Jump to content

02 Mawrth 2017

Neges gan Carl Sargeant

Picture of Carl Sargeant


Mae tai yn gymaint mwy na brics a morter. Mae cartref gweddus yn golygu cael rhywle i deimlo'n ddiogel a chlud, rhywle cynnes a sych sy'n gwella iechyd yn hytrach na'i beryglu, amgylchedd lle gall plant ganolbwyntio ar ddysgu i'w helpu i sicrhau cynnydd mewn bywyd. Rhywle sy'n gwella bywydau yn hytrach na dim ond eu lletya.


Mae gennyf ymrwymiad dwfn i wneud hyn yn realaeth i bawb. Rydym eisoes wedi ymroi i ddarparu cyfanswm o 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod cyfnod hwn y llywodraeth. I'n helpu i wneud hyn, llofnodais y cytundeb Cyflenwi Tai gyda CHC a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ym mis Rhagfyr i ymrwymo i gydweithio a, gyda'ch help, gwn y gallwn gyflawni'r targed uchelgeisiol yma.


Picture of the signed PACT


Yn gynharach y mis hwn cyhoeddais gronfa £20m newydd i ddarparu modelau arloesol o dai i helpu mynd i'r afael â'r her o gyflenwi cartrefi'n gyflym heb leihau ansawdd. Bydd y cartrefi hyn yn cyfrannu at ein targed a hefyd yn helpu i'n hysbysu am y math o gartrefi y dylem eu cefnogi yn y dyfodol. Rydym angen cartrefi fydd yn cyflawni heriau'r dyfodol - poblogaeth sy'n heneiddio, pwysau cynyddol ar iechyd a gofal cymdeithasol, newid yn yr hinsawdd, y cynnydd mewn tlodi tanwydd a'r angen i gyflawni targedau gostwng carbon.


Fodd bynnag, ni fydd cartrefi newydd yn ddigon ar ben eu hunain. Mae angen i ni hefyd ddiogelu'r cartrefi a adeiladwn a'r rhai sydd gennym eisoes ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol felly fis nesaf byddaf yn cyflwyno Mesur i ddiddymu'r Hawl i Brynu.


Mae'r Hawl i Brynu wedi costio 45% o'i stoc tai cymdeithasol i Gymru. Rydym yn dal i weld eiddo rhent cymdeithasol yn cael eu tynnu o'n stoc tai, sy'n gorfodi llawer o bobl agored i niwed i aros yn hirach am gartref. Mae angen gweithredu cadarn i sicrhau fod tai cymdeithasol ar gael ar gyfer y rhai sydd fwyaf ei angen. Mae angen i ni sicrhau fod gennych chi, fel darparwyr cartrefi rhent cymdeithasol, yr hyder i adeiladu cartrefi newydd a sicrhau bod y stoc presennol yn ddiogel, cynnes ac effeithiol o ran ynni, gan wybod y caiff buddsoddiad ei ddiogelu.


Rydym wedi gosod y sylfeini i gyflawni ein targedau ac ni fedrid bod wedi gwneud hyn heb ddull partneriaeth cryf rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol, Cymdeithasau Tai a chyrff eraill yn y Trydydd Sector. Mae nerth y cydweithio yn y sector tai bob amser wedi gwneud argraff arnaf. Dymunaf gynnal hyn a'i ddatblygu ymhellach i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru le gweddus i'w alw'n gartref.
Carl Sargeant
- Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant