Jump to content

14 Tachwedd 2017

Rheoleiddio Cymdeithasau Tai, Ymchwiliad PAC - Y camau nesaf

Yn gynharach eleni cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei adroddiad ar Reoleiddio Cymdeithasau Tai yng Nghymru. Yr adroddiad oedd pen llanw nifer o fisoedd o waith gan y Pwyllgor, yn cynnwys ymchwiliad helaeth a phellgyrhaeddol i gasglu tystiolaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid.


Roedd yr ymchwiliad yn amserol gan ei fod yn digwydd ar yr un pryd â newidiadau cyfredol sy'n effeithio ar y sector tai yn cynnwys penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) i ailddosbarthu Cymdeithasau Tai Cymru fel rhan o'r sector cyhoeddus, ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu 20,000 o dai fforddiadwy ym mhumed tymor y Cynulliad, diwygio lles parhaus a'r newidiadau i'r Fframwaith Rheoleiddiol gan Lywodraeth Cymru.


Cafodd yr adroddiad dderbyniad da a'i ganmol am godi nifer o faterion pwysig. Roedd pwnc cymdeithasau tai yn arallgyfeirio eu busnesau yn gonsyrn allweddol a godwyd. Roedd aelodau'r Pwyllgor yn cydnabod manteision posibl arallgyfeirio, gan nodi y gellid ail-fuddsoddi enillion gweithgaredd masnachol yn darparu tai newydd a gwasanaethau. Fodd bynnag, soniwyd am risgiau difrifol os nad oedd y gweithgareddau hyn yn cael eu rheoli'n effeithlon. Galwodd yr adroddiad ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy eglur am sut mae'n goruchwylio arallgyfeirio, yn neilltuol mewn achosion lle caiff ei wneud gan is-gwmni landlord cymdeithasol sydd heb gofrestru.


Galwodd yr adroddiad hefyd am fwy o dryloywder yn y sector yn cynnwys rhoi'r pŵer a gwybodaeth i denantiaid graffu beth mae cymdeithasau tai yn ei wneud iddynt. Er bod y Pwyllgor wedi canfod digon o lywodraethiant a rheoleiddiad da o fewn y sector i gefnogi mwy o annibyniaeth i gymdeithasau tai, mae disgwyliad y bydd angen iddynt fod yn fwy agored a thryloyw wrth wneud penderfyniadau i ganiatáu am hyn.


Gwnaeth adroddiad y Pwyllgor, a gyhoeddwyd ym mis Awst 2017, gyfanswm o 15 o argymhellion i Lywodraeth Cymru. Cawsant dderbyniad da gyda 14 o'r argymhellion yn cael eu derbyn ac 1 yn cael ei dderbyn yn rhannol. Er fy mod yn credu fod ymateb Llywodraeth Cymru yn gyffredinol foddhaol, mae'n sicr y bydd cwmpas i'r Pwyllgor ddychwelyd at y materion hyn yn y dyfodol i fonitro cynnydd Llywodraeth Cymru ar ein hargymhellion ac i ni ystyried os ydym yn fodlon gyda'r cynnydd yma ai peidio. Yn nhermau ein camau nesaf byddwn yn monitro Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) ac os dylai unrhyw un o ganfyddiadau ein hymchwiliad gael eu bwydo i gael eu hystyried gan y pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.


Nick Ramsay AM, Cadeirydd, Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus


Darganfyddwch mwy yn ein sesiwn gweithdy ar ddydd Iau 16 Tachwedd yn ein Cynhadledd Flynyddol. Archebwch eich lle yma.