Jump to content

17 Gorffennaf 2020

Partneriaethau yn cefnogi cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf

Partneriaethau yn cefnogi cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf
Fel canlyniad i Covid-19, bu’r tîm yn Trivallis yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i ddarparu cefnogaeth ar draws y gymuned. Yma mae Tracey Cooke, Uwch Reolydd Rhaglen Adfywio, yn siarad am y gefnogaeth y buont yn ei ddarparu:


“Ar ddechrau’r pandemig, sefydlodd y cyngor lleol saith hyb ar draws y sir i wneud yn siŵr fod cefnogaeth ar gael i bobl oedd angen hunanynysu. Fe wnaeth Trivallis gymryd rhan o’r cychwyn cyntaf, gan weithio mewn partneriaeth gyda’r cyngor a byrddau iechyd lleol a chymdeithasau tai eraill yn yr ardal.


Rydym wedi medru adleoli rhai o’n staff i ddarparu galwadau ffôn cyson i bobl a gaiff eu hatgyfeirio drwy’r hybiau cymunedol. Mae’r tîm fel arfer yn gweithio gyda thenantiaid yn rhoi cyngor ar reoli eu tenantiaethau, felly buont mewn sefyllfa dda i ofyn cwestiynau am iechyd a llesiant meddwl tenantiaid a gwneud yn siŵr eu bod yn cysylltu â nhw mor gyson ag sydd angen.


Mae’r gwasanaethau gan yr hybiau wedi bod ar gael ar gyfer y gymuned gyfan, ac nid dim ond i denantiaid Trivallis ac yn union fel y bu modd i ni gynnig cyngor i bobl a atgyfeiriwyd atom, rydym hefyd wedi medru cyfeirio ein tenantiaid at y gefnogaeth a roddwyd gan rannau eraill o’r gymuned, megis help gyda siopa.


Hyd yma, mae’r hybiau wedi helpu tua 10,000 o bobl gyda phopeth o drefnu siopa i gefnogi iechyd meddwl.”


Ychwanegodd Alix Howells, Swyddog Prosiect Cymunedol Trivallis:


“Cefais fy adleoli i gynorthwyo gyda’r hybiau cymunedol ym mis Mawrth a chawsom adborth gwirioneddol hyfryd gan bobl sydd wedi gwerthfawrogi cael rhywun i siarad gyda nhw yn rheolaidd. Bu hefyd yn gyfle i mi feithrin perthynas gyda phobl na chafodd efallai eu dynodi fel bod angen cefnogaeth ychwanegol yn flaenorol. Byddwn yn awr yn medru cynnig help a chyngor parhaus i hyd yn oed mwy o denantiaid, hyd yn oed pan fydd y pandemig trosodd.”


Os ydych yn denant Trivallis, gallwch gael mwy o wybodaeth ar y gefnogaeth sydd ar gael i chi a newidiadau i wasanaethau gan eich landlord fel canlyniad i COVID-19 yma.

Darllenwch fwy am yr ymrwymiadau a wnaeth cymdeithasau tai yng Nghymru i gefnogi tenantiaid drwy bandemig Covid-19
yma.