Jump to content

07 Awst 2014

Sector Tai Cymru - Helpu Cymru i gyrraedd Cwpan y Byd!

Cynhaliwyd gêm bêl-droed elusennol yn yr Eisteddfod yn Llanelli ddoe i helpu cais Pêl-droed Stryd Cymru i ennill cwpan y byd!

Mae Pêl-droed Stryd Cymru (SFW) yn brosiect cynhwysiant ariannol a gaiff ei redeg mewn partneriaeth gyda darparydd tai, gofal a chymorth Grŵp Gwalia gyda chyllid gan y Loteri Fawr.

Roedd y gêm yn rhan o gais codi arian sector tai Cymru i anfon dau dîm SFW, un tîm dynion ac un tîm menywod, i Gwpan Byd y Digartref yn Chile.

Roedd chwaraewyr SFW a ddewisir i chwarae dros Gymru yng Nghwpan Byd y Digartref yn ymfalchïo mewn gwisgo crysau Cymru ac yn chwarae yn erbyn chwaraewyr o Cartrefi Cymunedol Cymru, Tai Calon a Care & Repair Cymru mewn gêm 'gyfeillgar'. Ar ôl gêm gyffrous a chaled, y sgôr oedd 4-1 i'r chwaraewyr sector tai. Cyflwynwyd tlws i'r tîm buddugol gan Sioned Hughes, Prif Weithredwr Interim CHC.

Trefnwyd y gêm gan Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), corff cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru. Cafodd SFW ei ddewis gan CHC fel eu helusen y flwyddyn a chafodd gefnogaeth y sector tai i godi arian i anfon y timau i Chile yn yr hydref eleni.

Mae chwaraewyr SFW wrth eu bodd i gael eu dewis i gynrychioli eu gwlad yng Nghwpan y Byd i'r Digartref, cystadleuaeth bwysig a all newid bywydau, ond er mwyn mynychu mae'n rhaid i SFW godi tua £30,000 at gostau hedfan, llety, bwyd a dillad ac offer pêl-droed, ymysg pethau eraill.

Mae'n rhaid i SFW godi arian, er mwyn i Gymru a'r chwaraewyr gael eu cynrychioli yn y digwyddiad. Wedi'i ysbrydoli gan waith SFW, lansiodd CHC ymgyrch ym mis Mehefin, gyda chefnogaeth y sector tai yng Nghymru i helpu codi hanner yr arian sydd ei angen. Mae gan SFW eu hymgyrch eu hunain i godi'r hanner arall.

Hyd yma mae CHC a'i aelodau wedi cymryd rhan mewn gwahanol ddigwyddiadau codi arian yn cynnwys hwyl gysylltiedig â phêl-droed, dyddiau gwisgo crysau pêl-droed i'r gwaith a lotri, ymysg pethau eraill. Codwyd £5,000 hyd yma.

Dywedodd Sioned Hughes, Prif Weithredwr Interim CHC: "Mae llawer o angerdd o fewn y sector i helpu chwaraewyr SFW i fynd a chymryd rhan yn y cyfle hwn a all newid bywydau. Rydym yn gwneud ein gorau glas i godi'r arian fel y gall y chwaraewyr, ac yn wir Gymru, gymryd rhan yng Nghwpan y Byd yn 2014."

Dywedodd Geraint Edwards, cyn chwaraewr ac sydd bellach yn Hyfforddydd Cymunedol Pêl-droed Cymru: "Mae SFW yn wir yn newid bywydau pobl a gallaf ddweud hynny o fy mhrofiad fy hunan. Allwn ni ddim aros i fynd â thîm Cymru i Chile i Gwpan Byd y Digartref eleni. Mae cymryd rhan yn y gystadleuaeth yn rhoi cyfle i chwaraewyr ymfalchïo mewn cynrychioli Cymru a chwrdd ac adeiladu perthynas gyda phobl ddigartref o wledydd eraill ym mhob rhan o'r byd."

Meddai Keri Harris, Arweinydd Prosiect Pêl-droed Stryd Cymru "Mae Pêl-droed Stryd Cymru yn defnyddio grym pêl-droed i helpu pobl i droi eu bywydau o amgylch. Rydym mor ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan y sector tai. Rydym yn falch i gynrychioli Cymru yng Nghwpan Byd y Digartref."

Yn ogystal â'r gêm bêl-droed elusennol yn ystod wythnos yr Eisteddfod, mae gan CHC stondin ar y Maes mewn partneriaeth gyda Care & Repair Cymru, Cymdeithas Tai Bro Myrddin a SFW, yn cynnal gweithgareddau codi arian yn cynnwys trechu'r gôl-geidwad a Ble mae'r Bêl. Aiff yr holl gyfraniadau o'r digwyddiadau hyn i bot codi arian SFW. Gall unrhyw un gyfrannu at ymgyrch codi arian Cwpan Byd i'r Digartref SFW drwy fynd i:

http://www.gofundme.com/bn1dvs