Pam y dylech fynychu Woodbuild Wales?
Mae llai na phythefnos i fynd tan Woodbuild Wales. Mae'n amser prysur ar y calendr digwyddiadau ond rydym wrth ein bodd gyda'r ymateb hyd yma. Cofrestrwch nawr i gofrestru a dewch i weld sut y gellir cyflawni tai pren effeithiol, cynaliadwy a fforddiadwy yma yng Nghymru.
Yn fy mlog diwethaf dywedais y byddwn y tro hwn yn rhoi rhesymau cryf pam y dylech fynychu Woodbuild Cymru. Dyma'r rhesymau hynny.
Yn gyntaf, ein siaradwyr. Byddant yn ein tywys mewn modd arbenigol drwy'r cyfleoedd ar gyfer tai pren yng Nghymru a sut mae hyn yn cael ei ailystyried i roi ansawdd a'r nifer o dai newydd sydd eu hangen yng Nghymru. Byddwn yn trafod sut mae'n bosibl cyflawni adeiladau pren perfformiad uchel yn fforddiadwy a'r rhagolygon ar gyfer defnyddio pren cartref mewn elfennau strwythurol, paneli wal, insiwleiddiad, cladin, drysau a ffenestri.
Yr ail reswm pam y dylech fynychu Woodbuild Wales yw i glywed y diweddaraf am brosiect £20 miliwn Tai Arloesol. Mae'r prosiect yn edrych am syniadau newydd, ffyrdd newydd o wneud pethau a datrysiadau arloesol. Mae Woodbuild Wales yn cynnig yr achlysur perffaith i wneud y cysylltiadau hynny, adeiladu syniadau prosiect, dod o hyd i bartneriaid a dangos sut gall cadwyn cyflenwi coed Cymru ddatgloi cyfleoedd enfawr ar gyfer twf ac arloesedd mewn tai.
Ac mae hyn yn arwain ymlaen at y trydydd rheswm dros ddod ac ymuno â'ch cydweithwyr o gymdeithasau tai eraill yn Woodbuild Wales, y gadwyn cyflenwi pren. Mae cadwyn gyflenwi gymwys a chyflawn ar gyfer darparu tai pren yn bodoli yng Nghymru ac mae'r nifer cynyddol o adeiladau a godwyd yn defnyddio'r technegau hyn yn dyst i hynny. Woodbuild Wales yw'ch cyfle i gwrdd â rhai o'r gadwyn gyflenwi honno, y melinau coed (bach a mawr), cyflenwyr deunyddiau, cael gwybodaeth am insiwleiddiad seiliedig ar bren, sut i gynllunio adeiladau a chymunedau gwell, coed a addaswyd i wella perfformiad, pam y bydd ffenestri pren yn perfformio'n well na uPCV a llawer mwy o atebion i'r cwestiwn "Pam y dylwn newid i bren?"
Caiff y gadwyn cyflenwi a'r sector eu cefnogi gan sefydliadau sector technegol megis TRADA a'r Gymdeithas Pren Strwythurol fydd yn ymuno â ni yn Woodbuild Wales. Dewch i glywed am y sgiliau a gwasanaethau a gynigiant a sut y gallant eich cefnogi i symud at ddefnyddio mwy o'r deunydd adeiladu gorau oll - pren.
Ac yn olaf mae Woodbuild Wales amdanoch chi a'ch sefydliad a sut y dymunwch weld y sector tai yn datblygu yng Nghymru.
Gan edrych ymlaen at eich gweld yn Woodbuild Wales. Archebwch yma nawr.