Mae angen dull gwahanol i gefnogi tenantiaid yng nghymoedd de Cymru drwy’r argyfwng costau byw
Mae Luke Takeuchi, Prif Swyddog Gweithredol RHA Cymru, yn ysgrifennu sut mae costau byw yn cael effaith ddybryd ar gymunedau a chydweithwyr yn y Rhondda, a sut mae gweithio gydag ystod eang o bartneriaid lleol a chenedlaethol yn hollbwysig wrth helpu pobl.
Mae pawb ohonom yn teimlo effeithiau’r argyfwng costau byw, wrth i brisiau a biliau barhau’n uchel. Ond mewn cymunedau fel y rhai yng Nghwm Rhondda, caiff y pwysau hynny eu teimlo’n llawer gwaeth. Ni ddylai unrhyw aelwyd orfod poeni am o ble y daw’r pryd bwyd nesaf, neu wynebu dewis rhwng bwyd neu danwydd – ond dyna’r sefyllfa sy’n wynebu llawer yn lleol.
Fel cymdeithas tai bu gennym bob amser gyfrifoldeb i gefnogi ein tenantiaid sydd fwyaf ei angen, a bod yn glir sut y gallwn eu helpu. Mewn misoedd diweddar, rydym ni yn RHA Cymru wedi cynyddu ein ffocws ymhellach yn y maes hwn i sicrhau ein bod yn deall y problemau a gaiff ein tenantiaid a’n cymunedau, ac ymateb yn y ffordd gywir. Siaradwn yn uniongyrchol gyda thenantiaid i ganfod y ffordd orau i’w helpu, rydym hefyd wedi agor hyb cymunedol newydd yn Nhonypandy lle cynhaliwn hyfforddiant, gweithgareddau a digwyddiadau cymdeithasol ar gyfer ein tenantiaid; a rydym hefyd yn creu gofod cynnes a chroesawgar i’n cymunedau ei ddefnyddio yn ystod y gaeaf. Rydym eisiau sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan wrth ochr busnesau eraill cyfrifol i gefnogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig i fynd i’r afael â’r broblem enfawr hon yn genedlaethol.
Ynghyd â fy swydd dydd, rwy’n aelod o fwrdd arweinyddiaeth Busnes yn y Gymuned (BITC) yng Nghymru. Mae BITC yn elusen sy’n dod â busnesau cyfrifol ynghyd i gael effaith gadarnhaol fel cyflogwyr, ar yr amgylchedd ac o fewn eu cymunedau lleol. Fel bwrdd arweinyddiaeth teimlwn yn gryf fod cyfle i fusnesau ar draws Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol a mudiadau gwirfoddol a chefnogi’r rhai sy’n dioddef mwyaf ar hyn o bryd.
Yn ystod yr haf fe wnaethom gynnal cyfarfod bwrdd crwn i drafod yr argyfwng costau byw a’r ffyrdd y gallwn helpu. Siaradodd aelodau’r Bwrdd gyda busnesau eraill o’r un anian a’n partneriaid yng Nghymru – yn cynnwys Cyngor ar Bopeth Cymru, Sefydliad Bevan, Fareshare Cymru yn ogystal â sefydliadau fel NESTA Cymru – am sut y gallwn ganfod datrysiadau ymarferol i’r argyfwng hwn gyda’n gilydd.
Yr adborth bryd hynny oedd bod y sefyllfa yng Nghymru yn ddifrifol iawn, ac y bydd yn gwaethygu. Cyflwynodd Dr Victoria Winkler o Sefydliad Bevan eu tystiolaeth ddiweddaraf ar dlodi yng Nghymru, ac roedd yn anodd gwrando gyda rhai tueddiadau pryderus iawn mewn lefelau tlodi plant yn neilltuol. Roedd yn amlwg fod angen gwneud mwy i gefnogi pobl ac mae angen i ni weithredu i ddatrys y problemau sylfaenol sy’n golygu mai dim ond cael a chael i gael deupen llinyn ynghyd y mae nifer gynyddol o bobl yng Nghymru.
