghrair o sefydliadau cenedlaethol sydd yn ymroddedig i ddod â digartrefedd i ben a sicrhau y gall pobl fyw'n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Dros yr ychydig fisoedd nesaf buom yn trafod cynlluniau Llywodraeth Cymru ac yn ystyried y cyfleoedd a'r bygythiadau i ddarpariaeth gwasanaethau cynaliadwy a bywydau'r bobl yr ydym yn eu cynrychioli.


"Sylweddolwn y pwysau sydd ar Lywodraeth Cymru a'r heriau sy'n wynebu'r Gweinidogion. Yng ngoleuni hyn, nid ydym yn amddiffyn y sefyllfa fel y mae. Rydym wedi herio ein haelodau a'n gilydd i ddatblygu datrysiad adeiladol sy'n helpu i ateb nodau'r Gweinidog - ond a fyddai hefyd yn diogelu dyfodol gwasanaethau digartrefedd a chymorth cysylltiedig â thai yng Nghymru. Rydym hefyd yn credu y gall ein cynnig hwyluso dull gweithredu mwy strategol i ddiweddu digartrefedd a chefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol, bodlon.


"Ni ddylai mynd i'r afael â digartrefedd fod yn rhywbeth pleidiol wleidyddol, a dyna pam ein bod yn gofyn i Weinidogion ac Aelodau Cynulliad ar draws yr holl bleidiau gwleidyddol i gefnogi ein cynnig am Grant Digartrefedd a Chymorth cysylltiedig â Thai."

Gallwch ddarllen y polisi yn llawn yma
Ymunwch â ni drwy drydaru eich cefnogaeth i #materiontaicymru #housingmatterswales i ddiogelu dyfodol tai â chymorth yng Nghymru.