Jump to content

23 Hydref 2020

Pan ddaw i wahaniaethu diarwybod, buom yn hunanfodlon

Pan ddaw i wahaniaethu diarwybod, buom yn hunanfodlon
Ar ôl llofruddiaeth George Floyd, mae mudiad Black Lives Matter wedi bwrw sylw fel erioed o’r blaen ar yr anghydraddoldeb hiliol a thrais sy’n bla yn ein cymdeithas. Mae’n iawn bod mynd i’r afael a chraffu ar y problemau hynny ond ni ddylai fod wedi cymryd protestiadau byd-eang i hynny ddigwydd.


Nid yw’n ddigon mwyach i beidio bod yn agored hiliol, mae’n ddyletswydd arnom i fod yn weithredol wrth-hiliol. Hyd yma, rydym wedi methu ac mae’n rhaid i bethau newid.


Yn Cartrefi Cymunedol Cymru (CHC), ni wnaethom ddigon i fynd i’r afael â gwahaniaethu diarwybod ym mhrosesau, iaith a diwylliant ein sefydliad. Buom yn hunanfodlon. Fel sefydliad ein cenhadaeth yw “galluogi cymdeithasau tai yng Nghymru i fod yn wych” ond byddwn yn methu yn y genhadaeth honno os nad ydym yn croesawu amrywiaeth Cymru yn llawn a phrofiadau pawb sy’n ystyried y wlad hon yn gartref iddynt.


Buom yn ystyried hyn dros fisoedd yr haf ac ym mis Awst fe wnaethom gynnal trafodaeth ar sut y gallai’r sector cymdeithasau tai yng Nghymru ymateb i’r mudiad Black Lives Matter. Fe wnaethom ofyn cwestiwn syml i’r sector: “Sut mae gwneud y foment hon yn wahanol?” Roedd angen gofyn y cwestiwn oherwydd, i fod yn onest, nid oes gan y sector tai nid dim ond yng Nghymru ond yn y Deyrnas Unedig gyfan record dda o weithredu ar anghyfiawnder ac anghydraddoldeb hiliol.


Yr hyn a ddaeth yn glir yn y digwyddiad yw fod pob un cymdeithas tai yng Nghymru yn ymroddedig i weithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwahaniaethu hiliol. Mae llawer o’n haelodau wedi llofnodi ymrwymiad ‘Gweithredoedd nid Geiriau’ Tai Pawb sy’n eu clymu i gyflawni ar gyfres o gamau gweithredu dros y pum mlynedd nesaf, tra bod eraill wedi mabwysiadu eu strategaethau a’u cynlluniau gweithredu eu hunain.


Fel sefydliad, mae gennym ein cynllun ein hunain ar gyfer y misoedd nesaf. Byddwn yn llofnodi ‘Gweithredoedd nid Geiriau’, gan ddangos ein hymroddiad i weithredu a’n galluogi i weithio wrth ochr Tai Pawb a’n haelodau a lofnododd yr ymrwymiad, yn ogystal â’r rhai sydd wedi mabwysiadu eu strategaethau eu hunain, i sicrhau fod y foment hon yn cyfri. Fel y sefydliad sy’n cynrychioli cymdeithasau tai yng Nghymru ac yn ymwneud â datblygu polisi a gyrru newid, byddwn hefyd yn mabwysiadu cynllun gweithredu sy’n adlewyrchu anghenion a natur ein busnes.


Er ein bod eisoes wedi cymryd rhai camau i newid ein harferion, yn cynnwys pan oeddem yn recriwtio i’r bwrdd yn ddiweddar, mae angen i ni fynd lawer ymhellach. Mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw agwedd o’n gweithgareddau yn cynnal a hyrwyddo anghydraddoldeb a gwahaniaethu hiliol strwythurol – o’n cynadleddau, digwyddiadau a rhaglen hyfforddiant; ein recriwtio, hyfforddiant a datblygu staff; i’r ffordd y gweithiwn gyda’n haelodau ac eraill i ddatblygu a dylanwadu ar bolisi a deddfwriaeth tai.


Yn y tymor byr iawn, gobeithiaf y byddwch yn sylwi bod ein cynadleddau a digwyddiadau yn edrych ac yn teimlo’n llawer mwy amrywiol, a bod ein Bwrdd yn rhoi cynrychiolaeth gywirach o’r bobl sy’n byw yng Nghymru. Ond dim ond dechrau pethau yw hynny i ni.


Rydym wedi sefydlu gweithgor i edrych ar yr holl faterion hyn ac adolygu ein polisi a’n harferion yn drwyadl. Yn ogystal â chynrychiolaeth o’n tîm staff a bwrdd, dymunwn weithio gydag eraill o fewn ein haelodaeth a hefyd y tu allan, i’n helpu i gael y camau gweithredu a gymerwn yn gywir. Bydd y grŵp hwn yn dod â syniadau ynghyd ar gyfer newid ac yn herio arweinyddiaeth y sefydliad ar y materion hyn, ac yn gyfrifol am ddiffinio paramedrau llwyddiant.


Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni fedru mesur unrhyw gamau gweithredu a gymerwn ac mae angen i ni gael ein dal yn atebol hefyd – yn sicr i’n Bwrdd, i’n haelodaeth wrth gwrs, ond hefyd yn allanol, a byddwn yn edrych am y ffordd orau i gyflawni’r nod honno.


Bwriadwn fynd â strategaeth gynhwysfawr a chynllun gweithredu i’n Bwrdd ym mis Ionawr a gweithredu newid cyn gynted ag sydd modd. Bydd rhai pethau’n cymryd amser ond gall newidiadau i’r ffordd y gweithiwn ddigwydd yn llawer cyflymach.


Ni fyddwn yn cael popeth yn iawn. Mae bron yn sicr y byddwn yn gwneud camgymeriadau. Ond byddwn yn gwrando, byddwn yn dysgu, a rydym yn ymroddedig i newid.