Jump to content

15 Mehefin 2017

Nid fi oedd e, ond Bennett Arron…




Er bod lladrad hunaniaeth yn eithaf cyffredin erbyn hyn, pan ddigwyddodd i mi nifer o flynyddoedd yn ôl, wyddai neb fawr am y drosedd. Mewn gwirionedd, fe wnes ddarganfod wedyn mai fi oedd y cyntaf ym Mhrydain i ddioddef mewn modd mawr o'r drosedd.


Ar y pryd, roedd yn rhaid mi ddarbwyllo'r heddlu - yn ogystal â'r cwmnïau yr honnwyd fod arnaf arian iddyn nhw - mai fi oeddwn i, ac nid y person yn cymryd arno i fod yn fi.


Roedd rhywun wedi defnyddio fy enw ar gyfer gwerth miloedd o bunnau o ddyledion drwg. Fe roddodd hyn raddiad credyd gwael i mi a olygai na allwn gael morgais, na fedrwn gael cerdyn credyd ac na fedrwn agor cyfrif banc.


Fel canlyniad i'r drosedd yma, deuthum yn ddigartref ac ar y clwt. Cymerodd dros ddwy flynedd i mi glirio fy enw ac rwy'n dal i ddioddef y canlyniadau.


Ychydig flynyddoedd ar ôl i hyn ddigwydd, fel rhyw fath o ymarferiad cathartig, ysgrifennais sioe gomedi am y profiad (fel y byddech yn disgwyl i ddigrifwyr wneud). Fel canlyniad i'r sioe gofynnwyd i mi fod yn siaradwr gwadd mewn confensiynau Diogelwch/Technoleg Gwybodaeth/Twyll o amgylch y byd. Gofynnodd Channel 4 i mi hefyd yr hoffwn wneud rhaglen ddogfen ar y pwnc.


Yn y rhaglen ddogfen, How To Steal An Identity, profais mor rhwydd yw cyflawni lladrad hunaniaeth datblygu yn gyntaf drwy fynd drwy sbwriel rhywun am 1 o'r gloch yn y bore ac yna agor stondin mewn canolfan siopa a dweud wrth bobl y medrwn rwystro rhag iddynt gael eu hunaniaeth wedi'i ddwyn pe byddent yn rhoi eu manylion personol i fi. Gellir gweld y rhaglen ddogfen yma.


Y peth arall a wnes yn y rhaglen oedd dwyn hunaniaeth yr Ysgrifennydd Cartref.


Gyda dyfodiad gwefannau cymdeithasol fel Facebook, mae gan dwyllwyr yn awr ffordd newydd o gael gwybodaeth bersonol oherwydd, yn ogystal â gadael i'w teuluoedd a'u ffrindiau wybod beth maent yn ei wneud ac ym mha hwyliau y maent, mae pobl yn tueddu i ychwanegu eu cyfeiriad, eu dyddiad geni a gwybodaeth am le a phryd maent yn mynd ar wyliau!


Ond nid mater i'r unigolyn yn unig yw hyn: ni ddylai banciau, siopau, cwmnïau ffôn symudol ac yn y blaen fod yn cymryd cwsmeriaid newydd heb fod â'r seilwaith cywir. Rwyf wedi ymgyrchu am hyn i'r llywodraeth - er mai'n debyg nad wyf yn boblogaidd iawn gyda nhw - yn ogystal ag ymgyrchu i wneud cwmnïau yn fwy trylwyr yn eu prosesau sgrinio. Mae'n rhy rhwydd i ddim ond cymryd cleientiaid newydd a delio gydag unrhyw ganlyniadau twyll wedyn.


Nid yw cael eich hunaniaeth wedi'i ddwyn yn drosedd heb ddioddefwr. Mae ymhell iawn o hynny. A gall bod â graddiad credyd gwael achosi problemau di-ben-draw.


Ond peidiwch cymryd fy ngair i amdano, gofynnwch i Bennett Arron ...
Bennett Arron
Digrifiwr ac Arbenigwr ar Ladrad Hunaniaeth
(Twitter.com/BennettArron)




Bydd Bennett yn siarad yn ein Cynhadledd Cyllid a Thechnoleg Gwybodaeth ar 13/14 Gorffennaf - archebwch eich lle nawr drwy fynd i'n gwefan: https://chcymru.org.uk/en/events/view/2017-finance-and-it-conference1


Mae llyfr newydd Bennett Heard The One About Identity Theft? ar gael yma.