Jump to content

29 Mawrth 2017

Mwy o'r un fath?

Picture of Paula Kennedy


Cyflwyniad byr yn gyntaf - Paula ydw i, ac rwy'n Brif Wethredydd cymharol newydd Cartrefi Melin, ar ôl cychwyn ar y gwaith ar ddechrau mis Chwefror.


Efallai y bydd rhai ohonoch yn fy adnabod eisoes gan fy mod wedi gweithio yn y sector tai cymdeithasol am dros 26 mlynedd, gyda thua 14 ohonynt yng Nghymru. Yn fwy diweddar bûm yn gweithio i gymdeithas trosglwyddo stoc yn Swydd Henffordd ac i ddarparydd tai, iechyd a gofal cymdeithasol elusennol ym Mryste.


Pan adewais Bryste, dywedais nad yw cyfleoedd ar gyfer swyddi uwch yng Nghymru yn codi'n aml iawn, ond rydych yn aros am naw mlynedd am swydd Prif Weithredydd ac yna daw naw i gyd gyda'i gilydd! Beth mae hyn yn ei olygu yw y bydd y sector tai yng Nghymru ar lefel Prif Weithredydd yn dechrau edrych ar bethau gyda sawl pâr ffres o lygaid.


Mae hyn yn bwysig oherwydd bod yr heriau sy'n wynebu Melin yn y dyfodol yn heriau a gaiff eu rhannu ac na chaiff eu datrys gan ddull 'mwy o'r un fath'. Caiff rhai o'r heriau eu rhannu gyda sefydliadau eraill sydd, fel ni, yn tyfu ac arallgyfeirio, rhai gyda sector tai Cymru, rhai gyda sector tai y Deyrnas Unedig a rhai gyda'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Fel y gwelaf i bethau, yr heriau hynny yw:
  • Cadw diwylliant a gaiff ei arwain gan werthoedd ar draws y sefydliad mewn gweithlu cynyddol wasgaredig a mwy niferus

  • Negodi cytundeb rhent tymor hirach gyda Llywodraeth Cymru ar gefn eu targedau tai fforddiadwy

  • Y fframwaith ehangach ar gyfer tai cymdeithasol a adeiledir gan San Steffan y mae'n rhaid i gymdeithasau Cymru weithredu o'i fewn

  • Cyflawni ar yr agenda gwerth am arian ac arddangos gwerth cymdeithasol

  • Y pwysau cynyddol ar gyllid refeniw ac effaith cyni cyllidol ar ein preswylwyr


Cyn ymuno â Melin, gofynnwyd i mi beth y dymunwn ei gael gan staff i ateb yr heriau sy'n wynebu'r busnes ac i yrru'r busnes ymlaen. Fy ateb oedd fod eisiau i staff fod yn ddewr, masnachol, onest - ac roeddwn eisiau iddyn nhw fecso.


Ddeufis yn y swydd ac rwy'n gweld y staff ym Melin yn anelu bod yr holl bethau hyn, felly mae gennym gyfle gwych i sicrhau'r twf a datblygiad sefydliadol a ddymunwn. Fel sector, mae angen i ni fod yr holl bethau hyn os ydym i fod ag unrhyw gyfle o gyflawni nid yn unig ein huchelgais ein hunain ond hefyd y rhai a osodir i ni gan Lywodraeth Cymru. Yn bwysicach byth, os ydym i gyflawni ar gyfer ein preswylwyr a'r cymunedau yr ydym yn rhan ohonynt nid oes gennym unrhyw ddewis heblaw bod yr holl bethau hyn.
Paula Kennedy
- Prif Weithredydd, Cartrefi Melin