Marchnata Cymru i'r Byd - Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA 2017
Dau gan miliwn o bobl. 200,000,000 o bobl!!!!
Dyna faint o bobl ym mhedwar ban byd a edrychodd ar rownd derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA a gynhaliwyd yng Nghaerdydd.
Roedd llygaid y byd arnom a chafodd Croeso Cymru gyfle unwaith mewn oes i farchnata'r ddinas a'r wlad. Ond sut mae mynd ati i gynllunio pan na wyddoch pa dimau fydd yn y rownd derfynol? Pwy ydych chi'n marchnata iddyn nhw?
Roedd ein hateb yn syml; byddem yn paratoi deunydd marchnata mewn chwe iaith: Sbaeneg, Almaeneg, Eidaleg, Ffrangeg, Cymraeg a Saesneg. Cafodd taflenni eu creu, erthyglau eu hysgrifennu a fideos eu cynhyrchu. Wrth i'r rownd derfynol agosáu a thimau'n cael eu trechu, gwyddem pa wledydd oedd yn debygol o fod yn y rownd derfynol.
Mae Iwerddon, y Deyrnas Unedig a'r Almaen i gyd yn farchnadoedd allweddol ar gyfer Croeso Cymru, felly nid oedd yn ddim syndod fod llawer yn y swyddfa wedi dechrau cefnogi Bayern Munich. Roedd yn ergyd pan gafodd Munich a Dortmund eu curo yn y rowndiau gogynderfynol, gan adael dim ond Atlético Madrid v Real Madrid a Juventus v Monaco.
Mae Almaenwyr yn hoffi ardaloedd gwledig, cestyll a diwylliant Cymru. Mae'n well gan yr Eidalwyr a'r Sbaenwyr draethau melyn a haul, felly roeddem bellach yn marchnata i gynulleidfa newydd.
Roedd llwyddiant tîm Cymru ym mhencampwriaeth Euro 2016 wedi codi proffil y wlad, ynghyd â Gareth Bale yn dod yn bêl-droediwr drutaf y byd pan ymunodd â Real Madrid. Gydag Athletico a Real yn y rowndiau cynderfynol, gwyddem y byddai tîm o Madrid yng Nghaerdydd. Buom yn gweithio gyda Visit Beritain ac Iberia i hedfan newyddiadurwyr draw ar dripiau cynefino iddynt ysgrifennu erthyglau a ffilmio darnau teledu o'r ddinas.
Roedd Iberia ar fin cychwyn hediadau uniongyrchol rhwng Madrid a Chaerdydd a roddodd gyfle i ni farchnata Caerdydd i'r farchnad yn Sbaen fel y gyrchfan ddelfrydol ar gyfer gwyliau penwythnos. Comisiynwyd lluniau newydd, fideos ac erthyglau a ddosbarthwyd i gyfryngau Sbaen a Real Madrid TV sydd â chynulleidfa o filiynau.
Gwelodd yr elfen cyfryngau cymdeithasol ni yn creu negeseuon pwrpasol ar gyfer pob tîm o amgylch pob gêm ac, ynghyd â hedfan blogiwr fideo yma o Madrid, sicrhau y byddem yn derbyn sylw gwych ar sianeli cyfryngau cymdeithasol.
Roedd marchnata Cymru ar gefn rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yn her ond yn un y gwnaethom ei chroesawu. Madrid enillodd y gêm, gan ddod y tîm cyntaf i amddiffyn y teitl yn oes Cynghrair y Pencampwyr, ond enillodd Caerdydd a Chymru filoedd o ddilynwyr newydd.
https://www.youtube.com/watch?v=ebNxr-OuY8U
Hoffech chi wybod mwy am lwyddiant Croeso Cymru yn marchnata Caerdydd i'r byd? Dewch i'n Cynhadledd Cyfathrebu ar 25 Ionawr 2018! Archebwch eich lle yma: https://chcymru.org.uk/en/events/view/2018-communications-conference
Gwydion Griffiths
Rheolwr Marchnata Rownd Derfynol Cynghrair Pencampwyr UEFA
Croeso Cymru
@croesocymru