Mae natur busnes RHA Cymru yn golygu ein bod mewn dialog parhaus gyda llawer o’n tenantiaid ar sail ddyddiol. Fodd bynnag, drwy gydol 2022 rydym hefyd wedi ehangu’r sgwrs i gynulleidfa ehangach gyda’n partneriaid yn y trydydd sector, y sector elusennau a grwpiau gwirfoddol cymunedol, sydd ganddynt i gyd rôl allweddol wrth gefnogi teuluoedd a phobl yn lleol. Mae’r profiadau a rannwyd wedi bod yn ddifrifol a llwm.
Mae anawsterau gyda gwresogi cartrefi a chynnydd mewn prisiau bwyd ar ben y rhestr pryderon. Clywais straeon trist am sut mae teuluoedd yn ei chael yn anodd yn gyson i ymdopi. Mae llawer o gartrefi yn wynebu tebygrwydd prisiau ynni a bwyd uchel tu hwnt gyda’r prisiau yn dal i godi wythnos ar ôl wythnos. Nid oes gan bobl ar incwm is gapasiti yn eu hincwm i amsugno cynnydd mor fawr. Oherwydd yr heriau hyn, mae llawer o’r grwpiau cymunedol yn y cymoedd eisoes yn gweithio i’w llawn allu, ac mae derbyniad fod y sefyllfa bresennol yn debyg o waethygu wrth i ni symud i’r gaeaf.
Nid oes gan bobl ar incwm is gapasiti yn eu hincwm i amsugno cynnydd mor fawr. Oherwydd yr heriau hyn, mae llawer o’r grwpiau cymunedol yn y cymoedd eisoes yn gweithio i’w llawn allu, ac mae derbyniad fod y sefyllfa bresennol yn debyg o waethygu wrth i ni symud i’r gaeaf.
Fel cymdeithas tai wynebwn yr her barhaus o’r ffordd orau i ganolbwyntio ein hadnoddau dros y 12 mis nesaf. Ein prif nod bob amser fu sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan wrth greu tai fforddiadwy newydd gan sicrhau fod ein cartrefi presennol yn gynnes a diogel ac i’r safonau uchel gofynnol - a byddwn yn parhau i wneud hynny. Nid yw hyn yn golygu y byddwn yn cyfaddawdu ar sut yr awn ati gyda gwasanaethau ychwanegol i denantiaid, ond mae yn golygu bod mwy o angen nag erioed i ni feddwl yn greadigol a gweithio hyd yn oed yn fwy agos mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill.
Rwyf hefyd yn ymroddedig yn ein rôl fel cyflogwr yn yr ardal ac rydym wedi gweithio’n galed i sicrhau y caiff cydweithwyr ar draws RHA Cymru eu cefnogi. Rydym wedi cyflwyno pythefnosau newydd naw diwrnod a gweithio hyblyg ar gyfer ein holl gydweithwyr wrth ochr ein cynnig gweithio hybrid newydd, gyda’r bwriad o ysgafnhau peth o’r baich ar gyfer cydweithwyr mewn meysydd tebyg i gostau gofal plant a theithio.
Rydym yn parhau i gael sgyrsiau gyda chydweithwyr Llywodraeth Cymru hefyd i ddweud wrthynt am yr heriau a welwn ar lawr gwlad, er mwyn iddynt ehangu eu dealltwriaeth o lle gellir cael yr effaith fwyaf gydag unrhyw gyllid ychwanegol sydd ar gael.
Mae RHA Cymru yn un o blith llawer o gymdeithasau tai ac yn rhan o ddim ond un sector. Os ydym i ddatrys yr argyfwng cyfredol mewn costau byw mewn modd effeithlon mae’n rhaid i ni ddod ynghyd fel gwlad ac fel busnesau cyfrifol i wneud hyd yn oed fwy ar gyfer y rhai sydd ein hangen fwyaf. Drwy weithio mewn partneriaeth, rwy’n hyderus y bydd y sector tai cymdeithasol yn ffynnu ac y gall ateb unrhyw heriau a all ddod i’n hwynebu yn y dyfodol.