Jump to content

19 Mehefin 2019

Mynd i'r afael â fforddiadwyedd o'r sylfeini

Mynd i'r afael â fforddiadwyedd o'r sylfeini
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i landlordiaid cymdeithasol ddangos sut y gwnaethant ystyried fforddiadwyedd wrth osod rhenti, gan ei gadael i'r landlord diffinio beth yw ystyr fforddiadwy. Mae Dan Hayes yn Rheolydd Cyfrif Rhent yn Trivallis, ac mae'n dweud wrthym sut maent yn gwneud yn siŵr fod eu tenantiaid yn rhan allweddol o wneud penderfyniadau.


"Yn Trivallis mae gennym dros 10,000 o anheddau o wahanol feintiau ac mewn gwahanol rannau o ardal Rhondda Cynon Taf, felly nid oedd dull un maint i bawb ar gyfer rhent fforddiadwy yn gweithio i ni na'n tenantiaid.


Nid yw cymryd cyfartalog yn ystyried yr ystod rhenti ar gyfer gwahanol fathau o anheddau na sut mae incymau'n amrywio rhwng pobl sengl a theuluoedd.


Mewn byd delfrydol, byddai rhent fforddiadwy yn seiliedig ar amgylchiadau personol pob person, ac er bod un sefydliad wedi rhoi cynnig ar y dull gweithredu yma nid oedd yn gynnig realistig i ni. Nid wyf yn credu y bydd unrhyw fodel gosod rhent yn sicrhau fforddiadwyedd ar gyfer pob tenant ym mhob amgylchiadau, ond yn Trivallis roeddem eisiau sicrhau y byddai ein Rhenti Byw yn fforddiadwy yn arbennig ar gyfer pobl sy'n gyflogedig ac ar incwm isel, tra bod yn deg i bob tenant.


Pan oeddem yng nghamau cynnar sefydlu ein model Rhenti Byw, fe wnaethom yn siŵr ein bod yn cael barn ein tenantiaid. Dywedodd y rhai a gymerodd ran yn ein harolygon wrthym y credent y byddai'n decach seilio ein rhenti ar incwm rhai ar gyflog is ym mhob ardal, o gymharu gyda defnyddio ffactorau fel galw neu fynediad i wasanaethau.


Fe wnaethom benderfynu seilio ein gwaith ar fodel Rhent Byw Sefydliad Joseph Rowntree (JRF), gyda 28% o incwm chwartil is net unigol ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn sylfaen.


Mae'r cyfrifiad Rhent Byw yn defnyddio graddfa cyfwerth sy'n cymryd data yn seiliedig ar unigolion ac yn addasu hyn i weithredu i deuluoedd. Mae'n rhan allweddol o fethodoleg Rhent Byw, ac fe wnaethom ei ddefnyddio mewn cyfuniad gyda'n data dyraniadau i benderfynu ar y wahaniaethau mewn rhent ar gyfer pob math o eiddo.


Caiff natur amrywiol Rhondda Cynon Taf ei adlewyrchu mewn incwm a dibyniaeth ar fudd-daliadau. Roedd yn amlwg fod angen i ni fedru rhoi ystyriaeth i'r gwahaniaethau hyn er mwyn cael model fforddiadwyedd mwy cywir. Felly, rydym wedi defnyddio haen arall o ystadegau incwm aelwydydd ar lefel mwy manwl i addasu rhenti uwch neu islaw'r cyfartalog. Mae gan hyn y budd ychwanegol o wneud y model yn fwy dibynadwy gan y caiff unrhyw wendidau ym mhob set data ei niwtraleiddio gan y llall.


Gwyddom y bydd cynyddu rhenti mewn rhai ardaloedd yn dal i olygu fforddiadwyedd ar gyfer y tenantiaid hynny, ond mae gennym beth gwaith i'w wneud er mwyn helpu eraill i ddeall y symud i'r model Rhenti'n Byw. Rydym hefyd yn sylweddoli y bydd angen i gyflwyno'r model fod mewn camau dros nifer o flynyddoedd, a bydd unrhyw bolisi gan Lywodraeth Cymru a newidiadau mewn lefelau incwm yn gosod cyfradd cydgyfeirio.


Er fy mod yn falch iawn o waith y tîm i gyflawni'r polisi hwn, rwy'n ymwybodol iawn mai amser fydd yn dangos os yw'n wir yn gweithio i'n tenantiaid ai peidio. Fodd bynnag rydym yn hyderus fod gennym yr ethos cywir yn Trivallis a'n bod wedi dilyn dymuniadau ein cwsmeriaid, felly i ni, bydd y camau nesaf yn cynnwys gweithio gyda Tai Pawb i fonitro'r effaith ar grwpiau sy'n wynebu rhwystrau strwythurol (ifanc, henoed, anabl a rhai o gymunedau BME), a gwneud yn siŵr fod y system yn gweithio i'n tenantiaid."