Jump to content

23 Ebrill 2021

Pum peth y gwnaethom eu dysgu o’n cyfarfod hysting ar dai

Pum peth y gwnaethom eu dysgu o’n cyfarfod hysting ar dai

Gydag ychydig dros bythefnos i fynd tan y cawn ein cip cyntaf ar sut
olwg fydd ar Lywodraeth Cymru yn dilyn yr etholiad, daethom â
gwleidyddion Llafur, Plaid Cymru a’r Ceidwadwyr ynghyd i fanylu ar eu
gweledigaeth ar gyfer tai fel rhan o’n cyfarfod hysting
hir-ddisgwyliedig.


Mewn byd gwleidyddol a fedrai ein gweld yn symud at lywodraeth
glymbleidiol ar ôl 6 Mai, roedd mwy o gonsensws nag o wrthdaro rhwng
Julie James, cyn weinidog Tai y Blaid Lafur; Delyth Jewell, cyn weinidog
cysgodol Plaid Cymru dros Drawsnewid Gwasanaethau Cyhoeddus a’r
Dyfodol; a David Melding, cyn weinidog Tai y Ceidwadwyr. Efallai nad
yw’r cytundeb hwn yn beth gwael.


Y newyddiadurwr Will Hayward oedd cadeirydd y cyfan. Felly beth wnaethon ni ddysgu?


  • Dechreuodd y drafodaeth gyda phwnc oedd yn gyffredin i’r holl ddigwyddiad – rôl tai ansawdd da

Edrychodd Julie James ar lwyddiannau Safonau Ansawdd Tai Cymru wrth
wella ansawdd tai cymdeithasol ers 2004 ac addo buddsoddi dros £1bn yn y
cyfnod nesaf lle caiff cartrefi eu hôl-osod i EPC Band A. Byddai’n
rhwydd addasu’r ‘cartrefi oes’ hyn ar gyfer pobl gydag anghenion, a
byddid yn dileu’r prawf modd ar addasiadau bach/canolig.


Pwysleisiodd Delyth Jewell o Blaid Cymru fod cysylltiad annatod rhwng
ansawdd tai ag ansawdd bywyd. Gall cael man diogel a saff i’w alw’n
gartref wella llesiant meddwl pobl yn ogystal â’u llesiant corfforol.
Gall ostwng tlodi tanwydd a marwolaethau ychwanegol y gaeaf. Mae
cartref iach hefyd yn mynd ymhellach na brics a morter – mae cynhwysiant
digidol yn hanfodol, ac mae Plaid Cymru’n addo cyflenwi band eang
cyflym iawn i bob cartref yng Nghymru. Mae’r blaid hefyd yn addo sicrhau
fod cartrefi o fewn pum munud ar droed i ofod gwyrdd.


Er bod David Melding o’r Blaid Geidwadol yn cytuno, ychwanegodd y
byddai’r Torïaidd yn mynd ati i flaenoriaethu tai ar gyfer y rhai mwyaf
anghenus, ac y byddent yn darparu cynlluniau effeithlon wrth ochr hyn i
gefnogi aelodau mwyaf bregus cymdeithas. Ychwanegodd mai darparu cartref
digonol yw’r weithred fwyaf effeithlon y gellir ei chymryd i wella
iechyd a llesiant rhywun.


  • Adferiad gwyrdd oedd y pwnc nesaf.

Cytunodd yr holl ymgeiswyr gyda’r angen i gefnogi busnesau bach a
chanolig lleol i adeiladu tai ac ôl-osod, gyda Delyth Jewell yn dweud
fod gennym gyfle yn awr i gyfoethogi cymunedau drwy ddarparu swyddi
ansawdd da a chartrefi ansawdd da. Tanlinellodd David Melding yr angen i
hyrwyddo’r diwydiant adeiladu ymysg pobl ifanc i fynd i’r afael â’r
prinder sgiliau yng Nghymru.


Ar y pwynt hwn, edrychodd Julie James ar gyllid y cyn Lywodraeth
Lafur yng Nghymru a roddwyd i ‘or-sgilio’ fel y gellir codi tai ac
ail-osod yn eang. Soniodd hefyd am gefnogaeth y gyn Lywodraeth i
fusnesau bach a chanolig wrth gael mynediad i dir a’r cyllid a
ddarparwyd i’r sector drwy Fanc Datblygu Cymru. Gweithredwyd y pecynnau
cymorth Gallu Gwneud mewn partneriaeth gyda landlordiaid cymdeithasol
cofrestredig a busnesau bach a chanolig er mwyn sicrhau gwerth
cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol yn y maes hwn.


