Jump to content

28 Mai 2019

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod Bwrdd? Peidiwch tanbrisio'ch hunan!

Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn aelod Bwrdd? Peidiwch tanbrisio'ch hunan!
Mae Rachel Honey Jones, Pennaeth Adfywio Cymunedol Tai Newydd, yn esbonio pam nad yw bod yn aelod o bwrdd yn ymwneud ag oedran neu gefndir, ond diddordeb i'r achos.


Roeddwn yn 27 oed pan gefais swydd aelod bwrdd am y tro cyntaf. Roedd Cymdeithas Tai Teulu, Abertawe mewn ymyriad rheoleiddiol estynedig a'r rheoleiddiwr yn awyddus fod aelodau newydd i'r Bwrdd yn cael eu penodi, yn arbennig rai a allai ddod â phersbectif newydd.


Ar y pryd roeddwn yn gweithio fel Swyddog Datblygu Cartrefi NPT (bellach Tai Tarian) ac yn awyddus i ddefnyddio fy sgiliau i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned yn Abertawe, y man rwy'n ei alw'n gartref. Roedd Mike Owen (cyn Brif Weithredydd Cartrefi Cymoedd Merthyr) wedi ei gyfethol i'r bwrdd, ac fe wnaeth fy annog i wneud cais.


Roeddwn braidd yn nerfus ar y dechrau gan feddwl pam fydden nhw eisiau fy recriwtio fi yn hytrach na Phrif Weithredydd gyda deng mlynedd ar hugain o brofiad? Ond roedd Mike yn bendant y gallwn wneud y swydd - roedd gen i brofiad rheng flaen a dealltwriaeth o strategaeth o fy nghyfnod fel cydlynydd prosiect i2i yn CIH. Hefyd, roeddwn newydd gwblhau gradd Meistr mewn Gwleidyddiaeth felly roedd gen i ddealltwriaeth gyfoes o'r tirlun gwleidyddol a sut mae'n effeithio ar dai.


Gofynnwyd llwythi o gwestiynau i mi yn ystod fy nghyfweliad - y prif un oedd "pam eich bod eisiau'r swydd yma?" Cefais hi'n rhwydd cyfleu fy mod yn angerddol i gefnogi cymunedau, yn neilltuol rai yn fy ardal fy hun a rhoi sylw i fy ymrwymiad i dai cymdeithasol oherwydd i fy nau riant gael eu magu mewn tai cymdeithasol, a fy ymroddiad i degwch, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol i bawb.


Roedd y flwyddyn gyntaf yn anodd, ond diddorol a phrysur. Ymddiswyddodd nifer o aelodau'r bwrdd oedd wedi rhoi blynyddoedd o wasanaeth; bu proses recriwtio am Brif Weithredydd newydd a mwy o aelodau Bwrdd; yn ogystal â thrafodaethau parhaus gyda thîm Rheoleiddiol Llywodraeth Cymru a'n cyllidwyr.


Roeddwn yn awyddus i hybu'r sefydliad, ond roedd hyn yn dod â'i anawsterau a'i wersi ei hunain. Bydd unrhyw un a fu yn y byd gwaith yn ddigon hir yn gorfod ymdopi gyda gwrthdaro ar ryw bwynt - a rhoddodd dysgu sut i ymddwyn mewn sefyllfa ystafell bwrdd oedd weithiau'n heriol y dulliau a hyder i mi fydd gennyf am weddill fy ngyrfa.


Yn ystod fy mlwyddyn gyntaf ymddiswyddodd y Cadeirydd a bu Mike yn llwyddiannus yn cael y swydd. Cefais fy ethol yn Is-gadeirydd yn fuan wedyn yn 27½ oed. Roedd gweithio gyda Mike yn brofiad anhygoel - roedd yn fentor ardderchog a dysgodd gymaint i mi. Yn sylfaenol, roedd yn fy ystyried yn gyfartal ag ef ac yn parchu fy marn a phenderfyniadau.


O negodi gyda chyllidwyr i wneud penderfyniadau ar recriwtio, es i deimlo allan o fy nyfnder i ffynnu yn fy swydd newydd. Treuliais dair blynedd yn y rôl ac mae gennyf atgofion hyfryd o'r cyfnod.


Os ydych yn meddwl am ymgeisio am swydd aelod bwrdd ond yn poeni eich bod yn rhy ifanc neu nad oes gennych ddigon o brofiad, fy nghyngor fyddai: ewch amdani! Mae pobl iau a thenantiaid gyda phrofiad rheng-flaen gyfredol o'r heriau sy'n wynebu cymunedau yn werthfawr tu hwnt a byddwch yn cael yr holl hyfforddiant cywir fel y gallwch ffynnu yn eich swydd.


Yn y pen draw, nid mater o oedran neu gefndir yw e. Mae'n ymwneud â bod ag ymrwymiad gwirioneddol i'r achos. Mae bod yn aelod bwrdd yn rhoi rhywbeth ychwanegol i chi. Mae'n eich galluogi i rannu eich barn yn uniongyrchol gyda gwneuthurwyr penderfyniadau. Byddwch yn wneuthurydd penderfyniadau!


Os ydych yn ei ystyried - does gennych chi ddim byd i'w golli. Cyn gwneud cais siaradwch gyda rhywun sydd wedi'i wneud o'r blaen. Gofynnwch iddynt am adborth gwirioneddol onest fel y gallwch adnabod gwendidau, ond peidiwch bychanu eich hunan - mae gennych gymaint o hawl i fod yn yr ystafell fwrdd ag unrhyw un arall.


Mae Cartrefi Cymunedol Cymru yn cynnal cwrs Cyflwyniad i Lywodraethiant ar 4 Mehefin. I archebu lle cliciwch yma.