Jump to content

05 Rhagfyr 2018

Ras arweinyddiaeth Llafur yn cyflymu

Ras arweinyddiaeth Llafur yn cyflymu
Gyda Brexit, y Nadolig ac, wrth gwrs, Cynhadledd Flynyddol CHC yn mynd â'r penawdau dros yr ychydig wythnosau diwethaf, byddai'n ddealladwy pe byddai'r etholiad am arweinydd Llafur Cymru wedi mynd yn angof. Felly dyma eich atgoffa!


Gallai'r rhai ohonoch sy'n cofio ymddiswyddiad Rhodri Morgan fel Prif Weinidog ac etholiad dilynol Carwyn Jones fod yn teimlo ychydig o déjà vu. Roed amserlen y ras bresennol am arweinyddiaeth Llafur bron yn yn union yr un fath â'r ornest yn 2009 a chynhelir y bleidlais yn y Senedd i ethol y Prif Weinidog newydd ar 12 Rhagfyr, ddeuddydd ar ôl nawfed pen-blwydd Carwyn Jones fel Prif Weinidog. Nid oedd Carwyn na Rhodri wedi celu'r ffaith eu bod yn bwriadu sefyll i lawr wrth iddynt agosáu at ddiwedd eu hail dymor fel arweinydd yn y Cynulliad. Fodd bynnag, ar ôl marwolaeth drasig Carl Sargeant hydref diwethaf, ymddangosai'n anochel y byddai ymadawiad y Prif Weinidog yn digwydd ynghynt na'r disgwyl. Ar ôl cyhoeddi ei gynlluniau i ymddiswyddo yng nghynhadledd Llafur Cymru yn ôl ym mis Ebrill, cymerodd gyfnod hir i'r ras arweinyddiaeth ei hun fynd ati o ddifri; fodd bynnag ar ôl sawl mis o gwestiynau a chynllunio, rydym yn awr o fewn diwrnod o ganfod pwy fydd yr olynydd.


Arweiniodd proses enwebu weddol gythryblus at i Carwyn Jones benderfynu mynd yn erbyn protocol ac enwebu Eluned Morgan er mwyn sicrhau fod menyw ar y papur pleidleisio i redeg yn erbyn Mark Drakeford a Vaughan Gething. Mark Drakeford yw ffefryn mwyafrif llethol Aelodau'r Cynulliad (gan dderbyn 17 enwebiad i'r 6 yr un a gafodd Vaughan ac Eluned) ond ni fydd hyn o reidrwydd yn trosi'n bleidleisiau gan aelodau'r blaid. Gyda'r cyhoeddiad yfory (6 Rhagfyr), bydd Prif Weinidog newydd yn cymryd y llw cyn gwyliau'r Nadolig, gan felly ddechrau'r Flwyddyn Newydd gyda Prif Weinidog newydd sbon a thebygrwydd o newid yn y Cabinet.


Mark Drakeford oedd y cyntaf i lansio ei faniffesto llawn ac mae wedi amlinellu'n glir ei bolisïau ar gyfer tai cymdeithasol:


1) Penodi Ysgrifennydd Cabinet dros Dai a Materion Cysylltiedig, gan sicrhau y caiff y sector tai ei gynrychioli yn y Cabinet.
2) Cefnogi datblygu tai modwlar.
3) Gweithredu cynlluniau presennol ar gyfer treth tir segur.
4) Alinio tai a chynllunio i alluogi cynghorau i weithio i ddarparu tai ar gyfer pobl leol .
5) Defnyddio tir sy'n eiddo byrddau iechyd lleol ar gyfer gofal cymdeithasol a thai.
6) Cynnig lle i gymdeithasau tai ar Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol.
7) Cryfhau pwerau Gorchmynion Prynu Gorfodol i alluogi caffael tir ac adeiladau gwag.
9) Edrych ar yr achos am asiantaeth tir newydd i gynnull tir ar gyfer dibenion cyhoeddus yng Nghymru.


Eluned oedd y nesaf i gyhoeddi ei maniffesto ac mae'n trafod tai mewn ychydig o wahanol feysydd, gan ganolbwyntio'n bennaf am dlodi a'r economi. Os caiff ei hethol, mae'n cynnig:
1) Parhau gyda nod bresennol Llywodraeth Cymru o ddod â digartrefedd ieuenctid i ben erbyn 2027, bydd hyn yn cynnwys gofyn i grŵp llywio Diweddu Digartrefedd Ieuenctid Cartrefi edrych ar y cynllun cenedlaethol ar gyfer cartrefi a adawyd.
2) Cynyddu'r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer landlordiaid cymdeithasol drwy sicrhau y caiff gwerth cymdeithasol ei gydnabod gan awdurdodau lleol wrth amcangyfrif pris tir.
3) Torri monopoli cwmnïau mawr adeiladu tai drwy weithio gyda chymdeithasau tai cymdeithasol i gefnogi busnesau bach a chanolig Cymru mewn adeiladu tai.
4) Dechrau ar raglen fawr o adeiladu tai ar gyfer yr henoed, a gyllidir gan gymdeithasau tai cymdeithasol drwy eu hannog i fenthyca yn erbyn eu stoc tai presennol, busnesau bach a phreifat preifat unigol a gyda'r newidiadau a gyhoeddwyd mewn cynghorau lleol yn y Deyrnas Unedig.
5) Gwneud newidiadau i reoliadau tai i sicrhau y caiff mwy o ddeunyddiau eu cyrchu o fewn Cymru, gan felly ysgogi twf economaidd pellach.


Mae Eluned hefyd yn cefnogi sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, ynghyd â nifer o bolisïau eraill yn ymwneud â gofal cymdeithasol a thlodi.


Mae Vaughan Gething hefyd yn cefnogi sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol. Nid oedd ei faniffesto ef yn rhoi llawer o sylw i dai, ond mae'n gwneud nifer o ymrwymiadau cysylltiedig yn cynnwys addunedu i ddiweddu newyn gwyliau ar gyfer plant mewn tlodi - mater y mae llawer o gymdeithasau tai wedi gweithio i godi ymwybyddiaeth ohono mewn misoedd diweddar.


Mae natur dadl arweinyddiaeth o fewn plaid sy'n llywodraethu yn golygu fod llawer o'r ymgeiswyr wedi wynebu beirniadaeth y gallai'r polisïau a drafodir fod wedi cael eu gweithredu yn ystod ugain mlynedd Llafur mewn grym yn y Cynulliad, ac erys i'w weld os bydd yr enillydd yn nodi ymadawiad clir o arddull a pholisïau llywodraeth a welsom ers dechrau llywodraeth ddatganoledig. Dengys y polau barn nad yw'r etholiad arweinyddiaeth yma wedi ysgogi fawr o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd, ac yn dilyn ymgyrch etholiadol hir a chywair isel, bydd yn rhaid i ni aros nes bydd y Prif Weinidog newydd yn ei swydd cyn i ni gael teimlad go iawn o beth yw'r weledigaeth ar gyfer dyfodol Cymru.