Jump to content

21 Ebrill 2017

Prif Weinidog yn galw Etholiad Cyffredinol ar gyfer 8 Mehefin

Picture of street sign for Downing Street


Y chwedl yw y bydd unrhyw un sy’n treulio noson ar Gader Idris un ai’n deffro’n wallgof neu’n fardd, a gellid maddau i Theresa May am wirio fod ei synhwyrau i gyd yn gweithio’n iawn pan ddeffrodd i ddarllen polau barn yn rhoi’r Ceidwadwyr fwy na 20 pwynt ar y blaen ar ôl treulio peth amser ar y mynydd enwog yr wythnos ddiwethaf.


Ddeg mis ar ôl iddi ddod yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig, mae ei phlaid wedi cyrraedd copaon na welwyd eu tebyg mewn polau barn ers y chwalfa ariannol mawr, tra bod y Blaid Lafur mewn perygl o suddo i’r gwaelodion.


Mwyafrif bach iawn yn y Senedd sydd gan y Prif Weinidog – a gaiff yn aml ei hystyried fel gwleidydd pwyllog - a bydd rhai yn gweld ei phenderfyniad i alw etholiad gyda saith wythnos o rybudd yn risg, ond mae’r polau diweddaraf wedi rhoi hyder iddi nad Mehefin fydd diwedd May.


Er fod May wedi canolbwyntio ar ei harweinyddiaeth yn ychydig ddyddiau cyntaf yr ymgyrch, a Jeremy Corbyn yn mynd ati i ymdaflyd â’r sefydliad, mae’n glir y bydd un mater yn cysgodi pob un arall yn yr etholiad yma – Brexit.


Aeth bron flwyddyn heibio ers i’r Deyrnas Unedig bleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, a gyda trafodaethau sylweddol heb fod yn cychwyn tan yr haf, mae’r etholiad yma’n unigryw drwy roi cyfle i’r pleidiau gyflwyno’r telerau gadael (neu fel arall) y dymunant eu sicrhau gerbron yr etholwyr.


Gymaint ag y gallai’r pleidiau geisio trafod materion eraill, bydd effaith pell-gyrhaeddol y penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd ar ddiwydiant, mewnfudo a’r economi yn ein gadael gydag etholiad un pwnc. Heb brin ddim amser i’r pleidiau lunio maniffesto, mae perygl y bydd gwactod polisi.


Mae hyn yn cyflwyno polisi i’r sector tai yng Nghymru. Mae adeiladu yn un o’r diwydiannau niferus a fu’n dibynnu ar lafur a deunyddiau o’r Undeb Ewropeaidd am nifer o flynyddoedd, ac mae’r etholiad yma’n rhoi cyfle i ni ddylanwadu ar bleidiau i flaenoriaethu a diogelu sector a all gynnig nerth economaidd, swyddi a hyfforddiant ar adeg o newid economaidd sylweddol.


Mae hefyd angen i ni ddefnyddio’r cyfle i siarad am y rhai sydd ‘fwy neu lai yn ymdopi’. O’r rhai a bleidleisiodd, dewisodd dau-draean tenantiaid tai cymdeithasol i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin. I filoedd o’r teuluoedd hynny, nid y toriadau i fudd-dal tai oedd i’w cynnal yn nes ymlaen yn y Senedd yma oedd y newid a fynnent. Mae’r etholiad yn rhoi cyfle i bob plaid edrych eto ar sut y gallwn gefnogi’r teuluoedd hyn.


Dangosodd ymgyrch Cartrefi i Gymru y llynedd pan fo’r sector tai yn unedig, ein bod yn llais cryf dros newid cadarnhaol. Drwy gydweithio eto yn ystod yr etholiad yma a wedyn, gallwn ddylanwadu ar y ffordd y bydd y penderfyniad gwleidyddol mwyaf a gymerodd y Deyrnas Unedig yn oes llawer ohonom yn effeithio ar ein sector. Dim ond tua chwech wythnos sydd gennym i wneud hynny, ond wedyn roedd wythnos yn arfer bod yn amser maith mewn gwleidyddiaeth ...
Aaron Hill
- Rheolydd Materion Cyhoeddus, CHC