Myfyrio - dal y drych i berfformiad optimol
Mae'n rhwydd diffinio manteision myfyrio ar berfformiad. Pwy na fyddai eisiau cytuno i gynyddu hunanymwybyddiaeth, gwella gallu i wneud penderfyniadau, tyfu a'r gallu i gynhyrchu arloesedd a'r gallu i fod yn drugarog. Swnio'n dda yn tydi? Fodd bynnag, nid yw myfyrio yn fwled arian - nid yw bob amser yn torri drwy gymhlethdod neu'n rhoi datrysiad ar unwaith.
Mae angen cynhwysion neilltuol. Gwyddom na fydd myfyrio yn llosgi twll yn eich balans banc, ond mae angen yr adnodd pwysig hynny sef amser. Byddwch hefyd angen rhywfaint o gywreinrwydd. Chwiliad ontolegol efallai - pwy ydych chi'n ei fod? Ffocws sy'n galw mwy o 'weithio mewn' yn hytrach na 'gweithio allan'.
Os gallwch dawelu'r amgylchedd o'ch amgylch ac ysgogi cywreinrwydd yna mae'ch ffordd o feddwl yn awr yn dod yn allweddol. Yn llythrennol agor drysau myfyrio. Fel yr ysgrifennais yn fy llyfr cyntaf It's Not About the Coach “For many individuals their mirror is broken, unable or un-wanting to reflect and be curious”. Yn syml, mae ganddynt ofn beth y gallent ddod o hyd iddo.
Nid yw'r hyn a gredwch; efallai nad bod yn annigonol yw ein hofn mwyaf. Yn hytrach na hynny mae'r pŵer a'r cyfrifoldeb i weithredu yr ydym yn cilio rhagddo. Ofn y golau, nid y tywyllwch.
Mae symud o gloi i edrych yn ein galluogi i berfformio ar ein gorau, gan fynd i gyfnodau o lif pan ydym fwyaf ei angen. Lle'r ydym yn gweithredu ac yn teimlo ein gorau, mae ein hymdeimlad o'r hunan yn diflannu ac mae ffocws dwfn ar y nawr. Caiff cymryd risg bwriadol, dysgu a chymhelliant oll eu cyflymu.
Ymarfer myfyriol, ymarfer sy'n gweithio. Fel swyddogion Adnoddau Dynol a Dysgu a Datblygu, gallai cyfleoedd ffurfiol gynnwys - Hyfforddiant , Cymuned a Datblygiad Proffesiynol Parhaus. Anffurfiol hefyd - cymudo, coffi a chlonc. Y naill ffordd neu'r llall, rhowch ganiatâd i'ch hunan ac eraill i blymio'n ddwfn. Bydd cymhlethdod yn rhoi'r ffordd i eglurdeb wrth i ddatrysiadau ymddangos. Arwyddion gwella a golau ar ben draw'r twnnel wedi'r cyfan...