Mynd i'r afael â phremiwm tlodi drwy rannu data #1
Cefais gyfle'n ddiweddar i gyflwyno 'Ffordd Coastal' i gyfarfod chwe-misol y pedwar ffederasiwn tai - Cartrefi Cymunedol Cymru, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai yr Alban, Ffederasiwn Cymdeithasau Tai Gogledd Iwerddon a'r Ffederasiwn Tai Cenedlaethol.
Roedd y cyflwyniad yn rhoi sylw i'n hymdrechion i ail-lunio'r ffordd y gweithiwn o amgylch dwy thema ganolog - perthnasoedd a data. Yn sylfaenol, rydym wedi bod yn meithrin gallu a sgiliau i adeiladu perthnasoedd gwell (gyda thenantiaid, rhanddeiliaid a'n gilydd) ac yn coleddu technoleg newydd, mesurau a rhannu data.
Un o'r newidiadau mwyaf a wnaethom yw drwy ddefnyddio Insight, cynnyrch y Housing Partners. Mae'r system wybodaeth yma'n rhannu data a gedwir yn gyhoeddus am denantiaid Coastal mewn fformat rhwydd ei ddefnyddio. Daw un o'r setiau data allweddol drwy Rental Exchange, sy'n gynllun ar y cyd rhwng Big Issue Invest ac Experian. Cynlluniwyd y cynnyrch i fynd i'r afael â'r premiwm tlodi y mae tenantiaid tai cymdeithasol yn ei brofi oherwydd ffeiliau credyd tenau neu wael. Mae rhannu patrymau talu rhent tenantiaid gyda Experian yn golygu os dim arall, y bydd tenantiaid yn cael budd ar unwaith o gael dilysiad digidol o hunaniaeth sy'n cael effaith gadarnhaol ar eu sgôr credyd. Yn hanfodol i ni, gallwn wedyn gael mynediad i wybodaeth amser real ar iechyd ariannol tenantiaid sy'n golygu y gallwn dargedu'r bobl gywir i gynnig cefnogaeth iddynt a/neu eu cyfeirio at gyngor ariannol.
Cefais fy meirniadu am fod yn gynnar wrth fabwysiadu'r cynnyrch hwn. O'r cwestiynau a godwyd yn y Senedd, at gael cais i esbonio i Lywodraeth Cymru ein bwriadau am ddefnyddio'r cynnyrch a nifer fawr o suon o amgylch y sector fod Coastal wedi mynd yn 'frawd mawr o ddifrif'. Rwyf wedi siarad yn gyson yn erbyn yr hyn a ystyriaf yn agweddau naill ai hen-ffasiwn neu nawddoglyd sy'n sylfaen i lawer o'r pryderon hyn. Nonsens yw'r syniad fod tenantiaid rywsut angen eu 'hamddiffyn' rhag corfforaethau mawr drwg fel Experian. Mae tenantiaid sydd eisoes yn byw yn y byd hwnnw (mae pawb ohonom yn gwneud hynny!) a pho gyntaf y defnyddiwn y data er budd tenantiaid ac nid i barhau'r anfantais honno, gorau oll.
Rwy'n falch i weithio i sefydliad na phetrusodd pan ddaeth y cynnyrch ar gael. Roedd yn un o'r rhesymau y gwn i mi wneud y symudiad cywir o yrfa mewn tai â chymorth i anghenion cyffredinol. Os yw darparwyr tai cymdeithasol yn wirioneddol o ddifrif am wneud cyfraniad mawr i fynd i'r afael â thlodi, yna mae cofrestru ar gyfer Rental Exchange yn un ffordd o helpu cyflawni'r uchelgais hwnnw. Dyna pam i mi fachu ar y cyfle i hyrwyddo Rental Exchange gyda thimau arweinyddiaeth y ffederasiynau tai oherwydd gyda'i gilydd, dychmygwch yr effaith cyfunol y gallem ei gael ar fenthycwyr diwrnod cyflog! Mae benthycwyr llog uchel yn dal pobl sydd ar neu o dan y llinell dlodi i yn wystlon, gadewch i ni wneud rhywbeth amdano.