Jump to content

14 Rhagfyr 2018

Rhoi tenantiaid wrth galon pethau

Rhoi tenantiaid wrth galon pethau
Bob Smith yw Cadeirydd Grŵp Cynghori Rheoleiddio Llywodraeth Cymru ac yn aelod o Fwrdd Rheoleiddio Cymru ac rydym yn falch i rannu blogiad a ysgrifennodd yn ddiweddar ar gyfer Welsh Housing Quarterly. Mae'n dweud wrthym sut y gall y Fframwaith Rheoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru sicrhau fod tenantiaid wrth galon ein gwaith.


Mae Fframwaith Rheoleiddio Cymdeithasau Tai Cymru yn dadlau fod tenantiaid wrth galon rheoleiddio ac yn rhoi disgwyliadau clir ar gymdeithasau unigol i ddangos sut mae tenantiaid yn ymwneud â llunio gwasanaethau a phenderfyniadau cymdeithasau.


Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru yn awr yn cynnal adolygiad strategol gan anelu i ddeall y tirlun presennol ar gyfer cyfranogiad tenantiaid, deall sut olwg sydd ar gyfranogiad tenantiaid cadarnhaol (a'r hyn sy'n gweithio mewn gwahanol gyd-destunau) ac i ddatblygu dull i gefnogi ymgysylltu â thenantiaid. Bydd hyn yn adeiladu ar waith Grŵp Gwneud iddo Weithio (ar y cyd rhwng Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a TPAS Cymru) a chysylltu gyda'n hadolygiad strategol blaenorol o lywodraethiant tai, Y Pethau Iawn: Gwella trefniadau llywodraethu cymdeithasau tai yng Nghymru, a lansiwyd yng Nghynhadledd Llywodraethiant Cartrefi Cymunedol Cymru yn gynharach eleni.


Newid cyd-destun


Y llynedd nododd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru (nid yn lleiaf mewn ymateb i ymchwiliad Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cyhoeddus Cymru ar drosolwg rheoleiddiol cymdeithasau tai) ei ymrwymiad i wneud yn siŵr fod tenantiaid yn ganolog mewn rheoleiddio a chytunodd y byddai ei adolygiad strategol 2018/19 yn canolbwyntio ar ymgysylltu â thenantiaid.


Mae cwestiwn sut y caiff llais tenantiaid ei glywed yn neilltuol o berthnasol yng ngoleuni trychineb Grenfell. Mae canlyniadau Grenfell unwaith eto wedi dangos y risg o beidio rhoi ystyriaeth i rwystredigaeth tenantiaid, ond mae hefyd yn rhoi cyfle ar gyfer syniadau newydd yn nhermau ymgysylltu â thenantiaid a gwireddu manteision gwrando ar denantiaid.


Dadleuodd adolygiad annibynnol Hackitt, Building a Safer Future, am fwy o fynediad i wybodaeth, mwy o ymgyfraniad ac ymgysylltu i breswylwyr a gwella ffyrdd o gael iawn. Ymysg y pum egwyddor sy'n sail i bapur gwyrdd diweddar Llywodraeth San Steffan A New Deal for Social Housing mae grymuso preswylwyr a sicrhau y caiff eu lleisiau eu clywed, fel y caiff landlordiaid eu dal i gyfrif. Fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd gyhoeddi galwad am dystiolaeth yn ddiweddar ar gyfer adolygiad o reoleiddio tai cymdeithasol a gododd gwestiynau am y dull o reoleiddio defnyddwyr yn Lloegr. Mae Housing for the Many, Papur Gwyrdd y Blaid Lafur, hefyd yn nodi cynigion ar gyfer cynyddu ymgyfraniad tenantiaid mewn tai.


Ein dull gweithredu


Mae Bwrdd Rheoleiddiol Cymru wedi cytuno y dylai'r adolygiad strategol ganolbwyntio ar geisio sefydlu set o egwyddorion a gytunwyd a fedrai fod yn sylfaen i ymgyfraniad tenantiaid effeithlon a mynd i'r afael â'r materion a nodir mewn safonau perfformiad i edrych ar helpu i wella:
  • Dulliau effeithlon o gynnwys tenantiaid mewn gwneud penderfyniadau strategol a llunio gwasanaethau mewn ffyrdd sy'n addas ar gyfer tenantiaid a'r sefydliad.

  • Sut mae byrddau yn sicrhau eu hunain am berfformiad gwasanaeth cyfredol, yn cynnwys bodlonrwydd tenantiaid, a gwella parhaus.


O'i hanfod, mae hyn yn adolygiad strategol lefel uchel a chyfle mewn hinsawdd sydd ar hyn o bryd yn barod i feddwl am sut y gallwn ddeall barn tenantiaid yn well a datblygu ffyrdd ystyrlon o ymgysylltu i roi arweiniad yng Nghymru, gan ymchwilio ffyrdd o wneud pethau'n wahanol. Yng ngoleuni peth gwaith cwmpasu dechreuol, yr hyn rydym eisiau allan o'r adolygiad yw dull i helpu gwella dulliau ymgyfraniad tenantiaid, yn seiliedig ar egwyddorion allweddol, ymchwilio syniadau newydd a herio dulliau gweithredu cyfredol (beth sydd yn wirioneddol yn gweithio - a beth nad yw ond mynd drwy'r cymalau), gan ddatblygu gwerthfawrogiad o ddulliau diweddar o gynnwys tenantiaid fydd yn gweithio yn yr amgylchedd presennol.


Y dull a weithredwn yw gwaith pellach i ddeall y tirlun presennol ar gyfer ymgysylltu tenantiaid, yn nhermau adolygu dulliau modern o ymgyfraniad tenantiaid a chlywed eiriolwyr gwahanol ddulliau o gyfranogiad tenantiaid. Mae'r adolygiad hefyd yn edrych ar ddynodi enghreifftiau o ymarfer cadarnhaol a deall beth sy'n gweithio (a pham) mewn gwahanol gyd-destunau, gyda golwg ar ddatblygu dull (a'i brofi gyda thenantiaid a landlordiaid) i gefnogi datblygiad pellach ar ddulliau effeithlon o ymgyfraniad tenantiaid.


Caiff yr adolygiad ei oruchwylio gan grŵp llywio fydd yng ngofal yr adolygiad ar ran y Bwrdd Rheoleiddio. Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys Clarissa Corbisiero-Peters (Cartrefi Cymunedol Cymru), David Lloyd (TPAS Cymru), Shayne Hembrow (Tai Wales & West Housing) Ceri Meloy (Tai Pawb), Ruth Davies (Dyfodol Tai Cymru) a Kevin Lawrence a finnau fel aelodau Bwrdd Rheoleiddiol Cymru, yn ogystal â Carol Kay, Maria Round, Ian Walters a Stephen Tranah o dîm rheoleiddio tai Llywodraeth Cymru. Byddwn hefyd yn gweithio gyda Keith Edwards (Cydymaith Arweiniol Rhwydwaith Ansawdd Tai Cymru a chyn-gyfarwyddydd CIH Cymru) fel cynghorydd arbenigol allanol annibynnol. Cynhaliwyd astudiaeth cwmpasu dechreuol a rydym wedi gwrando ar nifer o siaradwyr o du mewn a hefyd du allan y sector tai a thu hwnt. Bwriedir i'r adolygiad ddod i ben erbyn mis Mehefin 2019 a chyhoeddir y canfyddiadau yn fuan wedyn.


Cyhoeddwyd fersiwn cynharach o'r blog hwn yn Welsh Housing Quarterly 112 (Hydref 2018.