Pete yn coginio danteithion gwerth chweil yng Nghastell Caerdydd
Mae cogydd brwdfrydig o Gaerdydd wedi disgrifio sut mae cynllun Llywodraeth Cymru sy’n helpu pobl sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser i ddod o hyd i waith wedi newid ei fywyd a’i helpu i wireddu ei freuddwydion i weithio fel cogydd.
Erbyn diwedd 2017, nod rhaglen Esgyn yw rhoi hyfforddiant a gwaith i 5,000 o bobl sydd wedi bod allan o waith ers dros chwe mis ac sy’n wynebu rhwystrau rhag dod o hyd i waith. Ers ei lansio ym mis Mawrth 2014, mae’r cynllun eisoes wedi creu 953 o gyfleoedd i bobl ledled Cymru.
Mae rhaglen Esgyn Dwyrain Caerdydd, sy’n cael ei chynnal gan Gymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd (CCHA) yn mynd rhagddi’n dda ac ers i fanylion pobl ddechrau cael eu cyfeirio ati ym mis Mai, mae wedi creu cyfleoedd hyfforddi a gwaith i 131 o bobl.
Un sydd wedi cael budd o’r rhaglen yw Pete Dorset, cyn denant gyda CCHA. Pan gafodd ei gyfeirio at raglen Esgyn yn gynharach eleni, roedd Pete wedi bod allan o waith am bron i ddwy flynedd ac roedd yn cael trafferth cael hyd i waith.
Cafodd Pete help gan staff rhaglen Esgyn Dwyrain Caerdydd a fu’n cydweithio ag ef ac asiantaethau eraill i oresgyn problemau oedd yn ei atal rhag dod o hyd i waith. Fe wnaethon nhw helpu Pete i chwilio am waith, ailysgrifennu ei CV a gwella ei dechnegau cyfweld.
O ganlyniad, llwyddodd Pete i gael profiad gwaith ym mwyty Castell Caerdydd lle y parodd i gymryd rhan mewn cyrsiau hyfforddi perthnasol. Mae’r help parhaus y mae Pete wedi’i gael gan dîm Esgyn wedi’i helpu i gael swydd lawnamser yn y bwyty.
Dywedodd Pete: “Cyn cael help, roeddwn yn teimlo mod i’n gwastraffu fy mywyd. Ond nawr fy mod wedi cael y cyfle hwn, dwi ar ben fy nigon!
Roedd Carmen, ei reolwr yn y bwyty, yn canmol Pete yn fawr:
“Mae’n gwneud yn arbennig o dda yma. Rwyf wedi sylwi ei fod wedi gwella’n aruthrol ers iddo ddechrau gyda ni; mae e’n llawer mwy hyderus gyda’r cwsmeriaid, mae bob amser yn cyrraedd y gwaith yn brydlon ac yn awyddus iawn i ddechrau ar ei waith! Mae’n gyrru ‘mlaen yn grêt gyda phawb; mae cael Pete yn aelod o’n îm ni yn bleser!”
Heddiw, cafodd Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi gwrdd â Pete a thîm Rhaglen Esgyn Dwyrain Caerdydd a chafodd hithau weld drosti ei hun sut mae’r cynllun yn helpu pobl leol.
Dywedodd Lesley Griffiths:
“Fe wyddom mai’r ffordd orau allan o dlodi yw gwaith – mae’n helpu bobl i fyw bywydau wrth eu bodd a sefydlog.
“Mae Esgyn yn helpu pobl ledled Cymru i wneud newid fydd yna’n cael effaith barhaus a chadarnhaol ar eu dyfodol.
“Mae’r rhaglen yng Nghaerdydd yn enghraifft wych o sut mae pobl yn cael budd gwirioneddol o’r help a’r cyngor wedi’i deilwra y mae rhaglen Esgyn yn ei gynnig. Rwy’n falch iawn bod y cynllun weld helpu Pete i ddod o hyd i swydd lawnamser; rwy’n dymuno’r gorau un iddo yn ei yrfa newydd.”
Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredwr Grŵp Tai Cymunedol Cymru:
“Fel sector, rydym yn gwneud llawer mwy i bobl na rhoi to uwch eu pennau. Rydym yn chwarae rôl bwysig yn trechu tlodi trwy helpu pobl i ddod o hyd i waith. Mae ein sector ni wedi ymrwymo i roi dros 1,000 o gyfleoedd hyfforddi a gwaith i bobl drwy Raglen Esgyn Llywodraeth Cymru.”
“Roedd yn bleser cwrdd â Pete heddiw a chael clywed sut mae Prosiect Dwyrain Caerdydd, sy’n cael ei gynnal gan CCHA, wedi’i helpu. Mae Rhaglen Esgyn yn enghraifft wych o gydweithio llwyddiannus sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl o bobl cwr o Gymru.”
Dywedodd Natali Pillinger, un o Uwch-fentoriaid Rhaglen Esgyn Dwyrain Caerdydd:
“Mae stori Pete yn enghraifft berffaith o’r ffordd rydym ni’n helpu pobl i gymryd camau cadarnhaol yn eu bywydau. Rydym eisoes yn gwneud gwahaniaeth mawr i denantiaid CCHA a’r gymuned ehangach.”
Mae Pete wastad wedi ymddiddori mewn bwyd a choginio; mae’n gobeithio y bydd ei swydd bresennol yn ei helpu i ddatblygu yn y diwydiant arlwyo.
“Y nod yn y pen draw yw bod yn gogydd felly, mae’r swydd hon, heb os ac oni bai, yn gam i’r cyfeiriad cywir ac yn fy helpu i wireddu fy mreuddwydion. Ac mae’r olygfa sydd gennyf drwy ffenestr fy swyddfa yn fendigedig!”.