Materion Cartref: Rhaid i Lywodraeth Cymru fuddsoddi nawr mewn cymorth tai os yw ei chynlluniau i roi diwedd ar ddigartrefedd i lwyddo
Dengys adroddiad gan CHC a Cymorth nad yw’r cynlluniau gwariant arfaethedig ar gyfer gwasanaethau cymorth tai a ddigartrefedd yn ddigonol o gofio am y galw a’r cymhlethdod cynyddol
Er bod y cytundeb diweddar gyda Phlaid Cymru wedi lleddfu pryderon am beidio pasio’r gyllideb ac yn hwb a groesewir i lywodraeth leol, mae gwir gynnwys y gyllideb yn parhau’n llai na syfrdanol. Mae’r gyllideb hon – cyllideb “ymlaen gan bwyll” – yn golygu y bydd gwasanaethau cyhoeddus allweddol yn sylweddol ar eu colled, gydag aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas yn dioddef fel canlyniad.
Mae gan wasanaethau cyngor a chymorth tai – bydded hynny mewn awdurdodau lleol, cymdeithasau tai neu’r sector elusennol – rôl hollbwysig mewn atal a lliniaru digartrefedd. Maent yn helpu degau o filoedd o bobl bob blwyddyn i gael adferiad o ddigwyddiadau trawmatig a’u rhoi ar drywydd bywyd diogel ac annibynnol.
Caiff y gwasanaethau hyn ei hariannu’n bennaf gan y Grant Cymorth Tai, rhan o gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer Cefnogi ac Atal Digartrefedd. Mae’r grant yn cyllido rhaglenni hollbwysig tebyg i lety diogel ar gyfer menywod sydd wedi profi cam-drin domestig a chymorth pwrpasol ar gyfer pobl gydag anableddau.
Ond fel y dengys adroddiad Cymorth a Cartrefi Cymunedol Cymru, mae’r gwasanaethau hyn ar ymyl y dibyn diolch i gostau uwch, cynnydd mewn galw a chymhlethdod anghenion cymorth.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cynnydd chwyddiant o 2% i’r linell Cymorth ac Atal Digartrefedd. Fodd bynnag, nid yw hyn yn ddigon i dalu’r cyflog byw gwirioneddol i staff, talu am gostau cynnydd mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac ymdopi gyda galw cynyddol. Dyna pam ein bod yn annog Aelodau o’r Senedd i wthio am gynnydd arall o 10% mewn cymorth digartrefedd a thai.
Dywedodd y sector cymorth tai wrthym, fel canlyniad i’r cynnydd o 2%, ei fod yn debyg o ostwng capasiti, rhewi recriwtio a – gan bennaf – i beidio cynnig am gontractau. Dywedodd tua 63% o’r ymatebwyr wrthym eu bod yn debyg o ddileu swyddi. Byddai dileu swyddi a rhewi recriwtio yn gyfwerth â cholli 300-400 o swyddi yn y sector.
Mae galw sydd eisoes yn sylweddol ar wasanaethau cymorth, ac yn wir dai cymdeithasol, yn debygol o gynyddu wrth i ddeddfwriaeth newydd ddod i rym. Un o nodau canolog y Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol, sydd ar ei hynt drwy Senedd Cymru ar hyn o bryd, yw creu system digartrefedd fwy ataliol ac sy’n canolbwyntio mwy ar unigolion.
Mae nifer o rannau allweddol y Bil yn cyfeirio’n benodol at ddarparu cymorth tai ar gyfer pobl fregus. Un o’r rhain yw cyflwyno dyletswydd newydd ar awdurdodau lleol i helpu ymgeiswyr digartref i gadw llety addas unwaith y cafodd ei sicrhau. Rydym wedi parhau i gefnogi’r cynnig hwn a chredwn y bydd yn arwain at newid sylweddol gwirioneddol wrth helpu i gadw pobl yn byw’n dda yn eu cartrefi.
Fodd bynnag, mae lefel y cymorth a’r cymhlethdod sy’n wynebu’r rhai mewn llety digartrefedd yn elfen hanfodol fydd yn hybu costau. Gyda’r sector digartrefedd a chymorth tai eisoes yn ei chael yn anodd darparu’r cymorth hanfodol mae pobl ei angen, mae llwyddiant diwygio deddfwriaethol yn dibynnu ar Grant Cymorth Tai a gyllidir yn briodol, a all ddechrau gyda’r gyllideb hon.
Gyda’i gilydd, mae mwy o fuddsoddiad cyfalaf drwy’r Grant Tai Cymdeithasol a’r Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol a diogelu cyllid Cymorth Dewisol ar gyfer y rhai mewn angen brys, yn fesurau hanfodol y mae’n rhaid i’r gyllideb hon eu cydnabod. Ynghyd â chynnydd ystyrlon yn y Grant Cymorth Tai, mae’r buddsoddiad hwn yn caniatáu sector tai cymdeithasol gydag adnoddau da a all wneud mwy o gyfraniad at greu Cymru decach ac iachach.