Jump to content

16 Mai 2019

Paratoi'n allweddol i ymdopi gyda newidiadau Credyd Cynhwysol

Paratoi'n allweddol i ymdopi gyda newidiadau Credyd Cynhwysol
Pan ddaeth newidiadau i fudd-daliadau lles i Gymru, dechreuodd Cymdeithas Tai United Welsh ymweld yn rheolaidd gyda thenantiaid, gan sicrhau fod pawb yn deall sut y gallai newidiadau mewn Credyd Cynhwysol effeithio arnynt.


Gan fod y Credyd Cynhwysol yn daliad 'chwech budd-dal mewn un' ac y caiff ei dalu'n fisol yn hytrach nag yn wythnosol, gall symud i'r Credyd Cynhwysol fod yn gyfnod anodd i hawlwyr, yn arbennig rhai sydd angen iddynt ddechrau hawlio oherwydd iddynt golli eu hincwm yn sydyn.


Roedd Emma Burgoyne o Flaenafon yn y sefyllfa honno yn 2018 pan gollodd ei swydd.


Dywedodd: "Fe gollais fy nghar er mwyn talu dyled ond fedrwn ni ddim mynd i'r gwaith hebddo, felly fe gollais fy swydd.


"Cysylltais â'r Adran Gwaith a Phensiynau am fudd-daliadau ond gan mod i eisoes yn hawlio Credyd Treth Plant, fe wnaethon nhw ddweud y byddai'n rhaid i mi wneud cais ar-lein am Credyd Cynhwysol. Nid oedd problem gyda gwneud y cais oherwydd mod i'n defnyddio'r rhyngrwyd yn gyson, ond mae budd-daliadau presennol yn dod i stop tra'ch bod yn aros am eich taliad Credyd Cynhwysol cyntaf ac oherwydd mod i'n dal â dyledion i'w talu ar ben fy rhent a phopeth arall, fe wnes daro'r gwaelod un."


Gadawyd Emma gyda £426 i fyw arno am saith wythnos a gan ei bod yn hanu o Bradford, nid oedd yn rhwydd iddi droi at ei theulu. Roedd yn lwcus i gael cymorth gan ffrindiau ac roedd yn dibynnu'n helaeth ar elusennau.


"Roeddwn yn teimlo'n chwithig y tro cyntaf i mi ddefnyddio banc bwyd. Roedd yn anodd gorfod dibynnu ar bobl eraill i fwydo fy merch. Ond fedrwn ni ddim claddu fy mhen yn y tywod. Roeddwn yn derbyn mod i mewn dyled ac angen help felly dyna beth wnes i, a chefais gymorth gyda chynlluniau talu, taliadau disgresiwn a chael talebau ar gyfer bwyd a dillad.


"Roedd tîm United Welsh eisoes wedi ymweld â fi a thenantiaid eraill haf diwethaf i esbonio newidiadau gyda Credyd Cynhwysol a sut y gallent effeithio arnom, ond oherwydd mod i'n gweithio a dim ond yn hawlio Credyd Treth Plant ar y pryd, wnes i ddim meddwl llawer am y peth.


"Y darn mwyaf o gyngor y gallaf ei roi yw i chi baratoi os ydych yn gwybod y byddwch yn symud i'r Credyd Cynhwysol neu hyd yn oed os nad ydych yn sicr ond y gallai fod yn rhaid i chi, oherwydd gall pethau ddigwydd yn gyflym iawn. Cefais fy nhaliad olaf o'r gwaith ddiwedd mis Awst felly fe wnes lenwi'r cypyrddau a'r rhewgell, er fod banciau bwyd yn help enfawr.


"Wnes i erioed feddwl y byddwn yn y sefyllfa honno ond hyd yn oed os nad yw'r Credyd Cynhwysol yn dod i'ch ardal am fisoedd, rhowch arian o'r neilltu bob wythnos rhag ofn. Bu'n ofnadwy ond roedd yn rhaid i fy merch ddod gyntaf ac rwy'n nawr yn dechrau cael fy nhraed yn ôl oddi tanaf.


"Wn i ddim beth fyddai wedi digwydd oni bai am y gefnogaeth gefais i gan staff United Welsh.”


Dysgwch fwy am y Credyd Cynhwysol drwy archebu lle ar un o'n cyrsiau hyfforddiant yma, a darllen am ein gwaith gyda'r ffederesiynau sy'n bartneriaid i ni i wneud newididau i'r Credyd Cynhwysol yma.