Jump to content

20 Rhagfyr 2018

Rhesymau dros fod yn siriol

Rhesymau dros fod yn siriol
Wrth i 2018 dynnu ei chwt ati a gwleidyddion yn y Cynulliad Cenedlaethol a San Steffan yn dechrau ar eu gwyliau, gobeithio y byddwn yn cael wythnos neu ddwy dawel, sy'n golygu ei bod yn amser da edrych yn ôl ar y flwyddyn yr ydym ar ffin ffarwelio â hi.


Bu 2018 yn flwyddyn anodd yn wleidyddol, ac rwy'n amau os oes unrhyw un wedi teimlo hyn yn fwy na'r Prif Weinidog Theresa May. Mae'n teimlo iddi dreulio mwyafrif y flwyddyn ar y dibyn ac i bob un o'i datganiadau gynnwys posibilrwydd ei hymddiswyddiad neu etholiad.


Ar ôl dweud hynny, mae wedi llwyddo i orffen y flwyddyn yn dal yn ei swydd (a thybio nad oes dim wedi newid ers ysgrifennu hyn) ac mae'n debyg y bydd hynny wedi synnu hyd yn oed rai o'i chefnogwyr mwyaf teyrngar. Fel y rhan fwyaf ohonom, mae Brexit wedi mynd â'r rhan fwyaf o sylw May eleni ond bu digonedd o straeon newyddion eraill diddorol iawn efallai na wnaethoch sylwi arnynt yn 2018, felly dyma rai o'r straeon newyddion brafiach y gallech fod wedi eu colli neu anghofio amdanynt i gynhesu eich calon ar ddiwrnod oer o aeaf ..


Ionawr: Mewn un cam yn y frwydr yn erbyn llygredd plastig, nôl ym mis Ionawr gwaharddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig ficrobeli o rai mathau o golur a chynnyrch gofal personol yn Lloegr. Amcangyfrifwyd y gallai dim ond un gawod arwain at i 100,000 o ficrobeli fynd i mewn i'r system ddŵr, ac na fyddai'r rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hidlo drwy'r system carthffosiaeth felly byddent yn gorffen eu taith yn y môr. Oherwydd eu natur nid ydynt yn pydru dros gyfnod a gallant fod yn niweidiol iawn i fywyd morol. Hwn oedd y cyntaf o ddau gam yn gwahardd microbeli; daeth yr ail i rym yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac roedd yn waharddiad llwyr ar werthu cynnyrch yn cynnwys microbeli o fis Mehefin, a gafodd ei weithredu yng Nghymru yr un pryd.


Chwefror: Cafodd Gemau Olympaidd y Gaeaf eu cynnal eleni yn Pyeongchang yn Ne Korea. Roeddent yn gemau pwysig gan i'r athletwyr o Ogledd Korea a De Korea orymdeithio gyda'i gilydd yn y seremoni agoriadol dan faner unedig. Yn ychwanegol at hyn, roedd tîm hoci iâ menywod yn cynnwys athletwyr o'r ddwy wlad ac fe wnaethant gystadlu fel cyd-dîm Korea, yn hytrach na thimau gwahanol. Efallai nad yw wedi newid y berthynas rhwng y ddwy wlad yn gyffredinol eto, ond efallai ei fod yn arwydd bach o newid i ddod.


Mawrth: Ar 24 Mawrth, cynhaliwyd dros 880 o ddigwyddiadau ym mhob rhan o'r byd yn galw am ddeddfau mwy llym i reoli gynnau yn yr Unol Daleithiau. Daeth hyn yn sgil digwyddiad yn Ysgol Uwchradd Stoneham Douglas yn Parkland, Florida lle cafodd 17 o bobl eu llofruddio a 17 arall eu hanafu. Daliodd yr actifyddion ifanc, yn cynnwys Emma Gonzales, lygaid cyfryngau'r byd ac amcangyfrifwyd i rhwng 1.2 a 2 filiwn o Americanwyr orymdeithio'r diwrnod hwnnw; cafodd gwrthdystiad ei gynnal yn Antartica hyd yn oed.
Ebrill: Cafodd sinemâu eu gwahardd yn Saudi Arabia ers 1983, ond newidiodd hynny ym mis Ebrill gydag agor y sinema gyntaf. Y ffilm gyntaf a ddewiswyd i'w dangos oedd Black Panther Marvel ac ni chafodd y dangosiad ei segregeiddio yn ôl rhyw.


Mai:
Ar 26 Mai pleidleisiodd mwyafrif llethol pobl Iwerddon i wrthdroi'r wythfed gwelliant sy'n gwahardd erthyliad. Teithiodd Gwyddelod o bob rhan o'r byd yn ôl adre i bleidleisio yn y refferendwm hanesyddol ac roedd ymgyrchoedd cyllido torfol i gael pobl yn ôl i Iwerddon i'w galluogi i fwrw eu pleidlais. Roedd yn anodd peidio teimlo'n emosiynol wrth weld y torfeydd mewn meysydd awyr a phorthladdoedd ar draws y wlad yn cymeradwyo pobl yn cyrraedd ac yn dosbarthu bagiau o Taytos i'w croesawu.



