Jump to content

17 Mawrth 2015

Mintai tai o Gymru i gyhwfan y faner yn San Steffan

Bydd mintai o hanner cant o Gymru yn teithio i Lundain heddiw i drafod gydag Aelodau Seneddol Cymru sut mae'r penderfyniadau a wnânt yn San Steffan yn effeithio ar y sector tai yng Nghymru.

Bydd y grŵp, sy'n cynnwys 23 o sefydliadau o bob rhan o Gymru, hefyd yn mynychu rali 'Homes for Britain' rali lle disgwylir y bydd 2,500 o bobl yn bresennol i galw ar y Llywodraeth nesaf i ddod â'r argyfwng tai i ben o fewn cenhedlaeth.

Dywedodd Stuart Ropke, Prif Weithredydd Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru: "Cafodd tai ei ddatganoli i Gymru, ond rydym eisiau sicrhau bod Aelodau Seneddol Cymru yn cymryd rhan mewn trafodaethau ac yn chwarae eu rhan i ddod â'r argyfwng tai yng Nghymru i ben.

"Mae ein neges iddynt yn syml: mae'r sector tai yng Nghymru yn adeiladu cymunedau cynaliadwy, yn darparu swyddi a chyfleoedd i denantiaid ac yn ysgogi'r economi. Ond mae rhai penderfyniadau a wneir yn San Steffan yn cael goblygiadau go iawn ar allu ein haelodau i adeiladu mwy o gartrefi a buddsoddi mewn cymunedau."

Ychwanegodd Helen Northmore, Cyfarwyddydd CIH Cymru:

"Mae diwygio lles yn cael effaith fawr yng Nghymru ac mae'n gwaethygu'r argyfwng tai yma. Mae'r cymhorthdal ystafell sbâr neu 'dreth ystafelloedd gwely' yn achosi pryder mawr ledled Cymru. Cynyddodd ôl-ddyledion rhent ar draws y sector gan fwy na £5m yn chwe mis cyntaf y polisi gyda dros hanner tenantiaid tai cymdeithasol yn gweld cynnydd yn lefelau eu dyled bersonol.

"Rydym hefyd eisiau i denantiaid yng Nghymru gael yr un dewis ag sydd gan denantiaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon dan Credyd Cynhwysol. Ar hyn o bryd mae mwyafrif y tenantiaid yn dewis i'w budd-dal tai gael ei dalu'n syth i'w landlord ond ni fydd yr hawl yma ganddynt dan Credyd Cynhwysol.

"Mae'r polisïau hyn yn peri bygythiad go iawn i les ariannol tenantiaid ac mae ganddynt oblygiadau ar gyfer ein haelodau a'u gallu i adeiladu mwy o gartrefi a buddsoddi mewn cymunedau."

Ychwanegodd Stuart: "Rydym hefyd yn galw ar y Llywodraeth nesaf i sicrhau fod Cymru'n derbyn cytundeb cyllido teg gan San Steffan. Gan fod gan Gymru boblogaeth hŷn ac mai hi yw'r genedl dlotaf yn y Deyrnas Unedig lle mae GDP yn dal i fod yn is nag unrhyw le arall, mae angen ei chyfran deg o gyllid cyhoeddus.

"Edrychwn ymlaen at drafod hyn gydag Aelodau Seneddol Cymru a chefnogi cydweithwyr yn y sector tai ar draws y Deyrnas Unedig i alw ar bob plaid wleidyddol i ddod â'r argyfwng tai i ben o fewn cenhedlaeth."