Jump to content

26 Hydref 2021

CHC yn cyfri’r dyddiau at COP: Sut mae gwaith datgarboneiddio cymdeithasau tai yn gyrru sgiliau newydd?

CHC yn cyfri’r dyddiau at COP: Sut mae gwaith datgarboneiddio cymdeithasau tai yn gyrru sgiliau newydd?

Wrth i ni gyfri’r dyddiau at COP26 mae Bethan Proctor, ein Rheolwr Polisi a Materion allanol, yn esbonio’r ffyrdd y gall y sector tai fynd i’r afael â’r prinder sgiliau presennol er mwyn cyrraedd targedau sero-net newydd.

Uwchgynhadledd COP26 fydd y digwyddiad hinsawdd pwysicaf ers llofnodi Cytundeb Paris 2015. Bydd arweinwyr o bob rhan o’r byd yn ymgynnull yn Glasgow i wneud penderfyniadau ar sut y gallwn, fel y dywedodd Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, “adennill yn lanach, ailadeiladu’n wyrddach ac adfer ein planed.”

Bydd angen i’r sgiliau cywir fod yn eu lle er mwyn cyflawni’r pethau hyn. Ni ellir mynd i’r afael â newid hinsawdd os nad ydym yn cynyddu nifer y gweithwyr medrus sydd eu hangen i gynnal rhaglenni datgarboneiddio. Yn y sector tai, bydd hyn yn golygu hyfforddi mwy o weithwyr gyda sgiliau traddodiadol megis towyr, plymwyr a thrydanwyr yn ogystal â sgiliau ‘gwyrdd’ newydd tebyg i osodwyr pympiau gwres, cydlynwyr ôl-osod ac arbenigwyr cyngor.

Pa mor fawr yw’r her?

Mae modelu CITB yn awgrymu y bydd angen 12,000 ychwanegol o weithwyr cyfwerth ag amser llawn erbyn 2028 er mwyn yn bennaf sicrhau gwelliannau mewn adeiladau presennol i ostwng y galw am ynni. Mae hyn yn gynnydd o bron 11% ar faint presennol y gweithlu yng Nghymru.

Dengys adroddiad Cyfeillion y Ddaear ar ‘Gynllun Argyfwng ar Swyddi Gwyrdd ar gyfer Pobl Ifanc’ nad yw llawer o safonau prentisiaeth yn bodoli hyd yma, er enghraifft ôl-osod tai cyfan, tra bo eraill angen diweddariadau pwysig a/neu ehangu nifer yn sylweddol, tebyg i osodwyr pympiau gwres.

Mae’r Rhwydwaith Sgiliau Adeiladu yn rhagweld gofyniad recriwtio blynyddol o dros 2,000 o seiri a chrefftwyr dodrefnu ac ychydig dan 2,000 o blymwyr a chrefftwyr HVAC (Gwresogi, Awyriant a Thymheru Aer) ar draws Prydain hyd at 2023. Wrth ochr y crefftau hyn, mae’r Ffederasiwn Adeiladwyr Meistr hefyd yn cynnwys plastrwyr a thowyr yn y chwech uchaf o alwedigaethau lle mae prinder.

Felly sut gallwn adeiladu’r gweithlu medrus hwn?

Mae Rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio Llywodraeth Cymru yn lle da i ddechrau. Dan y prosiect Braenaru, y mae 26 cymdeithas tai yn cymryd rhan ynddi, cafodd nifer o brosiectau bach eu darparu i ddynodi bylchau presennol mewn sgiliau o fewn y diwydiant ôl-osod a datblygwyd fframwaith ar gyfer cynyddu sgiliau ac ailhyfforddi gweithwyr proffesiynol presennol yn y diwydiant.

Mae Bwrdd Hyfforddiant y Diwydiant Adeiladu (CITB) yn dweud fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried sut y gall y Rhaglen Ôl-osod ar gyfer Optimeiddio a’r Rhaglen Tai Arloesol ddarparu llinell glir o waith ac annog y diwydiant i fuddsoddi i greu gweithlu adeiladu gwyrdd. Dylai hefyd ystyried sut y gall caffael cynyddu sgiliau sero-net a hyfforddiant. Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol hefyd wedi argymell fod Llywodraeth Cymru yn datblygu pecyn ysgogiad economaidd sy’n arwain at greu swyddi a chefnogi datgarboneiddio cartrefi.

Beth am amrywiaeth?

Mae cyfle gwych yma i greu swyddi lleol ansawdd da, hirdymor. Dywedodd undeb y GMB mai dim ond 12.5% o weithlu’r diwydiant adeiladu sy’n fenywod a dim ond 5.4% o gefndir Du, Asiaidd a Lleiafrif Ethnig. Mae angen gwneud mwy i ddenu’r dalent orau bosibl, yn cynnwys rhai o grwpiau a dangynrychiolir. Mae’r Gymdeithas Contractwyr Trydanol yn credu fod angen gwell negeseuon ar draws y sector i wneud yn glir fanteision dod yn ymarferydd yn y diwydiant, yn cynnwys bod yn rhan o fynd i’r afael yn uniongyrchol i drin yr argyfwng hinsawdd.

Mae creu swyddi newydd i drin newid hinsawdd yn sefyllfa pawb ar eu hennill. Nid yw hyn wrth gwrs yn rhwydd a bydd angen mewnbwn gan lywodraethau, y diwydiant a darparwyr hyfforddiant. Mae’r ymrwymiad yno a gyda COP26 bron gyda ni, a gyda COP26 bron gyda ni, disgwylir i’r teimlad o frys dyfu yn ddibendraw – mae’n rhaid iddo.