Jump to content

04 Mawrth 2019

Pwysigrwydd llywodraethu'n dda

Pwysigrwydd llywodraethu'n dda
Helen White yw Cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a Phrif Weithredydd Gweithredu Gwirfoddol Caer. Hi fydd cadeirydd ein Cynhadledd Llywodraethiant ar 7 a 8 Mawrth. Mae'n dweud wrthym am bwysigrwydd llywodraethu'n dda.


"Fel mam i ddau fachgen, cadeirydd cymdeithas tai, cadeirydd Bwrdd Rheoleiddiol Cymru a Phrif Weithredydd elusen, rwyf wedi datblygu'r gallu i ddarllen papurau bwrdd, ysgrifennu papurau bwrdd, smwddio dillad ysgol a choginio bysedd pysgod i gyd ar yr un pryd.


Peidiwch â fy nghamddeall, nid oes un diwrnod yn mynd heibio pan nad wyf yn awchu am yr her ac yn ei theimlo'n fraint i wneud y gwaith a wnaf.


Dysgais gymaint dros y 17 mlynedd ddiwethaf, ond mewn rhai ffyrdd nid yw gwneud 'llywodraethiant' erioed wedi teimlo mor anodd a llethol.


Mae'n wych clywed y bydd mwy o gynrychiolwyr nag erioed yn y gynhadledd Llywodraethiant eleni. Mae hyn yn anfon neges glir fod y sector yn cydnabod bod pethau gwych yn digwydd ond bod llawer i'w ddysgu a gwella arno o hyd.


O safbwynt llywodraethiant, mewn rhai ffyrdd mae'r cyfeiriad y dewisodd gwahanol gymdeithasau tai arallgyfeirio yn amherthnasol. Y wir her yw gwneud yn siŵr fod llywodraethiant sefydliadau yn cadw'n gydwastad. Mae angen i'r sgiliau ar lefel bwrdd adlewyrchu uchelgais a nodau'r sefydliad. Mae denu'r sgiliau cywir i fwrdd yn bwysicach nag erioed.


Mae angen i fyrddau fod yn ddewr, osgoi meddwl grŵp ac annog her, anghytundeb ac, os meiddiaf ddweud hynny, beth anghytuno. Mae angen trafodaeth fawr ar gyfer penderfyniadau mawr. Ar adeg pan na fu erioed fwy o bwysau ar gynyddu cyflenwad, nid yw gwneud penderfyniadau dewr bob amser am wneud mwy. Weithiau gall fod yn llawer caletach amddiffyn penderfyniad i wneud llai.


Mae'n iawn fod llawer o fyrddau'n yn gorfod mynd i'r afael â mater anodd cydbwyso buddsoddiad mewn cartrefi newydd y mae mawr angen amdanynt gyda'r angen i sicrhau buddsoddiad addas mewn cartrefi a chymunedau presennol. Pa effaith a gaiff canfyddiadau'r Adolygiad o Dai Fforddiadwy ei gael ar uchelgais strategol y Bwrdd?


I wneud yn siŵr y gall y Bwrdd ganolbwyntio ar y materion strategol mawr, rydych angen sicrwydd go iawn am berfformiad gweithredol. Mae'n hanfodol cael y systemau cywir yn eu lle pan fo gennych fwrdd o tua 12 ac unrhyw beth o 1,000 i 15,000 o gartrefi.


Ydyn ni'n gwrando go iawn ar denantiaid? Mae'n rhwydd siarad am alluogi a chefnogi tenantiaid i ddylanwadu'n effeithlon ar eich gwaith, ond mae'n anodd gwneud hynny'n dda. Gobeithiaf y bydd ein hadolygiad thematig ar roi tenantiaid wrth galon gwaith cymdeithasau tai yn cefnogi hyn.


Mae'r Fframwaith Rheoleiddiol yng Nghymru yn wahanol i'r un yn Lloegr gan ei fod yn benodol yn rhoi tenantiaid wrth galon y broses rheoleiddio. Ond gwaith bwrdd y gymdeithas tai, nid y rheoleiddiwr, yw datblygu a sefydlu diwylliant o roi tenantiaid a chymunedau wrth galon gwneud penderfyniadau. Popeth yn iawn cael strategaethau ar hyn, ond gwyddom i gyd fod diwylliant yn bwyta strategaeth i frecwast!


A gyda llai na mis i fynd tan Brexit, mae penderfyniadau anodd yn cael eu gwneud mewn sefyllfa o ansicrwydd economaidd parhaus, tra bod yr amgylchedd gweithredu allanol yn dal i fod yn gymhleth ac yn teimlo'n fregus.


Credwch fi, rwy'n gwybod yn well na'r rhan fwyaf pa mor anodd yw hi i gael llywodraethiant yn iawn. Ni allaf addo y byddwch yn cael yr holl atebion yn y gynhadledd ond gallaf addo, gyda'n gilydd, y gallwn wneud yn siŵr ein bod yn gofyn y cwestiynau cywir ac yn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl ar gyfer tenantiaid yng Nghymru."


Byddwn yn lansio ein hyfforddiant llywodraethiant newydd yn y Gynhadledd Llywodraethiant ar 7 Mawrth. Ffocws yr hyfforddiant fydd darparu cefnogaeth i ddarpar aelodau bwrdd, aelodau newydd ac aelodau mwy profiadol y bwrdd a darparu'r dulliau, sgiliau a'r hyder maent eu hangen i lywodraethu'n dda. Archebwch eich lle yma.