Jump to content

10 Hydref 2022

Prosiect dwyieithog wedi lansio i atal digartrefedd ymhlith pobl hŷn

Prosiect dwyieithog wedi lansio i atal digartrefedd ymhlith pobl hŷn

Mae gwasanaeth newydd i bobl hŷn yn cael ei gynnig yng Ngogledd Cymru gan uned fusnes cymdeithas dai Grŵp Cynefin, Gorwel.

Mae Prosiect Pobl Hŷn Môn wedi’i gomisiynu gan Gyngor Ynys Môn i ddarparu cefnogaeth ddwyieithog saith diwrnod yr wythnos i bobl 55 oed a throsodd sy'n wynebu heriau gyda'u trefniadau byw neu sy'n profi problemau a allai achosi iddynt ddod yn ddigartref pe na baent yn cael eu datrys.

Mae’r gwasanaeth yn arbennig o bwysig wrth i gymunedau wynebu effaith economaidd a chymdeithasol y byd ôl-bandemig. Mae ymchwil gan Lywodraeth Cymru, a ddyfynnwyd yn Adroddiad Cyflwr y Genedl 2021 Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn awgrymu bod yn o bob pump o bobl hŷn yng Nghymru bellach yn byw mewn tlodi incwm, ac ers y pandemig bu cynnydd o 98% ymhlith pobl dros 60 oed yng Nghymru sy’n derbyn Credyd Cynhwysol.

"Mae cael sylfaen sefydlog a diogel yn hanfodol i weld pobl Cymru’n ffynnu - dylai pawb gael mynediad at gartref fforddiadwy a sefydlog o ansawdd da.

“Rydyn ni’n gwybod bod llawer yn ei chael hi’n anodd cynnal cartref weithiau, boed hynny drwy salwch neu galedi ariannol, sy'n gallu eu gwneud yn agored i ddigartrefedd.

“Rydw i wrth fy modd o weld y gefnogaeth sy'n cael ei gynnig i bobl Ynys Môn gan Gorwel. Dylai pobl hŷn deimlo’n ddiogel, yn gyfforddus a yn rhan o’u cymuned leol. Dyma'r union fath o ddull ataliol yr ydym yn canolbwyntio arno, fel y nodir yn ein Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd.”
Gweinidog Newid Hinsawdd Llywodraeth Cymru, Julie James

Mae'r prosiect newydd hwn yn adeiladu ar waith blaenorol Gorwel yn yr ardal. Byddant yn gallu helpu mewn amrywiaeth o ffyrdd gan gynnwys darparu cymorth ynghylch materion ariannol megis rheoli rhent, morgais neu ddyledion eraill, cyllidebu a chael mynediad at fudd-daliadau; gwneud cartref person yn fwy addas i’w anghenion, er enghraifft trwy drefnu addasiadau; a helpu pobl i gael gwell ansawdd bywyd trwy gryfhau cysylltiadau cymunedol a chefnogi pobl i gael mynediad at gyfleoedd addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli a chyflogaeth.

“Mae’n addas bod y gwasanaeth hwn yn cael ei lansio ar Ddiwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn. Ni ellir diystyru pwysigrwydd darparu gwasanaethau dwyieithog yn ein cymunedau sy’n galluogi pobl hŷn i aros yn eu cartrefi eu hunain, yn gysylltiedig â’u cymunedau eu hunain cyhyd â phosibl.”
Cynghorydd Alun Roberts, deilydd portffolio Gwasanaethau Oedolion (Gwasanaethau Cymdeithasol) Ynys Môn
“Mae Grŵp Cynefin yn falch iawn o weithio gyda’r cyngor i gefnogi pobl hŷn ar yr ynys. Mae’n anodd dychmygu pa mor frawychus yw hi i edrych ar ddyfodol heb gartref mewn unrhyw oedran, ond mae gorfod wynebu’r posibilrwydd hwn pan yn hŷn yn arbennig o frawychus. Gwyddom o’n gwaith yn y maes hwn yn flaenorol fod rhai rhwystrau difrifol i bobl hŷn heddiw ac rydym yn edrych ymlaen at helpu lle bynnag y gallwn.

“Mae Gorwel wedi darparu cymorth tai dwyieithog a gwasanaethau eraill ar yr ynys ers blynyddoedd lawer. Bydd y gwasanaeth hwn yn adeiladu ar yr arbenigedd hwnnw, ac ar wybodaeth a chysylltiadau leol.”
Shan Lloyd Williams, Prif Weithredwr Grŵp Cynefin
Shan Lloyd Williams - Grwp Cynefin

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, neu os gallech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod elwa o siarad â rhywun yn Gorwel, gallwch ffonio eu swyddfa ar 0300 111 0226 neu e-bostio poblhyn@gorwel.org