Jump to content

26 Ebrill 2022

Pam fod garddio cymunedol mor bwysig

Pam fod garddio cymunedol mor bwysig

Mae garddio cymunedol yn ffordd wych i fynd allan i’r awyr agored, mwynhau bywyd gwyllt, cadw’n heini, ymlacio a chwrdd â phobl. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae mwy a mwy o bobl wedi dechrau gwerthfawrogi gwerth natur ar garreg eu drws ac mae Cadwch Gymru’n Daclus wedi bod yn falch iawn i gefnogi miloedd o denantiaid tai cymdeithasol a chymunedau i osod gerddi natur cymunedol newydd ledled Cymru fel rhan o gynllun grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur.

Gwelsom drosom ein hunain yn union pa mor werthfawr y gall garddio cymunedol fod, ar gyfer natur a hefyd ar gyfer cymunedau. Mae gwirfoddolwyr wedi dysgu sgiliau newydd, gweld gerddi yn blodeuo a ffynnu a hyd yn oed wedi tyfu eu bwyd eu hunain, a all fod yn help mawr yn y dyddiau anodd yma. Mae’r gerddi yn gweithredu fel catalydd ar gyfer pob math o weithgaredd ymgysylltu â’r gymuned hefyd ac yn rhoi canolbwynt go iawn i bobl ddod ynghyd yn eu cymdogaeth. Dywedodd y sawl sy’n cymryd rhan fod eu hiechyd a lles personol wedi gwella, gan sôn am y llawenydd, diben a bodlonrwydd mawr y gall garddio ei roi.

Mae Cadwch Gymru’n Daclus yn falch iawn i fedru helpu cymunedau i greu gerddi natur newydd drwy ddarparu’r holl offer, deunyddiau, planhigion ac offer sydd eu hangen (yn rhad ac am ddim) yn ogystal â chefnogaeth arbenigol gan staff i osod yr ardd. Rydym newydd lansio ein rhaglen newydd ar gyfer 2022-23 ac edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau gan fwy o gymdeithasau tai a’u tenantiaid ar draws Cymru.

Louise Tambini, Dirprwy Brif Weithredwr Cadwch Cymru’n Daclus.

Astudiaeth achos: United Welsh

Mae Llys Nant y Mynydd yn Gynllun Tai Gofal Ychwanegol United Welsh (44 fflat) a ddatblygwyd ar safle hen ysbyty yng Nglynebwy. Mae’r rhan fwyaf o’r preswylwyr yn 50+ oed gyda lefel amrywiol o anghenion gofal a chymorth, ond mae tenantiaid iau gydag anableddau corfforol hefyd.

Yn ystod y cyfnod clo, treuliodd preswylwyr fwy o amser yn yr ardd gaeedig a dechreuodd grŵp bach o wirfoddolwyr ei chynnal a chadw ar gyfer eu lles eu hunain. Yn arwain y grŵp mae Paul sydd ag epilepsi a chlefyd Parkinson ac sy’n dibynnu ar ei sgwter symudedd. Helpodd Paul i osod pecyn cychwyn arni, a roddwyd gan Cadwch Cymru’n Daclus, a arweiniodd at gynnydd uniongyrchol yn nifer y preswylwyr sy’n treulio amser tu fas. Nawr mae grŵp yn ymgynnull bob prynhawn rhwng 4.30-6pm i gael gwrs cyn swper.

Dywedodd Paul iddo wneud gwahaniaeth enfawr i fywyd a lles preswylwyr felly roeddent wrth eu bodd i gael pecyn datblygu. Gellir gweld ffotograffau o’r gofod yma.

Gwnaed yr ardd yn Llys Nant y Mynydd yn bosibl oherwydd cynllun grant cyfalaf, a gyllidwyd gan Lywodraeth Cymru, sy’n galluogi cymunedau yng Nghymru i greu natur ar garreg eu drws. Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar gyfranogiad cymunedol, yn arbennig mewn ardaloedd o amddifadedd, cymunedau trefol a lled-drefol a rhai heb fawr o fynediad i natur. Mae pob pecyn yn darparu’r holl ddeunyddiau, offer a chefnogaeth arbenigol mae cymuned eu hangen i greu eu gofod ar gyfer natur. Yn ôl am hyn, mae’n rhaid i gymunedau gael caniatâd y perchennog tir ac ymrwymo i gynnal y gofod natur am o leiaf bum mlynedd.