Mehefin:
Cwpan y Byd, oedd, yn dechnegol roedd y twrnamaint yn parhau am ddau fis, ond dechreuodd nôl ym mis Mehefin wrth i'r wlad fwynhau cyfnod hir o dywydd godidog. Roedd yn teimlo na fyddai hirddydd haf byth yn dod i ben, gallech ddibynnu ar y tywydd i wneud cynlluniau ar gyfer gweithgareddau awyr agored. Roedd pethau'n teimlo'n obeithiol, roedd pobl yn glên yda'i gilydd, fe wnaeth hyd yn oed ddilynwyr Cymru sy'n cefnogi unrhyw-un-heblaw-Lloegr longyfarch y Saeson ar eu llwyddiant a chytuno eu bod yn haeddu gwneud yn dda. Wyddoch chi byth, efallai mai tro Cymru fydd synnu'r byd yng Nghwpan y Byd nesaf.

Gorffennaf:
Rhwng 8 a 10 Gorffennaf llwyddodd ymgyrch enfawr i achub tîm pêl-droed ifanc o lifogydd dychrynllyd yng nghrombil ogofau Tham Luang yng Ngwlad Thai. Cyn yr ymgyrch achub roedd wedi ymddangos yn annhebygol y gallai'r holl fechgyn a'u hyfforddwr ddianc yn ddiogel; daeth perygl y sefyllfa hyd yn oed yn fwy amlwg ar ôl marwolaeth y plymiwr achub Saman Kunan, a fu farw ar ôl dosbarthu cyflenwadau ocsigen. Fodd bynnag, diolch i help dros 100 o blymwyr o bob rhan o'r byd, cafodd y tîm pêl-droed ifanc a'u hyfforddydd eu gwagio'n ddiogel ar ôl treulio dros ddwy wythnos ar silff yn un o'r ogofau mwy.


Awst:
Yn ystod gwyliau'r haf aeth Theresa May ar ymweliad i Dde Affrica ac roedd ei lluniau ar y tudalennau blaen yn dawnsio gyda disgyblion ysgol. Oedd, roedd yn edrych yn anghysurus, a na, ni fydd ei dawnsio yn cael lle iddi ar Strictly, ond mae rhywbeth braf am bobl yn dawnsio. Dim bwys pa mor wael yw, neu faint ydych yn drwghoffi'r person. Dylai pawb ddawnsio ychydig mwy.


Medi:
Fel rhan o'r ymgyrch Rhuban Gwyn, cynhaliodd Cadwyn eu pumed digwyddiad blynyddol Cerdded Milltir yn Ei Hesgidiau i godi ymwybyddiaeth o nod yr ymgyrch i ddod â thrais dynion yn erbyn menywod i ben. Cymerodd dros 100 o ddynion ran yn y digwyddiad, gan gerdded drwy strydoedd Caerdydd mewn amrywiaeth o esgidiau sodlau uchel, yn cynnwys Joe ac Aaron o CHC, a llawer o gynrychiolwyr o gymdeithasau tai ledled Cymru.



Hydref:
Yn gynnar ym mis Hydref, cyhoeddodd y Ddrafft Gyllideb benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddiogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cefnogaeth cysylltiedig â thai a digartrefedd yng Nghymru, yn hytrach na'i gyfuno gyda nifer o grantiau eraill y llywodraeth i ffurfio uwch-grant Ymyriad Cynnar: Ataliad a Chymorth fel y bwriad blaenorol. Roedd pryderon sylweddol am hyn oherwydd y posibilrwydd y byddai cyllid yn cael ei ddargyfeirio i ffwrdd o dai, yn ogystal â phryderon y gallai ostwng sicrwydd i fenthycwyr ac felly'r gallu i landlordiaid cymdeithasol ddatblygu llety â chymorth. Yn dilyn gwaith gan CHC a Cymorth, cadarnhawyd fod Gweinidogion Cymru wedi gwrando ar y pryderon hyn ac wedi sicrhau'r cyllid mewn grant cysylltiedig â thai.


Tachwedd:
Drwy gydol mis Tachwedd cynhaliodd eglwys yn yr Iseldiroedd wasanaeth gweddi 24 awr ar hugain y dydd i atal allgludo teulu o ffoaduriaid o Armenia. Mae'r teulu wedi cael lloches yn Eglwys Bethel yn Den Haag a dan gyfraith yr Iseldiroedd ni all yr heddlu fynd i fewn i fan addoli yn ystod gwasanaeth. Mae hyn wedi ysgogi clerigwyr o bob rhan o'r wlad i wirfoddoli i gynnal rhannau o'r gwasanaeth, sy'n dal i fynd yn ei flaen. Cyn i'w hawl am loches gael ei wrthod am y tro diwethaf, roedd y teulu wedi treulio'r naw mlynedd ddiwethaf yn byw'n gyfreithiol yn yr Iseldiroedd tra'r oedd eu hawl am loches yn cael ei benderfynu. Cawsant ei gorfodi i adael Armenia lle mae awdurdodau 'r wlad yn ystyried eu bod yn wrthwynebwyr. Mae gobaith y bydd y cyfnod y mae'r gwasanaeth yn ei sicrhau yn darbwyllo Llywodraeth yr Iseldiroedd i ddangos trugaredd at y teulu. Bu'r gwasanaeth yn mynd rhagddo ers dros saith wythnos bellach.

Rhagfyr:
Mae'n Nadolig! Gallwn fwyta caws gyda phob pryd a siocled i frecwast ac mae popeth wedi ei orchuddio mewn gliter.
Drwyddi draw, efallai i 2018 fod yn flwyddyn galed ac ansicr mewn llawer o ffyrdd ond bu cynifer o bethau da sy'n werth eu cofio. Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i bawb.