  • Ar fater cymorth tai:

Er y soniwyd mai dim ond un maniffesto – maniffesto’r Ceidwadwyr –
oedd wedi sôn am y Grant Cymorth Tai, nid oedd unrhyw ymgeisydd yn
anghytuno gyda phwysigrwydd y cyllid hwn i gefnogi pobl i gynnal
tenantiaethau. Roeddent i gyd yn cydnabod yr angen am sicrwydd am y
rhaglenni, gyda Julie James yn dweud y cafodd £40m ei ymrwymo i’r grant
ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ychwanegodd Plaid Cymru fod angen disgresiwn a
thrugaredd ar bolisïau troi allan, a dylid gwahardd rhoi pobl dan 18
oed mewn llety Gwely a Brecwast.


  • Sut mae’r tair plaid yn bwriadu gwneud yn siŵr fod tai yn hawl sylfaenol i bawb?

Mae gan gymdeithasau tai uchelgais i wneud cartref yn hawl sylfaenol i
bawb ac felly roedd yn galonogol, er nid yn syndod, i glywed yr holl
ymgeiswyr yn cytuno gyda’r datganiad hwn. Daeth y gwahaniaeth i’r amlwg
wrth drafod y dull cywir o gyflawni’r nod. Mae Julie James o’r Blaid
Lafur yn awyddus i sicrhau y gall unigolyn orfodi eu hawl ei hunan i
gartref digonol, fodd bynnag roedd yn cydnabod nad oes gennym eto
gyflenwad digonol o gartrefi i alluogi hyn i ddigwydd. Bydd Plaid Cymru
yn cyflwyno polisi ailgartefu cyflym gyda Tai yn Gyntaf a byddai’n ei
gwneud yn ofynnol i bob awdurdod lleol fabwysiadu’r model hwn. Gwnaeth
Delyth Jewell yr achos dros ddatganoli’r system llesiant a threialu
incwm sylfaenol i bawb, camau a allai symud y ffocws o argyfwng i atal.
Daeth yr unig anghytundeb yn y digwyddiad pan siaradodd David Melding a
Julie James yn erbyn yr angen i drosglwyddo pwerau nawdd cymdeithasol
i’r Senedd.


  • Daeth y cyfarfod hysting i ben gyda phwnc hanfodol buddsoddiad.
    Gofynnodd yr ymgeiswyr beth fyddai Llywodraeth Cymru yn dilyn yr
    etholiad yn ei ymrwymo i gymdeithasau tai gyflawni ar y llu o fuddion
    economaidd chymdeithasol sy’n arwain at adeiladu cartrefi fforddiadwy,
    ansawdd da.

Dywedodd Delyth Jewell bod rôl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig
yn hanfodol ac ymrwymodd i wrando ar y sector ar ôl yr etholiad a’r
pandemig coronafeirws i asesu pa lefel o fuddsoddiad fyddai ei angen.
Ymrwymodd Julie James i negodi gyda landlordiaid cymdeithasol ar y
system rheoli rhent pum mlynedd gan ddweud bod angen edrych eto arno.
Cydnabu fod angen y cydbwysedd cywir rhwng fforddiadwyedd rhent ar gyfer
y tenant a’r angen i gael ffrwd incwm rhent a all gyllido tai yn y
dyfodol.


Gyda 14 partner a dros 100 o fynychwyr yn cymryd rhan yn yr hysting
o’r sectorau amgylchedd, adeiladu, iechyd ac economi yn ogystal â’r
sector tai, cawsom unwaith eto ein hatgoffa fod tai yn fwy na dim ond
tai. Gall adeiladu a chynnal cartrefi fforddiadwy, ansawdd da ddarparu
swyddi, hybu’r economi, mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, gwella
deilliannau iechyd a gostwng tlodi tanwydd. Roedd yn addawol clywed pob
un o’r pleidiau a gymerodd ran yn y digwyddiad yn cydnabod pwysigrwydd
cymdeithasau tai, a phob un yn ymrwymo i gydweithio gyda’r sector yn
nhymor nesaf Senedd Cymru i sicrhau y darperir y lefel gywir o
fuddsoddiad.


Wedi colli’r digwyddiad, gwyliwch yma nawr.