Jump to content

01 Awst 2018

Myfyrdodau ar Brexit

Myfyrdodau ar Brexit
Gyda thymor y Cynulliad a San Steffan wedi dirwyn i ben am doriad yr haf, gallwn (efallai) deimlo rhyddhad nad oes rhaid i ni fod yn talu sylw di-baid i’r newyddion am yr ychydig wythnosau nesaf rhag ofn i rywbeth, unrhyw beth, gael ei benderfynu ynglŷn â’n perthynas yn y dyfodol gyda’r Undeb Ewropeaidd. Wrth i ni ffarwelio a digwyddiadau cynhyrfus (a dweud y lleiaf) yr ychydig fisoedd diwethaf, mae hwn i’w weld yn amser da i fyfyrio am ble’r ydym ni ar hyn o bryd fel y gallwn o leiaf fynd i’r tymor nesaf gyda rhyw fath o ddealltwriaeth. Dydw i ddim yn disgwyl i’r tymor nesaf fod yn ddim llai cynhyrfus, ond efallai y bydd yna o leiaf ychydig o ddatrysiadau ar y bwrdd.


Fel y saif pethau, mae’n ymddangos fod tri dewis ynglŷn â’r hyn a all ddigwydd wedi Brexit, ac o dderbyn y ffordd yr aeth y bleidlais, go brin y bydd yr un o’r tri’n bodloni pawb. Serch hynny, pan ddaw Ebrill mae’n debyg y byddwn yn un o’r sefyllfaoedd hyn:


Dim Cytundeb:
Dyma’r opsiwn Brexit Caled, y dewis y mae nifer fach ond llafar o Aelodau Seneddol yn brwydro drosto. Golygai hynny na fyddai’r DU wedyn yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd, yr Undeb Tollau nag unrhyw un o’n cytundebau masnach presennol. Golygai fod y Deyrnas Unedig yn gwbl annibynnol ac yn gorfod negydu’n cytundebau ni’n hunain a’n rheolau mewnfudo (ymhlith ffactorau eraill). Gan ddibynnu ar ba ochr i’r ffens ydych chi’n eistedd, byddai hyn y canlyniad gwaethaf bosibl neu’r peth gorau un a welwyd erioed. O gofio fod dadansoddiad y Llywodraeth ei hun yn rhagweld y gallai Brexit Heb Gytundeb arwain at fwlch o £80 biliwn yn y cyllid cyhoeddus, dylai hyd yn oed y rhai sydd o blaid Brexit Caled fod ychydig yn bryderus ynglŷn ag ymhle y bydd y colledion hynny yn digwydd. O’m safbwynt i, mae’n ymddangos mai i gyfeiriad y Brexit Heb Gytundeb y mae pethau’n symud wrth weld yr holl ymddiswyddiadau a gwrthryfela diweddar.


Cytundeb:
Mae ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r Undeb Ewropeaidd gyda rhyw fath o gytundeb ymhell o fod yn syml ac mae manylion ar y math o delerau a allai fod ar y bwrdd yn hynod amwys. Mae’r Undeb Ewropeaidd a’r rhan fwyaf o Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn honni ar y cyfan eu bod eisiau i Brexit fod mor gytûn ag sy’n bosibl, a olygai y byddai’r telerau’n amlinellu’r manylion ynghylch sut y bydd y Deyrnas Unedig yn rhyngweithio gyda’r Undeb Ewropeaidd o ran masnach, mewnfudo a gwneud cyfreithiau. Os daw cytundeb i fodolaeth mae’n debygol o fod yn seiliedig ar gynnal cysylltiadau agos yn rhai meysydd pwysig, megis masnach amaethyddol. Mae gwahanol grwpiau eisiau gweld cytundeb seiliedig ar wahanol ffactorau ac yn wir mae unrhyw fath o gytundeb yn annhebygol o fod yn un fydd yn cadw pawb yn hapus. Y tebygrwydd yw y bydd cytundeb yn gofyn am gyfaddawdu o’r ddwy ochr ac wrth i’r terfyn amser agosáu mae’n destun pryder nad oes arwyddion o’r cyfaddawdu hwnnw yn dod i’r fei.


Ail refferendwm:
O gofio mor gostus yw refferenda o ran arian ac amser, mae hyn ymhell o fod yn ddewis delfrydol ac mae llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud nad yw’n rhan o’u cynlluniau. Fodd bynnag, o ystyried y beirniadu a fu ar y trafodaethau, yn ogystal â phryderon y Comisiwn Etholiadol ynglyn a’r modd y cynhaliwyd y refferendwm gwreiddiol, o rai safbwyntiau ail refferendwm yw’r unig ddewis. Byddai hyn yn caniatáu i’r pleidleiswyr gael y gair olaf ar y telerau terfynol, gan gynnig hefyd y dewis o aros yn yr UE yn hytrach na derbyn y telerau hynny. .


Yn y pen draw, gallai unrhyw un o’r dewisiadau hynny ddod i fodolaeth ac ar hyn o bryd mae pob cam ymlaen fel pe baen nhw’n cael eu dilyn gan ddau gam yn ôl. Roedd cytundeb Chequers yn teimlo fel ychydig o ennill tir, ond dangosodd yr ymddiswyddiadau a ddilynodd a’r ‘gwelliannau’ wedyn i’r ddeddfwriaeth fod yr anghytuno o fewn y llywodraeth yn ddwfn ac mae rhai Aelodau Seneddol yn anfodlon cyfaddawdu dim i gyfeiriad y Prif Weinidog.


Cynhaliwyd y refferendwm fwy na dwy flynedd yn ôl ac ymhen wyth mis fe ddylai’r Deyrnas Unedig fod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd er gwell neu er gwaeth. Sut bynnag oeddech chi’n teimlo wrth ddeffro ar 24 Mehefin 2016, credaf y byddai pawb wedi gobeithio a disgwyl y byddai gennym well syniad erbyn hyn beth fyddai o’n blaenau pan ddaw mis Mawrth.