Jump to content

16 Tachwedd 2017

Os oedd cartref da yn hawl sylfaenol i bawb yng Nghymru, byddai pobl wedi cysylltu'n well




Lansiwyd gweledigaeth Gorwelion Tai CHC ar gyfer y sector yn ein Cynhadledd Flynyddol ddydd Iau 16 Tachwedd. Gallwch ddarllen y weledigaeth ac edrych ar ein fideo yma.


Pe byddai tai da yn hawl sylfaenol i bawb, byddai pobl yn fwy iach, yn fwy llewyrchus ac wedi cysylltu’n well.


Daliwch i ddarllen i ganfod sut mae cymdeithasau tai eisoes yn cyfrannu at drydedd elfen gweledigaeth Gorwelion Tai.





Academi Tenantiaid Ifanc


Mae Jessica Evans yn denant Grŵp Cartrefi Cymunedol Cynon Taf. Yn dilyn ymweliad gan ei Gweithiwr Datblygu Cymunedol, daeth Jess o hyd i gynllun newydd i gynnig amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddiant a chymwysterau i unigolion rhwng 16 a 30 oed.


Pan ymunodd Jess â'r Academi Tenantiaid Ifanc, roedd ei hunanhyder yn isel ac roedd yn treulio'r rhan fwyaf o'i dyddiau adref. Fodd bynnag, ers ymuno, mae Jess wedi cyflawni gymaint.


Yn ystod ei lleoliad gwaith 10 wythnos, datblygodd Jess amrywiaeth o sgiliau yn gweithio gyda nifer o wahanol adrannau megis y tîm Cynnal a Chadw a Datblygu, Gwasanaeth Tenantiaid ac Adnoddau Dynol. Yn ychwanegol, enillodd gymhwyster mewn Gwasanaethau Cwsmeriaid a chafodd swydd fel Cymhorthydd Marchnata drwy gyfle gyda Twf Swyddi Cymru.


"Mae ymuno â'r Academi wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fy mywyd," esboniodd Jess. "Rwy'n llawer mwy hyderus ynof fy hun yn awr ac yn gwneud ffrindiau newydd. Mae hyn yn ddechrau bywyd newydd a gwell i fi a fy mab."





Sesiynau galw heibio digidol


Bu Cymdeithas Tai Newydd yn gweithio gyda nifer o bartneriaid yn cynnwys Cymunedau yn Gyntaf, Cyngor Bro Morgannwg, Cymunedau Digidol Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i gyflwyno rhaglen ddigidol helaeth sy'n rhoi cefnogaeth, cyngor, offer a hyfforddiant ar bopeth digidol i denantiaid a'r gymuned yn ehangach.


Caiff y gefnogaeth ei rhoi drwy amrywiaeth o sesiynau galw heibio a gyflwynir mewn llyfrgelloedd lleol a hybiau cymunedol yn cynnig help un-i-un am ddim. Cynhelir y sesiynau galw heibio gan Hyrwyddwyr Digidol sy'n gwirfoddoli i helpu'r rhai sydd mewn angen.


Mae Linda Cosslett yn mynychu'r sesiynau digidol wythnosol: "Bu'r sesiynau galw heibio wedi bod yn ddefnyddiol iawn i fi. Dros yr ychydig fisoedd diwethaf rwyf wedi dysgu i chwilio am a chael gwybodaeth yn defnyddio Google. Erbyn hyn rydw i'n gallu defnyddio e-bost, rhannu ffotograffau a chysylltu gyda ffrindiau a theuluoedd yn defnyddio Facebook.


Ers i mi fod yn y sesiynau rwyf wedi benthyca gliniadur gan Newydd drwy eu prosiect benthyca. Mae wedi fy ngalluogi i barhau i ddysgu a chadw mewn cysylltiad gyda phawb."